Mae CanSense ac IQ Endoscopes wedi cael arian i ddatblygu eu cysyniadau yng ngham cychwynnol yr Her Endosgopi, a gynhelir gan y tîm Arloesi o Shaping Change ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CAV UHB) ac wedi’u cefnogi gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, CCR (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd).

Mae’r Her Endosgopi yn chwilio am ddulliau arloesol o gyflymu’r broses o ddarparu triniaethau endosgopi yng Nghymru, gwella mynediad a lleihau amseroedd aros cleifion. Ar hyn o bryd mae’r rhestr aros ar gyfer endoscopïau yng Nghymru dros 300,000 ac mae’n parhau i dyfu. Mae’r Athro Jared Torkington a thîm ‘Shaping Change’ CAV UHB yn arwain yr Her, a ariennir gan grant gwerth £750k gan Gronfa Her CCR.

Cafodd dau ymgeisydd gefnogaeth i ddatblygu eu prosiectau ymhellach a chynnal astudiaethau dichonoldeb. Mae’r cwmni o Abertawe, CanSense, yn datblygu prawf sy’n seiliedig ar waed er mwyn helpu i flaenoriaethu cleifion ar y rhestr aros endosgopi ac yn lleihau amser i gael diagnosis, tra bod IQ Endoscopes, sydd wedi’i leoli yng Nghas-gwent, yn datblygu endosgopau hyblyg untro cynaliadwy sy’n negydu’r angen am brosesau dadhalegru amser a drud. Mae disgwyl i gam hwn yr Her ddod i ben ar ôl tri mis.

Dywedodd yr Athro Jared Torkington, arweinydd clinigol yr Her, Llawfeddyg Colorectal Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Arloesi yn CAV UHB: “Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i gryfhau ein cydweithio â phartneriaid ymhellach wrth i ni adeiladu’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu yng Nghymru i annog buddsoddiad uchelgeisiol mewn arloesedd i sbarduno twf economaidd a gwella canlyniadau iechyd a lles”.

Dywedodd Zoe Hilton, Rheolwr Rhaglen Arloesi y Tîm Arloesi yn CAV UHB: “Mae hwn yn gyfle rhagorol sy’n deillio o grant hael gan y Gronfa Her, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gydweithio gyda’r partneriaid allanol CanSense ac IQ endoscopes. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau gwmni i ddatblygu eu datrysiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar leddfu’r heriau presennol yn ein hadrannau Endosgopi a gwella ein profiad cleifion a staff.”

Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, CCR Challenge Fund PI: “Rydym yn falch iawn o’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r her ddiweddaraf hon yn ein partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddylunio a chyflawni’r Gronfa Her. Mae tîm ‘CAV UHB Shaping Change’ wedi gwneud gwaith ardderchog o gynnull y broses a threfnu ar gyfer mewnbwn clinigol arbenigol i’r penderfyniadau cyllido. Ac mae’n wych gweld dau gwmni o Gymru yn sicrhau cefnogaeth. “

Dywedodd Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol Cansense: “Mae CanSense yn falch iawn o fod yn gweithio gyda CAV UHB a gefnogir gan y Gronfa Her ar her mor hanfodol. Mae gwasanaethau diagnosteg traddodiadol o dan bwysau aruthrol ar ôl Covid. Mae CanSense yn cynnig prawf gwaed syml sy’n helpu i symleiddio’r llwybr ar gyfer y bobl hynny sydd yn yr angen mwyaf i gael diagnosis a thriniaeth cyn gynted â phosibl – ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion”.

Dywedodd Matt Ginn, Prif Swyddog Gweithredol IQ Endoscopes: “Mae’r tîm cyfan yn IQ Endoscopes yn falch iawn o fod yn gweithio gyda CAV UHB a gefnogir gan y Gronfa Her ar y mater critigol hwn. Ar sail fyd-eang, mae rhaglenni sgrinio a endosgopi diagnostig o dan bwysau enfawr i ymdopi â’r galw enfawr gan gleifion. Mae IQ Endoscopes wedi ymrwymo i ddarparu technoleg untro cynaliadwy a all nid yn unig ddiwallu anghenion y claf, ond hefyd y gofynion amgylcheddol ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda CAV i ddarparu hyn.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish