[lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”false”]

Rwyf bob amser wedi credu ym mhŵer y gair ‘”ie” ac rwyf am helpu cymaint o bobl ag y gallaf i sylweddoli sut y gall y gair anhygoel hwn wneud gwahaniaeth i’w prosiectau, eu cleifion a’u nodau.

Gall agor drysau, chwalu rhwystrau a helpu timau i weithio mewn ffyrdd newydd. Fodd bynnag, credaf fod gwybod pryd i ddweud ie a hyfforddi eich hun i wneud hynny yn hytrach na chodi eich rhwystrau eich hun yn sgil enfawr. Mae’r un mor bwysig ysbrydoli eraill â’r ymagwedd bositif honno, er mwyn eu helpu nhw i ddweud ie wrth eich syniadau, a dod â nhw ar daith gyda chi.

Mae gen i gefndir fel ffisiotherapydd, ac roeddwn yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn wreiddiol, ond rwyf bob amser wedi ymdrechu i ddweud ie pan gefais y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. Mewn gwirionedd, mae fy ngyrfa gyfan yn llawn cyfleoedd y dywedais ie wrthynt. Wrth gwrs, bu llawer o waith caled, oriau hir ac ymroddiad, ond ni chredaf y byddwn wedi cyrraedd fy safle heddiw pe na bawn wedi mentro ar hyd y daith.[/lgc_column]

[lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”true”][/lgc_column]

Felly yn naturiol, pan gododd y cyfle i gyfrannu at ddod â’r Billions Institute i Gymru er mwyn sefydlu’r Academi Lledaeniad a Graddfa, roedd yn benderfyniad hawdd. Fodd bynnag, pan wnes i gyfarfod â Becky Margiotta a Selena Lie Raphael am y tro cyntaf, ni wyddwn mewn gwirionedd faint o waith y byddai angen ei wneud i ledaenu syniad neu brosiect, ac yn sicr ni wyddwn beth fyddai’r academi yn ei olygu o gwbl!

Roedd yn eithaf brawychus am fy mod yn trefnu’r cwrs heb wybod beth fyddai ein cynrychiolwyr yn ei wneud. Gan fy mod i’n hwyluso’r cwrs, roedd yn rhaid i mi wneud rhestr lawn o bethau i’w gwneud, fel prynu cannoedd o gerrig a pheli tennis. . Roedd yn ymddangos yn gwbl wallgof, ond ni allwn ddweud na! ! Gwyddwn fod angen i fi ymddiried yn llawn yn yr arbenigwyr oedd yn cynnal yr academi. Roedd yr hyn y gwnaethom ei gyflawni yn y pen draw yn anhygoel.

Pan wnes i fynychu fy sesiwn gyntaf gyda’r Billions Institute fel rhan o ddigwyddiad Rhwydwaith Gwyddor Iechyd Academaidd (AHSN) De-orllewin Lloegr, sef dim ond wythnos cyn yr oeddem yn mynd i gynnal ein hacademi ein hunain am y tro cyntaf, daeth popeth i’w le. Sylweddolais mewn gwirionedd fy mod wedi bod yn lledaenu prosiectau drwy gydol fy ngyrfa, er nad oeddwn wedi bod yn ymwybodol o hynny!

O’m cyfnod fel ffisiotherapydd, i archwilio ffyrdd arloesol o reoli cyflyrau cronig, i arwain y tîm Gwella a Gweithredu, roedd bob amser wedi bod yn ganolog i’m gwaith: manteisio ar syniadau gwych a cheisio eu hailadrodd ar draws y system, a dod â phobl gyda fi ar y teithiau hynny ar yr un pryd.

Deuthum i sylweddoli, a chredaf fod llawer o’m cyfoedion wedi gwneud ar yr un pryd, ar draws y GIG, er ein bod yn ffodus i gael llawer o bobl wych sy’n gweithio ar ddulliau arloesi a gwelliannau gwych, mai’r hyn nad ydym yn ei wneud yn dda yw manteisio ar y syniadau hynny a’u lledaenu i rannau eraill o’r system, eu haddasu a gadael iddynt ffynnu mewn ffyrdd gwahanol.

I dimau sy’n mynychu’r academi, yn aml, o ran eu profiad nhw o’r system, maent yn gyfarwydd â chlywed “na”, neu ddweud “na”, fel ymateb diofyn i newid. Nawr, mae llwyth o resymau dros hyn; efallai eu bod yn amharod i gyflwyno syniadau a chael eu beirniadu yn eu cylch, efallai ei fod yn rhywbeth mwy systemig.

Beth bynnag, rwy’n sicr, ac rwyf bob amser wedi bod yn sicr, y gall pŵer dweud “ie” ddechrau datgloi’r her hon. Gwelais fod y gwaith yr oedd Billions Institute yn ei wneud a photensial Academi Lledaeniad a Graddfa Cymru yn allweddol i rymuso staff iechyd a gofal yng Nghymru i ddeall yn iawn pryd a sut i ddweud ie, a sut i annog pobl eraill i ddewis dweud ie wrth eu syniadau hefyd.

Yr hyn sydd hefyd yn bwysig iawn, yw bod yr academi yn eich dysgu sut i roi’r gorau i reolaeth. Yn wir, mae Becky yn cyfeirio at y cysyniad o ledaenu fel “proses fwriadol o roi’r gorau i reolaeth”. Yn aml iawn, mae ein prosiectau yn cael eu hatal am ein bod ni ein hunain yn rhwystro eu llwyddiant. Rhaid i chi allu rhoi’r gorau i’ch hunanfalchder, dysgu i ddweud ie wrth eraill sydd am ddatblygu, ac addasu eich syniadau i ddiwallu eu hanghenion.

[lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”false”][/lgc_column] [lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”true”]

Gwnaethom gynnal ein hacademi gyntaf ym Medi 2019, dim ond un wythnos ar ôl i fi gael fy mhrofiad cyntaf o’r cysyniad yn y sesiwn AHSN. Roedd yn wych, yn flinedig ac mor werth chweil; wrth iddi ddod i ben ar ddiwedd y trydydd diwrnod, roeddwn yn beichio crio.

Nid oes un raglen arall yr wyf erioed wedi bod yn rhan ohoni wedi archwilio nodweddion eich personoliaeth fel cynrychiolydd unigol mewn cymaint o fanylder, wedi bod yn ymwybodol o’ch gwerth a’i werthfawrogi, a sut y gallwch ddylanwadu ar y system yr ydych yn gweithio ynddi, ochr yn ochr â’r agweddau technegol a’r wyddoniaeth sy’n sail i wella, arloesi, mabwysiadu a lledaenu.

Y cydbwysedd celfydd hwn rhwng y personol, y perthynol a’r technegol yw’r hyn sy’n gwneud yr Academi Lledaeniad a Graddfa mor unigryw; rwyf wedi mynychu sawl cwrs ar themâu tebyg ond nid oes un ohonynt yn mynd i’r afael â hwy ar yr un pryd yn y ffordd y mae’r Academi yn ei gwneud, ac sy’n gwneud i gynrychiolwyr deimlo wedi’u grymuso’n wirioneddol ac yn barod i arwain newid ystyrlon.[/lgc_column]

Rydym nawr yn dechrau gweld straeon llwyddiant y ddwy academi gyntaf gyda’r gwaith ynghylch Cronfa Her Traceostomi CCR ac Iechyd Gwyrdd Cymru yn dechrau dwyn ffrwyth, ymhlith nifer o enghreifftiau gwych eraill. Rwyf bob amser yn llawn cyffro i ddilyn teithiau’r timau wrth i’w prosiectau ddatblygu.

Efallai ei fod yn swnio’n ystrydebol, ond credaf mai dyma’r rhaglen neu’r cwrs gorau yr wyf byth wedi’i fynychu. Rwyf wedi ei gyflawni fel cyfranogwr ac wedyn dair gwaith fel hwylusydd, a bob tro rwy’n dysgu rhywbeth newydd am fy hunan, y ffordd rwy’n gweithio a gwyddor lledaenu syniadau da. Mae wir yn eich herio i fod yn berson gwell.

Yn fy marn i, mae popeth yn her lledaeniad a graddfa: o adferiad COVID-19, ail-ddylunio ein gwasanaethau clinigol, hyd at yr agenda gofal iechyd cynaliadwy. Ym mhob agwedd ar ein gwaith, gallwn feddwl am syniadau da a datrysiadau i broblemau ac yna eu lledaenu ar draws y system. Ym mhob agwedd ar ein gwaith, gallwn feddwl am syniadau da a datrysiadau i broblemau ac yna eu lledaenu ar draws y system. Os llwyddwn i wneud hyn, mae’r cyfleoedd yn ddiderfyn.

Gallwch ddarllen mwy am yr Academi Lledaenu a Graddfa yma, neu os ydych yn barod i ryddhau pŵer ie gallwch wneud cais yma!

Ruth Jordan
Written by:
Ruth Jordan