Cefais y pleser o gael sgwrs gyda’r llawfeddyg offthalmig, Dan Morris, dros egwyl ginio yr wythnos diwethaf. Mae Dan yn llais arweiniol o safbwynt gofal iechyd cynaliadwy ac yn un o’r aelodau a fu’n gyfrifol am sefydlu’r Gweithgor Cynaliadwyedd RCOphth. Rydym yn ffodus o’i gael fel cydweithiwr yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, lle mae’n gweithio fel llawfeddyg y llygaid gyda’r tîm gwaelod y benglog, yn ogystal â bod yn offthalmolegydd gemau ar gyfer Undeb Rygbi Cymru. Mae Dan yn uchel ei barch am ei agwedd ewythrol tuag at ei gyfoedion, yn enwedig ei feddygon iau, ac israddedigion meddygol, ac mae wedi dod yn ffynhonnell wybodaeth ac arweiniad ar eu cyfer, yn ogystal ag yn oruchwyliwr nifer o brosiectau gofal iechyd cynaliadwy. Ond o dan yr wyneb digyffro a siriol hwn, mae athrylith (yng ngwir ystyr y gair), sydd wedi arwain Dan drwy amrywiaeth o weithgareddau heriol, y mae pob un ohonynt wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i ofalu am y blaned.

Pan oedd yn 14 mlwydd oed, perswadiodd ei athrawon i gyflwyno sgip ailgylchu papur yn eu hysgol. Ddim yn hir wedi hyn, daeth yn un o aelodau iau Greenpeace, a wnaeth yn fwy nag unrhyw grŵp arall yn y 1990au i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith CFCs, teneuo’r osôn, a chynhesu byd-eang. Yn ystod ei blentyndod yn Swydd Amwythig, cafodd flas am fynydda a dringo yng Ngogledd Cymru, a threuliodd amser helaeth yn crwydro’r ffyrdd nodweddiadol ar hyd Llwybr Llanberis. Cafodd gwymp difrifol fel myfyriwr yn St Andrews, ond nid effeithiodd hyn ar ei frwdfrydedd dros fynydda, sydd wedi mynd ag ef i rai o’r lleoedd mwyaf prydferth ar y ddaear, ac i’r byd ymchwil a meddygaeth hirdeithiau, y mae bellach yn ei addysgu i’r genhedlaeth nesaf o feddygon ifanc.

Fodd bynnag, mae rhewlifau y mae Dan wedi’u dringo, sydd wedi cilio ers cyfnod maith, ac mae rhai hyd yn oed wedi diflannu. Mae gweld canlyniadau uniongyrchol newid yn yr hinsawdd mewn lleoedd y bydd llawer ohonom byth yn ymweld â hwy, wedi cymell Dan i roi cynaliadwyedd wrth wraidd ei waith fel llawfeddyg. Mae’r cymhelliant hwn wedi’i atgyfnerthu gan ddyhead y bydd ei blant, a phlant y genhedlaeth nesaf, yn etifeddu planed lle gallant barhau i fwynhau’r profiadau harddwch naturiol sydd wedi cynnal Dan.

Mae’r GIG, sy’n cyfateb i tua 30% o’r sector cyhoeddus yn y DU, yn parhau i fod yn gyfrifol am oddeutu 5% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cred Dan y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn arwain y ffordd o ran lleihau’r niwed a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Ar gyfer ei waith gyda’r Tîm Llawfeddygaeth Gynaliadwy yng Nghymru, cafodd ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau BMJ 2020. Mae hyn yn cynnwys ymchwil a oedd yn amlygu ôl-troed carbon uchel llawfeddygaeth cataract yn y DU, o gymharu â lleoliadau eraill â lefel is o adnoddau.

Un o’r rhain yw’r System Gofal Llygaid Aravind yn Ne India, sydd wedi datblygu gwasanaethau cost isel, o ansawdd uchel, sydd ag ôl-troed carbon is. Mae 90 o’u llawdriniaethau yn cyfateb i ddau o’n rhai ni o ran ôl-troed carbon, y maent yn ei gyflawni’n rhannol drwy ailddefnyddio offer, ond hefyd drwy drefnu bod cymaint â phedwar claf ym mhob theatr llawdriniaeth ar yr un adeg.

Er gwaethaf dulliau gwahanol o ymdrin â ffactorau fel rheoli heintiau, risg, ymgyfreitha ac ati, mae ffyrdd y gallwn ddatgarboneiddio ein triniaethau cataract hyd yn oed ymhellach. Er enghraifft, gellir rhoi’r gorau i ofal ar ôl llawdriniaeth yn yr ysbyty, gan wybod bod cleifion yn cael y gofal priodol yn eu hapwyntiadau dilynol rheolaidd gyda’u hoptegydd; gellir defnyddio gwisg liain olchadwy yn lle gwisg blastig y gellir ond ei defnyddio unwaith; gallwn ddarparu ar gyfer 10 i 12 o gleifion, yn hytrach na chwech i wyth claf ar restrau cataract.

Avatar photo
Written by:
William Beharrell