Un o uchafbwyntiau fy wythnos oedd siarad â Yasmina Hamdaoui, fferyllydd sy’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd. Mae Yasmina yn un o aelodau sefydlu’r Grŵp Gwyrdd yn ei hysbyty ac yn olau arweiniol y tu ôl i rwydwaith Iechyd Gwyrdd Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni.

Cafodd Yasmina ei geni ym Mhwllheli i rieni o Algeria a’r Alban, ac astudiodd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl cyn symud i weithio ym Mangor. Harddwch traethau a mynyddoedd Gogledd Cymru yw un o’r rhesymau am ei diddordeb mewn iechyd planedol.

Fel fferyllydd, mae hi’n dod â safbwynt arbennig o werthfawr i’r agenda gofal iechyd cynaliadwy. Cyffuriau a deunydd fferyllol yw’r ffynonellau mwyaf o allyriadau yn y GIG ac maent yn gyfrifol am 23% o ôl-troed carbon y GIG (Ymddiriedolaeth Garbon 2018/19).

Sefydlwyd y Grŵp Gwyrdd yn sgil cyfarfod rhwng clinigwyr ar y rheng flaen i drafod sut i wneud eu hysbyty yn fwy cynaliadwy. Gwnaethant ddylunio ffurflen i’w cymheiriaid e chwblhau, a oedd yn casglu ystod o syniadau a fwydodd i fanc o brosiectau. Ffurfiwyd y grŵp amlddisgyblaethol yn sgil prosiect Enghreifftiol Bevan a daeth i’r amlwg yn fuan wedyn bod prosiectau eisoes ar y gweill nad oeddent yn gwybod amdanynt. Dechreuon nhw gyhoeddi ffurflenni a phosteri a chynnal digwyddiadau. Dechreuon nhw gyhoeddi ffurflenni a phosteri a chynnal digwyddiadau.

Wrth i aelodau’r grŵp ddechrau cyfarfod, roeddent yn ei gweld hi’n rhyfedd fod eu huwch gydweithwyr, gan gynnwys nifer o feddygon ymgynghorol, wedi rhoi rheolaeth lwyr iddynt ac wedi gwrthod ymgymryd ag unrhyw rolau arwain. Mae Yasmina yn ystyried hyn yn gam hanfodol o ran y datblygiad. Gyda chymorth ac anogaeth eu huwch gydweithwyr, fe fagodd y grŵp hyder.

Avatar photo
Written by:
William Beharrell