Cyflwyniad gan Jonathon Gray: Ble mae’r llinell rhwng y posibilrwydd a’r credadwy? A sut mae ein bod ni fel arweinwyr yn ei groesi? Yn y darn hwn, mae fy nghyd-Aelod a’m cyfaill, Hahrie Han, Cyfarwyddwr Sefydliad Agora SNF a’r Labordy P3 ym Mhrifysgol Johns Hopkins yn trafod sut y gallai arfogi arweinwyr â’r offer a’r sgiliau i drefnu eu cymunedau ein galluogi i ail-ddychmygu byd gwahanol, ac yna gweithio i’w wneud felly. Roeddem wrth ein bodd bod Hahrie wedi dod i’n rhaglen arweinyddiaeth Climb a chredaf o’r blog hwn y byddwch yn gallu gweld pam. Mae ei mewnwelediad amhrisiadwy i symudiadau cymdeithasol a threfniadaeth gymunedol, ochr yn ochr â’i phrofiad o weithio ar ymgyrch arlywyddol Obama, yn ei gwneud yn arweinydd byd-eang yn y maes hwn. Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael gweithio ochr yn ochr â hi i gyflwyno Climb.

Pan ddechreuodd y pandemig yn ystod gwanwyn 2020, penderfynodd y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol ei fod am greu “Capsiwl Amser ar gyfer Ymchwilwyr Cymdeithasol y Dyfodol,” er mwyn i ysgolheigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau allu cofnodi’r cyfnod hanesyddol anghyffredin hwn. Gwnaethant ofyn i bob un ohonom ddewis gwrthrych gweledol a oedd yn cynrychioli’r pandemig, ac wedyn cymryd rhan mewn cyfweliad amdano.

Pan gefais fy ngwahodd i fod yn rhan o’r capsiwl amser hwn dewisais lun o weithiwr gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau yn sefyll yn ddigynnwrf yn y stryd yn ei sgrybs yn ceisio rhwystro menyw ddig a oedd yn protestio yn erbyn y gorchmynion i aros gartref rhag gallu symud ei char. Roedd cymaint o resymau gennyf dros ddewis y llun hwnnw, ond un ohonynt oedd y ffordd yr oedd y llun yn amlygu gallu’r pandemig i ddangos pa mor bwysig ydoedd ein bod ni i gyd yn dod o hyd i ffyrdd o weithio gyda’n gilydd i greu’r byd rydym yn ei ddymuno.

Yn ôl ym mis Mai 2020, dywedais, “Mae’r gwrthwynebiad rhwng y ddau berson yn y llun yn pwysleisio, i fi, yr angen gwirioneddol sydd arnom i greu undod o’r newydd o’r gwaelod i fyny, ond hefyd yr heriau cynhenid a wynebwn wrth wneud hynny.” Roedd y pandemig yn brawf straen enfawr ar gyfer ein cymdeithas fyd-eang, gan ymestyn yr holltau a fu’n dod i’r golwg ac, mewn rhai achosion, eu rhwygo ar wahân. Gwnaeth fy atgoffa o lythyr yr ysgrifennodd yr awdur George Orwell at ei ffrind yn 1940, pan roedd yr ail ryfel byd yn rhwygo’r gymdeithas. Ysgrifennodd, “Mae’r hen fywyd rydym yn gyfarwydd ag ef yn cael ei lifio o’r gwreiddiau.” Mae’n teimlo fel ein bod mewn moment arall fel honno, gan fod y pandemig, y newidiadau yn yr economi fyd-eang, yr heriau gwleidyddol sy’n effeithio ar gymaint o wledydd, a’r holl anhrefn cymdeithasol sy’n ategu’r newidiadau hyn, yn herio’r gwaith a wnawn a’r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Mae seiliau ein byd yn cael eu llifio o’r gwreiddiau. Y cwestiwn yw, beth allwn ni ei wneud i ailddychmygu byd gwahanol, ac yna gweithio i’w sicrhau?

REUTERS / Alyson McClaran

Fel rhywun sy’n astudio symudiadau cymdeithasol, trefnu cymunedol a gwleidyddiaeth sydd wedi’i symbylu gan bobl fel strategaeth ar gyfer newid cymdeithasol, rwyf bob amser yn troi’n reddfol at y syniad o bobl pan fyddaf yn wynebu cwestiynau mawr fel hyn. Pwy yw fy mhobl, a beth sydd ei angen arnynt? Yn ystod y pandemig gwelsom gymaint o bobl – o ddarparwyr gofal iechyd i weithwyr iechyd y cyhoedd i gymdogion – yn camu i’r adwy ac yn gofyn yr un cwestiwn, “Beth sydd ei angen ar fy mhobl?” Hyd yn oed pan nad oedd llywodraethau’n cyflawni ar ein cyfer, dangosodd bŵer sylweddol tosturi pobl a oedd wedi’i ffrwyno.

Wrth i ni ddechrau troi cornel ar y pandemig, ac ailystyried yr heriau a’r cyfleoedd hirdymor sydd bellach yn ein hwynebu, y cwestiwn yw beth y gallwn ei wneud i fanteisio ar y gorau o’r hyn y gwnaethom ei ddysgu am ein hunain yn ystod y pandemig, er mwyn i ni oresgyn yr heriau sydd wedi cael eu datgelu? Rwy’n sicr bod yr ateb, yn rhannol o leiaf, yn ymwneud ag ystyried sut y gallwn adeiladu ar yr hyn y gwnaethom ei ddysgu am beth y gall pobl ei wneud pan fyddant yn cydweithio, a dechrau ystyried sut y gallwn greu’r math o undod sydd ei angen arnom i adeiladu’r gymdeithas ryngddibynnol sydd ei hangen arnom.

Yr elfennau hynny – sef meithrin undod, creu strwythurau i hwyluso annibyniaeth, addysgu pobl i weithio gyda’i gilydd – yw’r gwaith trefnu. Mae trefnu, yn sylfaenol, yn ymwneud â galluogi grŵp o bobl i gydweithio i greu’r newid maent yn ei ddymuno. Gall pob un ohonom weld bod bwlch rhwng y byd fel ag y mae, a’r byd fel y dylai fod. Mae trefnu yn helpu pobl i ddysgu i gydweithio er mwyn gwneud y byd a ddymunwn yn realiti. Mae’n gweithio drwy nodi arweinwyr, creu cymuned o amgylch yr arweinwyr hynny, a defnyddio pŵer o’r gymuned honno i gyflawni newid.

Ond nid yw dysgu i wneud y gwaith hwnnw yn hawdd. Weithiau bydd pobl yn tybio, ar gam, mai cyfalaf cymdeithasol yw’r ateb – creu mwy o bobl sy’n fwy parod i estyn allan a meithrin cydberthnasau gyda’i gilydd. Mae cydberthnasau wrth wraidd trefnu, ac yn sylfaenol i’r modd y gall gwaith trefnu gyfrannu at fynd i’r afael â rhai o’r argyfyngau iechyd y cyhoedd a wynebwn. Ond, mae ei barhad, a’i allu i greu newid ar lefel systemig yn dibynnu ar lawer mwy na chyfalaf cymdeithasol. Mae hefyd yn dibynnu ar y mathau o strwythurau neu sgaffaldiau a grëwn o amgylch trefnwyr, aelodau cymunedol, ac arweinwyr iechyd y cyhoedd sy’n barod i wneud y gwaith. Sut ydyn ni’n mynd ati i roi’r gallu iddynt lywio byd sy’n gynyddol ansicr, a chreu’r galluoedd cyfunol sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd arweinwyr fel nhw yn parhau i ddod i’r golwg?

Credaf mai’r unig ffordd y gallwn gyflawni hyn oll yw drwy gydweithio, dymchwel y rhwystrau a fyddai wedi ein hatal rhag gwneud hyn yn y gorffennol, hyd yn oed rhwystrau fel ffiniau rhyngwladol. Rydyn ni yn Sefydliad SNF Agora yn edrych am bobl a sefydliadau sydd â’r un meddylfryd o amgylch y byd, â llygaid beirniadol a chalonnau llawn gobaith. Dyma pam rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio ochr yn ochr â Sefydliad Calon y Ddraig, a anwyd yn ystod yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru, gan gydnabod na allwn, yn syml, ddychwelyd i’r hen ffordd o weithredu. Yn hytrach, gyda’n gilydd, gallwn gymryd cam ymlaen i ddyfodol gofal iechyd, lle caiff gwasanaethau iechyd eu cydlunio gyda’r bobl sy’n eu defnyddio, lle gallwn oll fanteisio ar newid.

Fe wnes i orffen fy nghyfweliad am y capsiwl amser gydag un o’m hoff ddyfyniadau: “Gobaith yw credu yn nhebygolrwydd y posibl, yn hytrach na rheidrwydd y tebygol.” Roeddwn i’n credu hynny ar ddechrau’r pandemig, ac rwy’n dal i’w gredu nawr. Credaf yn gryf, os byddwn yn dysgu i gydweithio, gyda bwriad, i feithrin cydberthynas ddilys rhwng arweinwyr cyhoeddus a’r gymuned, a chreu strwythurau atebol i alluogi’r berthynas honno i dyfu, yna byddwn mewn sefyllfa well i ddatrys y problemau a wynebwn ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw credu, ac yna gweithredu i wneud y posibl yn fwy tebygol.

 

Am gyfle i weithio gyda Hahrie Han a dysgu oddi wrth, gwnewch gais i Climb heddiw drwy gymryd rhan yny dudalen we Climb.

Avatar photo
Written by: