Yn 2019, dyfarnwyd swm bach o gyllid i Paul Twose, therapydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro, gan Rwydwaith Gofal Critigol Cymru, i ddatblygu tîm gofal traceostomi o fewn y Bwrdd Iechyd.
Amcan y tîm hwn oedd gwella ansawdd a diogelwch y gofal a roddir i gleifion sydd â thraceostomïau ar draws y system, ond yn enwedig y rhai sy’n derbyn gofal critigol, drwy wella sgiliau a hyder staff, gan arwain at wella canlyniadau i gleifion.
Yn fuan gwnaethant ddechrau cyfrannu at brosiect ar draws y DU, sef yr ‘Improving Tracheostomy Care Collaborative’, lle roeddent yn cynrychioli un o 20 o safleoedd yn y DU. Gwnaeth y tîm ddysgu llawer drwy fod yn rhan o’r rhwydwaith hon, ac roeddent o’r farn y byddai’r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn o’u taith, o fudd i Fyrddau Iechyd eraill yng Nghymru.
Caiff llawer o gleifion sydd angen traceostomïau ledled Cymru eu gweld mewn gwasanaethau trydyddol yn BIP Caerdydd a’r Fro. Yn dilyn hynny, byddent yn dychwelyd i’w hysbyty lleol i gael gwasanaeth adsefydlu yn dilyn eu triniaeth.
Felly, y syniad oedd hyfforddi a chefnogi clinigwyr ledled Cymru gyfan i drin eu cleifion sydd â thraceostomïau er mwyn lleihau amrywiaeth yn y system iechyd a gofal.
Dywedodd Paul, “Roeddem o’r farn bod gennym y syniad gorau un, a’r cyfan fyddai angen i ni ei wneud yn ei hanfod fyddai ei efelychu mewn sefydliadau eraill. Wrth gwrs, nid oedd mor hawdd â hynny. Felly, meddyliom, ‘sut allwch chi fynd â syniad sy’n gweithio’n dda mewn un ardal a’i ledaenu mor bell â phosibl?’”
Ym mis Medi 2019, dim ond ychydig fisoedd ar ôl eu ffurfio’n gychwynnol, aeth y tîm traceostomi i’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyntaf a gynhaliwyd gan BIP Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth â’r Billions Institute, sefydliad sydd wedi’i leoli yn Los Angeles, sy’n arbenigo mewn cefnogi arloeswyr i ddatgelu eu potensial a gwneud newid ystyrlon ar raddfa fawr.
Datgelu eu potensial oedd yr union beth y gwnaeth mynychu’r Academi Lledaeniad a Graddfa alluogi Paul a’i dîm i wneud. Dywedodd, “Gwnaeth yr Academi ein helpu i fireinio ein syniad, a chreu digon o hyblygrwydd o’i fewn i roi’r rhyddid i sefydliadau eraill wneud yr hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i gyflawni nod cyffredin gofal traceostomi gwych. Roeddem yn dîm a ffurfiwyd o’r newydd, yn cynnwys fi, ffisiotherapydd, Gemma Jones, therapydd iaith a lleferydd a Jennifer Lowes, nyrs traceostomi arbenigol. Fe’n cefnogwyd hefyd gan Dr Paul Morgan, dwysegydd ymgynghorol a’r arweinydd traceostomi ar gyfer BIP Caerdydd a’r Fro. Er na fynychodd yr Academi Lledaeniad a Graddfa, mae bob amser wedi bod yn rhan ganolog o’r tîm amlddisgyblaethol hwn.
“Cyn yr Academi Lledaeniad a Graddfa nid oeddem eto wedi llunio ein deinameg fewnol nac alinio ein syniadau unigol o ran ein cyfeiriad teithio yn un nod cyffredin. Maent yn ymddangos yn bethau sylfaenol, ond roeddent yn hanfodol.”
Gwnaeth y tîm adael yr Academi Lledaeniad a Graddfa gyda chynllun gweithredu 90 diwrnod clir a dealltwriaeth gadarn o’r hyn y dylai pob aelod o’r tîm fod yn ei wneud i’w gyflawni. Gwnaeth hyn eu galluogi i flaenoriaethu eu camau gweithredu yn effeithiol, gan gydnabod beth oedd fwyaf brys a phwy oedd y bobl allweddol yn y system yr oedd angen iddynt eu cynnwys.
Gwnaethant feithrin cysylltiadau cryf yn gyflym gyda’r Grŵp Gwella Iechyd Anadlol a’r Sefydliad Gwyddoniaeth Glinigol a Thechnoleg, gan ddefnyddio eu rhwydweithiau i sefydlu’r ffyrdd gorau o ledaenu’r hyn a ddysgwyd gan y tîm ledled Cymru.