Cyflwyniad gan Dr Jonathon Gray: Un o nodau allweddol Sefydliad Calon y Ddraig yw datblygu arweinwyr trawsnewid y dyfodol trwy raglenni gwaith cyffrous a phartneriaethau rhyngwladol gyda meddylwyr mwyaf blaenllaw’r byd. Un o’r bobl hynny yw Syr Muir Gray. Mae Syr Muir wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers 1972, mewn amrywiaeth o uwch swyddi yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ar gyfer Anglia and Oxford Regional Health Authority, a sefydlu ac yna dod yn Gyfarwyddwr ar Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Sefydlodd y Llyfrgell Genedlaethol Iechyd, ac roedd yn Gyfarwyddwr ar Wybodaeth, Proses a Diogelwch Clinigol Rhaglen Genedlaethol TG GIG (Lloegr), gan gyflawni rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol. Ef oedd y person cyntaf i gael swydd Prif Swyddog Gwybodaeth y GIG (Lloegr), ac roedd hefyd yn gyd-Gyfarwyddwr ar raglen ‘Right Care’ Ansawdd, Arloesi, Cynhyrchiant ac Atal (QIPP) yr Adran Iechyd. Rydym wrth ein bodd ei fod yn un o’r prif athrawon ar ein rhaglen Climb. Darllenwch ei flog cyntaf ar gyfer Sefydliad Calon y Ddraig isod:

Mae angen chwyldro mewn gofal iechyd arnom, nid achos arall o ad-drefnu, ond chwyldro arall. Rydym wedi cael chwyldroadau yn y gorffennol. Roeddem ni’n meddwl bod gofal iechyd yn ddiogel, oni bai am yr ambell achos trychinebus achlysurol a aeth i’r llys, tan i adroddiad o’r enw An Organisation with a Memorygael ei gyhoeddi a oedd yn amlygu pa mor gyson oedd camgymeriadau’n digwydd.

Roedd hyn yn wir ynghylch ansawdd hefyd. Roeddem yn tybio bod clinigwyr medrus yn rhoi gofal o ansawdd uchel tan i adroddiad arall o’r enw Crossing the Quality Chasm ddatgelu pa mor amrywiol oedd ansawdd y gofal a chyn lleied o fewnwelediad oedd gan glinigwyr neu eu sefydliadau cyflogi i hyd a lled y broblem.

Nawr mae’r angen am ddiwylliant o ddiogelwch a gwelliant o ran ansawdd yn cael ei gymryd yn ganiataol, yn ogystal â’r angen am effeithlonrwydd, er mwyn cynhyrchu canlyniadau da heb lawer o gost, ond nid yw’r chwyldroadau hyn yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd i bawb, hynny yw gofal iechyd sy’n decach ac sy’n diwallu anghenion pawb waeth beth fo’u gallu i dalu, ac wrth gwrs gall Cymru fod yn falch o’i rhan yn y gwaith o greu gofal iechyd cyffredinol a theg o ganlyniad i waith Aneurin Bevan a Julian Tudor Hart.

Yr her yw bod yr angen a’r galw yn cynyddu’n gynt nag adnoddau. Digwyddodd hyn cyn COVID-19 a bydd yn parhau i ddigwydd ar ôl y pandemig, ac mae wedi llwyddo i amlygu’r ffaith fod adnoddau pwysicach nag arian, sef offer ac amser staff.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan fydd COVID-19 yn ddim ond problem iechyd arall, bydd y bwlch rhwng yr angen a’r galw yn parhau i dyfu. Bydd hyn yn arwain at y galw i newid strwythur neu drefniadau ariannu gofal iechyd ond ni fydd hynny’n mynd i’r afael â’r broblem ac yn sicrhau cynaliadwyedd, gan nad yw’n mynd i’r afael â’r brif broblem, ac nid poblogaeth sy’n heneiddio (yr amheuaeth gyffredin) yw hynny.

Mae dadansoddiad gan yr OECD yn dangos mai’r prif achos yw’r hyn a elwir gan David Eddy yn “the relentless increase in the volume and intensity of clinical practice” yn ei erthygl glasurol ym 1993 yn Journal of the American Medical Association. Mae’n cael ei gyfleu gan gynnydd mewn profion a thriniaethau, i gyd yn seiliedig ar dystiolaeth ac o ansawdd uchel, wedi’u darparu’n effeithlon ond nid yw o leiaf 10% o’r gweithgarwch yn ychwanegu gwerth at yr unigolion sy’n cael eu trin na’r poblogaethau a ddarparodd yr adnoddau ariannol.

Y chwyldro sydd ei angen yw canolbwyntio ar werth, gan mai gofal iechyd ar sail gwerth yw’r model newydd; mae’n chwyldro diwylliannol gyda diwylliant stiwardiaeth yn sbardun chwyldroadol ar gyfer newid. Mae gwerth yn cysylltu deilliannau ac adnoddau ond mae hefyd yn bwysig cofio bod adnoddau yn golygu cymaint mwy nag arian. Maent hefyd yn cynnwys amser (staff ynghyd â’u gofalwyr) a phethau megis carbon.

Mae Sefydliad Calon y Ddraig eisoes wedi nodi’r angen i wneud gwerth optimaidd adnoddau yn flaenoriaeth, o gaffael yr adnoddau hynny hyd at eu hailgylchu. Mae gwerth yn oddrychol, yn dibynnu ar safbwynt. Yn gyntaf, mae safbwynt personol sy’n pennu i ba raddau y bydd yr ymyrraeth yn gwella nid eu clefyd, ond ei effaith ar y broblem a oedd yn effeithio arnynt fwyaf. Yna mae safbwynt y gwasanaeth iechyd. Mae hwnnw’n canolbwyntio ar ansawdd, diogelwch ac effeithlonrwydd y gwasanaeth a ddarperir i gleifion ar hyn o bryd, ond fel y gwnaeth John Kotter, un o broffwydi arweinyddiaeth, dynnu sylw ato, does dim byd mor ddiwerth â gwneud rhywbeth yn effeithlon, er na ddylid gwneud y peth hwnnw yn y lle cyntaf beth bynnag.

Mewn rhai achosion, caiff yr ymyrraeth ei rhoi i bobl sydd â diagnosis ond sydd heb wneud dewisiadau eto, ac y byddai’n well ganddynt gael triniaeth fwy syml neu ddim triniaeth o gwbl. Rydym yn trin y cleifion anghywir; nid peidio ag adnabod y cleifion cywir ond y rhai hynny lle nad yw eu problemau a’u dewisiadau wedi’u gwirio. Yn ogystal, rydym yn gwybod ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, lle mae’r atgyfeiriad yn seiliedig ar feini prawf amwys, y ceir anghydraddoldeb; mae pobl o is-grwpiau lleiaf difreintiedig y boblogaeth yn cael mwy o ofal na phobl o is-grwpiau mwyaf difreintiedig y boblogaeth.

Yna mae’r trydydd dimensiwn, dimensiwn y boblogaeth. Ydy dyrannu adnoddau’r boblogaeth i segmentau gwahanol o’r boblogaeth, i bobl sydd â phroblemau anadlol neu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl er enghraifft, yn optimaidd? Mae hwn yn benderfyniad ar sail gwerth, dyrannu gwerth. Dyna yw’r gwir gyda phenderfyniadau ynghylch sut y mae’r gwasanaeth iechyd, a ariennir gan y boblogaeth, yn defnyddio’r adnoddau hynny hefyd. Ydyn nhw, er enghraifft, yn rhoi eu holl gontractau i gwmnïau mawr neu ydyn nhw’n cefnogi cwmnïau lleol sy’n cyflogi pobl leol, yr hyn a elwir yn werth cymdeithasol?

Mae angen chwyldro diwylliannol arnom o ddiwylliant sy’n credu bod gwerth yn cael ei optimeiddio gan gontractau wedi’u drafftio’n fwy gofalus a rheoliadau yn cael eu gweithredu’n fwy trylwyr, i ddiwylliant o stiwardiaeth lle mae pawb, clinigwyr a rheolwyr ill dau, yn teimlo eu bod nhw’n gyfrifol am ddefnyddio adnoddau, er mwyn optimeiddio gwerth, lleihau gwastraff a rhwystro anghydraddoldeb.

Mae’r Academi Colegau Meddygol Brenhinol wedi amlygu’r angen am hyn yn ei hadroddiad yn 2014 ar Amddiffyn Adnoddau a Hyrwyddo Gwerth, sy’n nodi:

mae osgoi gwastraff a hyrwyddo gwerth yn ymwneud ag ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion – un o bryderon canolog meddygon. Mae gwastraff un meddyg yn golygu oedi i glaf arall. O bosibl, gall olygu diffyg triniaeth i glaf arall. Mae hefyd cost glinigol ynghlwm â gwastraff adnoddau yn ogystal â, fel mae’r adroddiad yn dangos, cost i’r amgylchedd.

Dyma ddiwylliant stiwardiaeth, a’r prif fater sy’n gwahaniaethu rhwng arweinyddiaeth a rheoli yw bod arweinyddiaeth yn gyfrifol am ddiwylliant ac mae rheoli yn gweithio o fewn y diwylliant hwnnw.

Ein cenhadaeth yw datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth ac mae angen dull newydd o reoli. Mae angen sefydliadau wedi’u rheoli’n dda arnom, ond mae hefyd angen systemau ar gyfer pob rhan o’r boblogaeth, pob un â rhwydwaith lleol a chyllideb benodol. Mae angen arweinyddiaeth arnom hyd yn oed yn fwy i ddatblygu’r diwylliant o stiwardiaeth a thrawsnewid i fod yn ofal iechyd ar sail gwerth; y model newydd i sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd i bawb.

Am gyfle i weithio gyda Syr Muir a dysgu oddi wrthynt, gwnewch gais i Climb heddiw drwy fynd i dudalen we Climb.

Avatar photo
Written by:
Muir Gray