Fe’m cyflwynwyd i wirfoddoli cymorth cyntaf dyngarol yn y gwersylloedd i ffoaduriaid yng ngogledd Ffrainc yn 2016 pan ddychwelodd ffrind o gynllun sabothol yn yr hyn a elwid yn flaenorol yn ‘Jyngl Calais’. Roedd hwn yn wersyll cyfreithiol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a oedd yn gartref dros dro ar gyfer hyd at 10,000 o bobl o bob cwr o’r byd.
Gwnaeth y sgyrsiau a gefais ar y pryd wneud i mi sylweddoli na allwn barhau i wylio o bellter, ond yn hytrach, gwnaeth fy ysgogi i gymryd rhan, i rannu fy nhosturi a defnyddio fy sgiliau nyrsio ar yr un pryd yn y ffordd orau posibl.
Ers 2017, rwyf wedi gwirfoddoli gyda sefydliad o’r enw’r Tîm Cefnogi Cymorth Cyntaf (F.A.S.T) bob blwyddyn o leiaf unwaith (a cholli’r flwyddyn ddiweddaf yn anffodus, am resymau amlwg). Cafodd y cyn Jyngl Calais ei chwalu yn 2016; a symudodd ei breswylwyr ymlaen yn ddiwahân i ardaloedd eraill o Ffrainc, y byddai’r rhan fwyaf ohonynt yn dychwelyd i ardaloedd y porthladd yn hwyrach i barhau â’u taith. Mae hyn wedi arwain at greu nifer o wersylloedd anghyfreithlon, llai o faint ar draws yr ardal, sy’n cael eu chwalu’n barhaus gan heddlu Ffrainc sy’n defnyddio nwy dagrau a batonau i gael gwared ar yr eiddo a’r cysgodfannau prin sydd gan y bobl hynod ddewr a gwydn hyn. Pan fyddwn yn gwirfoddoli yn y gwersylloedd, byddwn yn aros yno am 3-4 diwrnod ar y tro, ac mae fy mhrofiadau yno wedi agor fy llygaid, wedi dylanwadu ar fy ymarfer, ac wedi fy newid fel person mewn mwy o ffyrdd nag y gallwn fod wedi’i ddychmygu.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio’n llawn amser yn Ysbyty Athrofaol Llandochau fel Uwch Nyrs Ymchwil. Mae Caerdydd yn amlddiwylliannol iawn ac mae rhai cleifion yn dod o wledydd lle ceir ansicrwydd gwleidyddol. Mae gwirfoddoli yn y gwersylloedd anghyfreithlon i ffoaduriaid wedi newid fy mhersbectif o’u profiadau, eu disgwyliadau a’u diwylliannau.