“Mae’r pandemig yn ein hatgoffa o’r berthynas agos a thringar rhwng pobl a’r blaned. Bydd unrhyw ymdrechion i wneud ein byd yn fwy diogel yn methu oni fyddant yn mynd i’r afael â’r rhyngwyneb critigol rhwng pobl a phathogenau, a bygythiad dirfodol newid yn yr hinsawdd, sy’n gwneud ein Daear yn llai trigiannol.”
Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus. Anerchiad i 73ain Cynulliad Iechyd y Byd. 18ed Mai 2020.
Mae Dr Tom Downs yn dod at ddiwedd ei seithfed flwyddyn o hyfforddiant meddygol. Astudiodd fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd am bum mlynedd ac mae wedi gweithio fel meddyg iau yng ngogledd Caerdydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n werth stopio am foment i ystyried faint o wybodaeth mae Tom wedi gorfod ei hamsugno yn ystod y cyfnod hwnnw, a’r rhinweddau personol sydd eu hangen i ymgymryd â’r math hwn o hyfforddiant. Stopiwch i feddwl eto, a bydd pob math o gwestiynau diddorol yn codi pan fydd rhywun yn ystyried yr heriau sy’n wynebu gofal iechyd yn yr 21ain ganrif. A fyddai wedi bod yn bosibl cael y wybodaeth hon mewn ffordd wahanol? A oes angen i’r hyfforddiant gymryd cyhyd? A oes agweddau ar ofal iechyd na chawsant eu cwmpasu yn yr hyfforddiant?
Un pwynt y credaf y byddai’r mwyafrif ohonom yn cytuno arno, yw pwysigrwydd datblygiad personol wrth ymarfer meddygaeth dda. Yn wir, gall unrhyw un ohonom roi ein symptomau yn Google er mwyn canfod diagnosis arbenigol ond mae datblygu’r rhinweddau personol a’r farn ymarferol i ddod yn glinigwr effeithiol yn rhywbeth na ellir ei ddysgu heb brofiad. Ystyriwch, er enghraifft, y sgil o ‘lwyddo i gyflawni pethau’. Caiff unrhyw unigolyn sy’n meddu ar y weledigaeth, dewrder, cyfaredd a chrebwyll i fentro a mynd ati i gyflawni pethau, ei ganmol am ei sgiliau arwain, a hynny’n gwbl briodol. Nid ydym yn addysgu hyn felly o ble y daw?
Mae Tom yn amlwg yn rhywun sy’n gallu mynd ati i gyflawni pethau. Ystyriwch, er enghraifft, deitl ei brosiect gyda Chomisiwn Bevan: “Gwneud cysylltiadau i wella cynaliadwyedd yn ein hysbyty, Ysbyty Gwynedd.” Mae’r rhinweddau personol a grybwyllir uchod yn hanfodol i wneud cysylltiadau ac i’r broses o wella. O safbwynt pwnc gofal iechyd, daeth Tom i’r ysgol feddygol gydag angerdd dros y byd naturiol a diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd. Nid tan iddo ddarganfod y Lancet Countdown ar iechyd a newid yn yr hinsawdd yn ei flwyddyn olaf, y gwnaeth y cyswllt rhwng ei yrfa mewn meddygaeth yn y dyfodol a’i ddiddordeb personol mewn newid yn yr hinsawdd. Er ei bod yn debygol y bydd gyrfa feddygol Tom wedi’i llywio gan ei gyfraniad at ofal iechyd cynaliadwy – y mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei fod o bwysigrwydd canolog i ddyfodol y GIG – mae’n werth gofyn faint y gwnaeth ei hyfforddiant meddygol gyfrannu at ei ddiddordeb yn y maes hwn, ac i ba raddau y rhoddodd y sgiliau iddo a oedd yn ofynnol i’w ddatblygu.
Gwnaeth diddordeb Tom yn y byd naturiol ddatblygu yn ystod ei blentyndod a’i fagwraeth yn ardal wledig Gwlad yr Haf. Roedd ei ddau riant yn rhannu swyddi fel meddygon teulu, felly daeth i gysylltiad â’r byd meddygol yn gynnar iawn, a gallwn ddychmygu, yn rhannol hefyd, drwy’r cellwair dyddiol o amgylch y bwrdd adeg swper, sy’n helpu llawer o gyplau i ymlacio ar ddiwedd y dydd. Mae Tom yn priodoli ei gariad at yr awyr agored fel ffactor allweddol a oedd yn sail i’w benderfyniad i symud i Ogledd Cymru, a dywed fod ei rieni wedi cyfrannu’n fawr at ei ddewis gyrfa. Ond mae’n anodd rhoi cyfrif am ei ymrwymiad diwyro i ofal iechyd cynaliadwy. Fel y gŵyr unrhyw feddyg, mae rota meddyg iau yn ei gwneud yn ddigon caled ceisio cynnal bywyd cymdeithasol, heb sôn am ddilyn angerdd mor ddygn ag y mae Tom wedi gwneud.
Os mai’r Lancet Countdown ar iechyd a newid yn yr hinsawdd oedd ei gam cyntaf ar y daith benodol hon, yna ei benderfyniad i beidio â hedfan yn ystod ei leoliad dewisol meddygol, ac yn lle hynny, i gymryd rhan ym mhartneriaeth natur leol Dyfnaint, a elwir yn Active Devon, oedd yr ail. Daeth trydydd cam drwy ddarllen yr adroddiad Gofal Iechyd Heb Niwed a ddisgrifiodd y GIG fel pe bai’n wlad, fel y pumed allyrrydd byd-eang mwyaf o nwyon tŷ gwydr. Mae adroddiad Lancet yn monitro proffil iechyd datblygiadol newid yn yr hinsawdd, ac yn darparu asesiad annibynnol o’r broses o gyflawni ymrwymiadau a wnaed gan lywodraethau ar draws y byd o dan Gytundeb Paris. Mae Health Care Without Harm (HCWH) yn rhwydwaith nid-er-elw o ddarparwyr gofal iechyd Ewropeaidd, y mae ei aelodau yn rhan o’r rhwydwaith Global Green and Healthy Hospitals. Dyma’r rhwydwaith gofal iechyd cynaliadwy mwyaf yn y byd, sy’n trawsnewid y sector gofal iechyd Ewropeaidd er mwyn iddo leihau ei ôl-troed amgylcheddol, dod yn angor cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd, ac yn arweinydd yn yr ymgyrch fyd-eang ar gyfer iechyd a chyfiawnder amgylcheddol.