Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Fforwm Gwella Ansawdd Cynaliadwy
“Ym maes gofal iechyd, mae gan bob un ohonom ddwy swydd: i wneud eich gwaith ac i’w wella.”
Mae hwn yn fantra cyffredin ym maes Gwella Ansawdd ond gyda’r argyfwng hinsawdd sy’n tyfu’n barhaus ac iechyd planedol yn dod yn fwyfwy pwysig, beth all gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei wneud i leihau effaith amgylcheddol eu hymarfer?
Mae’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy yn credu, drwy integreiddio cynaliadwyedd i wella ansawdd, y gellir mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol mewn gofal iechyd fel rhan greiddiol o ymarfer proffesiynol, gan ddefnyddio dull cydnabyddedig o newid.
Gwyddom fod ystod eang o staff yn cymryd rhan mewn rhyw fath o ymarfer gwella ansawdd a bod pawb am wneud pethau’n well i’n cleifion a’n planed. Mae Gwella Ansawdd Cynaliadwy (SusQI) yn fframwaith y gallech ei ddefnyddio i wneud hynny!
Er mwyn cyflwyno’r SusQI i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae Dr Stacey Harris, Cymrawd Clinigol ar gyfer Cynaliadwyedd, yn cynnal cyfres o fforymau SusQI rhithwir a hwylusir gan dîm Gwella a Gweithredu’r Bwrdd Iechyd.
Bydd y sesiynau hyn yn gyfle cyffrous i ddysgu am yr offer a’r sgiliau gwella ansawdd a allai hwyluso arfer cynaliadwy yn eich maes gwaith ac ymuno â mudiad cynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n angerddol am iechyd planedol.
Yn agored i holl staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cynhelir y sesiynau hyn ar Microsoft Teams ar yr adegau isod:
I ymuno, cliciwch ar y ddolen uchod. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!