Fel nyrs, rwy’n treulio fy nyddiau yn sicrhau bod pawb yn iawn ac yn derbyn gofal. Mae hyn yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i mi, ac nid ydw i’n meddwl ddwywaith amdano. Treuliais dri diwrnod yn ddiweddar ar brofiad arweinyddiaeth ymdrwythol gyda rhaglen Arweinyddiaeth Climb Cymru. Pan oeddwn yno sylweddolais, er fy mod yn fedrus wrth ofalu am eraill, fy mod wir yn ei chael hi’n anodd gofalu amdanaf fy hun a buddsoddi ynof fy hun heb deimlo’n euog amdano.
Un o’m prif nodau wrth ddechrau Climb oedd hybu buddsoddiad yn y gweithlu nyrsio ac mae hynny’n rhywbeth sy’n dal i fod yn bwysig iawn i mi. Fodd bynnag, wrth fyfyrio ar ran ddiweddaraf y cwrs, sylweddolais ei bod nid yn unig yn iawn, ond yn angenrheidiol i mi feddwl amdanaf fy hun yn gyntaf a pheidio â theimlo’n ddrwg am wneud hynny.
Efallai bod hyn yn swnio’n hunanfoddhaus ond credaf fod mwy iddo.
Sut allwch chi hybu rhywbeth heb wybod a gallu dangos ei wir effaith? Allwch chi wir ddweud bod budd i fuddsoddiad heb fynd ar ei drywydd eich hun?
Roedd y tri diwrnod a dreuliais i ffwrdd o’r gwaith i fuddsoddi ynof fy hun wedi caniatáu imi feddwl am fy heriau arwain fy hun a ffyrdd o’u goresgyn. Rhoddais ganiatâd i’m hunan i ofalu amdanaf fy hun a meddwl amdanaf fy hun cyn eraill, sy’n rhywbeth yr wyf bob amser wedi ei chael yn anodd iawn i’w wneud. Roeddwn yn gallu cymryd cam yn ôl i werthuso a myfyrio mewn amser real. Fe wnaeth wella fy ymwybyddiaeth sefyllfaol a’m gallu i ddatrys problemau.
Fe wnes i oresgyn fy heriau heb i waith dynnu fy sylw. Fe wnes i lywio sefyllfaoedd gyda meddylfryd gwahanol. Ar y cyfan, rhoddodd gyfle i mi weld fy hun yn llygaid eraill. Fe wnaeth i mi gwestiynu: beth mae pobl yn ei weld ynof fi nad ydw i’n ei weld ynof fy hun?