Yn dilyn trychineb personol pan oeddwn i’n blentyn, fy uchelgais oedd gwneud pethau’n well i eraill. Gofalu am eraill, gwella a bod y gorau y gallwn fod. Gwnaeth rhywfaint o hyn ddwyn ffrwyth o ganlyniad i’m hyfforddiant i fod yn feddyg, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud.
Wrth i fi ddechrau ar fy nhaith rheoli, roeddwn yn aml yn wynebu materion nad oeddwn yn teimlo’n barod ar eu cyfer. Roeddwn bob amser yn ymwybodol o’m diffyg sgiliau neu wybodaeth ac nid chwilio am ddatrysiadau’n barhaus oedd y ffordd iawn ymlaen yn fy marn i. Roedd angen i fi ddeall systemau, ymddygiadau, rhwydweithiau, ac am amser maith rwyf wedi cael fy nrysu gan gymhlethdod y GIG a pham na allwn fynd ati i gyflawni pethau.
Yn debyg i lawer o bobl eraill, gwnaeth y pandemig COVID fy ngorfodi i edrych yn fanylach ar bethau, a gwelais drawsnewidiadau. Roedd hyn yn ddigon o dystiolaeth i fi o’r posibiliadau oedd ar gael. Dychmygwch beth y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd!
Fel ffoadur, rwyf bob amser wedi synnu at y gwastraff o fewn sefydliadau gofal iechyd. Rwyf bob amser wedi meddwl y gallem leihau gwastraff a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn ddarbodus. Ni chredaf mai’r datrysiad i broblemau’r sector cyhoeddus yw cynyddu cyllid. Yn hytrach rhaid bod yn ddarbodus a dilyn mesurau stiwardiaeth o fewn yr adnoddau a ddyrannir, gan ddymchwel rhwystrau ac integreiddio gofal. O ganlyniad i’r ffaith bod gohirio gofal yn dod yn broblem anorchfygol yn dilyn y pandemig, mae hyn yn bwysicach fyth.
Pam gefais e-bost ynghylch gwneud cais ar gyfer rhaglen Climb Cymru y llynedd, fe wnes i dybio ei fod yn ymwneud ag Eryri felly es ati i’w ddileu ar unwaith (sy’n dweud llawer am fy ffitrwydd). Eiliad yn ddiweddarach, ceisiais ddod o hyd iddo eto, er mwyn ei ddarllen yn fanylach. Dyma’r foment y gwnaeth pethau newid i fi.
Nawr, fel un o Arloeswyr cychwynnol Climb, rwyf wedi cael y profiad mwyaf anhygoel o rwydweithio a dysgu oddi wrth arweinwyr nid yn unig o Brydain, ond ar draws y byd. Mae’r hyfforddwyr yn arweinwyr rhyngwladol sydd â phrofiad o symudiadau torfol, yn meddu ar ddylanwad sylweddol ac yn gwbl ymrwymedig i’n grŵp ni y maent yn ei fentora. Nid dim ond rhaglen 10 mis yw hon, ond perthynas fagwrol barhaus i greu arweinwyr cynaliadwy. Rydym wedi bod yn brysur yn dysgu sut i gyflwyno areithiau arddull TED, yn gweithio ar brosiectau a hefyd yn cynllunio prosiect Cymru gyfan.
Mae’n anodd peidio â gadael heb deimlo wedi’ch bywiogi a’ch bywiocáu. Daeth y cyfle ar yr adeg iawn yn fy mywyd i, ac nid yw’n debyg i unrhyw raglen arwain arall. Mae’r rhwydwaith hwn wedi bod yn sgaffaldwaith angenrheidiol i fi.
Fel rheolwr rwy’n fwy ymwybodol, ac fel arweinydd, rwy’n cydnabod pwysigrwydd fy rôl a’m datblygiad o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn wedi fy ngalluogi i fyfyrio, cymhwyso gwybodaeth a chefnogi timau ac unigolion mewn ffordd gyflawn.
Byddai’r ferch 9 mlwydd oed honno y cafodd ei huchelgais ei llunio gan y trychineb hwnnw wedi bod yn hapus iawn â’r canlyniad hwn.
I ddarllen mwy am Climb ac i wneud cais i’r rhaglen, ewch i dudalen we Climb.