O oedran ifanc, rwyf bob amser wedi gwybod mai nyrs fyddwn i. Mae fy chwaer, Sarah, yn anabl ac fel plentyn cefais fy magu yn dysgu sut i ofalu am bobl. Mae’r dyhead cynhenid hwnnw i ofalu bob amser wedi bod yn rhan o’m hunaniaeth, ac er bod fy rhieni bob amser wedi ymdrechu’n galed iawn i ganiatáu i mi ddilyn fy llwybr fy hun, mae’r llwybr hwnnw wedi fy arwain at fod yn ddarparwr gofal, i fod yn nyrs.

Mae rhywbeth sy’n galw nyrsys i’w proffesiwn. Pan gymhwysais fel nyrs, deuthum o hyd i ymdeimlad o bwrpas a hunaniaeth. Bydd yn rhan o bwy ydw i am weddill fy mywyd gwaith, ac rwy’n teimlo braint a balchder mawr yn ei rannu gyda chymaint o gydweithwyr yn Felindre ac yn y gwasanaeth iechyd ar draws y DU gyfan.

Fodd bynnag, nid oes dianc o’r ffaith bod nyrsio, yn syml iawn, yn waith caled. Os wnaethoch chi, fel fi, fynychu’r brifysgol yn syth ar ôl gadael yr ysgol, a chymhwyso fel nyrs dair blynedd yn ddiweddarach, mae’n anodd iawn dod i delerau â maint y cyfrifoldeb sy’n cael ei roi ar eich ysgwyddau fel person ifanc yn eich ugeiniau. Mae rhwydweithiau cymorth ar waith o’ch cwmpas, ond serch hynny rydych chi’n dod yn ymwybodol iawn o’r effaith wirioneddol y gallai eich gweithredoedd, a’ch penderfyniadau, ei chael ar eich cleifion.

Y llynedd, roeddwn yn ffodus iawn i ddechrau swydd newydd fel Prif Nyrs Glinigol ac er fy mod yn ddiolchgar am y cyfle, roedd y trawsnewidiad i rôl arwain yn 25 oed yn un anodd. Cefais fy hun yn datblygu agwedd fwy cadarn a difrifol yn y gwaith, gan fy mod yn teimlo fel pe bai’n rhaid i mi ymddwyn mewn ffordd benodol i ennill parch fy nghymheiriaid a phrofi y gallwn berfformio yn y swydd newydd hon.

Rwy’n sicr bod hyn yn rhywbeth y bydd pobl ifanc eraill yn fy swydd i’n gallu uniaethu ag ef. Ni chynigiwyd hyfforddiant ffurfiol ar sut i fod yn arweinydd (yn hytrach na rheolwr) a chredaf ei fod wedi cymryd blwyddyn neu fwy o fewnsyllu i ddod o hyd i’r math o arweinydd yr wyf am ei fod mewn gwirionedd; un sy’n hyrwyddo caredigrwydd, tosturi, datblygiad fy staff a chymheiriaid. Drwy ganolbwyntio ar bwy ydw i a’r hyn sy’n bwysig i fi, a bod yn fi fy hun, gallaf arwain gyda’m calon a pheidio â chuddio fy ngwendidau am fy mod ofn edrych yn wan. Fe wnes i ymuno â’r maes hwn i roi gofal, a dyna beth rydw i’n benderfynol o’i wneud — i’m cleifion a’m cydweithwyr.

Yn anffodus, mae’r pwysau yr ydym yn ei brofi o ddydd i ddydd yn golygu bod cyfleoedd datblygu yn brin iawn. Er nad oes gennyf yr atebion o ran sut rydw i’n mynd i gyflawni hyn eto, rwyf am sicrhau bod ein system yn cael ei sefydlu i gefnogi a datblygu’r arweinwyr naturiol yn y gweithlu iau, gan eu helpu i ddod o hyd i’w lleisiau, a throi eu syniadau yn realiti a fydd o fudd i’r rhai yr ydym yn gofalu amdanynt. Mae angen i ni hyrwyddo sgiliau’r sawl rydyn ni’n gweithio gyda nhw a chydnabod yr hyn sydd gan unigolion i’w gynnig.

Rwyf wedi dod i sylweddoli bod angen i ni gael sgwrs ddifrifol am ein hadnodd mwyaf gwerthfawr yn fy marn i: amser. Mae’r GIG yn mynnu bod amser yn adnodd hynod werthfawr i’n cleifion ac y dylem ymdrechu i beidio â’i wastraffu. Mae’r un mor werthfawr i ni fel staff. Gallaf dystio i hyn, gan fy mod wedi cael yr amser yn ddiweddar i wneud cais am Climb Cymru a’i fynychu.

Er y gall deimlo’n anodd gadael y ward a gadael eich cydweithwyr gan wybod pa mor brysur yw pethau, mae cael yr amser penodedig i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn amhrisiadwy. Mae’n caniatáu ichi ganolbwyntio ar eich twf. Credaf yn ddiffuant y bydd defnyddio ein hamser gwerthfawr yn y ffordd amhrisiadwy hon yn allweddol i ddatblygu a chadw ein gweithlu iau yn y dyfodol.

Fel y dywedaf, nid oes gennyf yr holl atebion, ac megis cychwyn fy nhaith arwain fy hun ydw i, gan ddarganfod y pethau hyn amdanaf fy hun a’m gyrfa mewn amser real. Yr hyn rwyf yn ei wybod yw bod cryfder mewn bod yn iau, ni yw pŵer cudd y gweithlu ac adnodd y dylid buddsoddi ynddo. Rwy’n benderfynol o hyrwyddo amser datblygu i staff lle bynnag y gallaf.

 

Mae ceisiadau ar gyfer ail garfan Climb yn agor ddydd Gwener 21 Ionawr 2022. Ewch i dudalen we Climb i gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno a gwneud cais.

 

Avatar photo
Written by:
Rhoswen McKnight