Mae positifrwydd mewn lleoliadau canser wedi dod yn ddyletswydd i rai cleifion – a gall fod yn beryglus tu hwnt.
O fewn wythnos nodweddiadol yn fy nghlinig, rwy’n gweld cleifion niferus sydd wedi cael gwybod bod eu canser wedi ymledu ac nad oes gobaith ei drin mwyach. Mae pob unigolyn yn ymateb yn wahanol i’r newyddion hwn. Mae pob person yn amgylchedd uniongyrchol yr unigolyn yn ymateb yn wahanol hefyd. Yr hyn sy’n gwbl amlwg pan dwi’n cael sgyrsiau gyda nhw ynghylch eu bywydau a sut mae pethau wedi newid, yw bod cymdeithas yn rhoi disgwyliadau penodol ar unigolyn sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, ac nid yw’r rhain bob amser yn cyfateb â’r ffeithiau gwirioneddol.
Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd y stori arferol y byddwn yn clywed gan fy nghleifion yn debyg i hyn: Byddai M, yn ei saithdegau, ac yn egnïol iawn, yn dweud wrthyf sut yr oedd pobl yn ei siop leol yn siarad â hi’n wahanol iawn ers iddynt ddarganfod fod ganddi ganser datblygedig. “Mae rhai yn wir yn mynd i’r cyfeiriad arall ac yn esgus nad ydynt wedi eich gweld,” meddai gan wenu, ychydig yn ddrygionus. “Ond y broblem fwyaf,” meddai “yw fy mod i’n teimlo ac yn edrychyn hollol iawn ar y foment. Maent yn edrych arnaf fel petai angen i fi fod yn y gwely, gyda dim gwallt a golwg ofidus ar fy wyneb. Felly rwy’n teimlo ychydig yn euog.”
Mae camgymhariad newydd o ran disgwyliadau wedi codi yn sgil yr ymgyrch positifrwydd, ffenomen sydd mewn gwirionedd yn treiddio i’m hymarfer o ddydd i ddydd. Dwi’n ei alw’n bositifrwydd gorfodol. Mae cleifion a’r rhai sy’n agos atynt yn dweud eu bod yn teimlo dyletswydd i wynebu triniaethau gwrth-ganser systemig, sydd weithiau’n wenwynig, gyda gwên benderfynol ar eu hwyneb. “Peidiwch â chyfleu unrhyw agwedd negyddol, a pheidiwch â gadael i’r teulu eich gweld yn ofidus.” Rwy’n gweld rhai cleifion sy’n dilyn hyn i’r eithaf. Dim ond pan fyddant yn cyrraedd wythnosau neu ddyddiau olaf eu bywydau, y byddant yn gadael i eraill brofi rhai o’u gofidiau oherwydd na allant eu cuddio mwyach. Yn aml, gall rhannu eu hofnau a’u pryderon mwyaf wneud iddynt deimlo’n fwy diogel, ond nid yw rhai hyd yn oed yn cyrraedd y man hwn.
Mae’r Athro Svend Brinkmann, seicolegydd o Ddenmarc, wedi ysgrifennu “Stand Firm: Resisting the Self-Improvement Craze” sy’n pwysleisio y gall meddwl yn bositif, a’i ddiwydiant o lyfrau, DVDs a hyfforddwyr wneud i ni deimlo’n isel hyd yn oed. Rwy’n cytuno, a byddaf yn ceisio esbonio sut y mae’n effeithio ar bobl yng nghyd-destun canser.
Yn bwysicaf, nid oes unrhyw beth o’i le ar agwedd bositif, mae gan optimistiaeth a seicoleg bositif le cadarn mewn lleoliadau clefydau terfynol. Ond mae dwy sefyllfa lle mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn yr amgylcheddau hyn yn ein hannog i fod yn ofalus. Yn gyntaf, mae wedi dod yn gyffredin iawn i gleifion ddod ataf yn awgrymu eu bod yn credu’n gryf bod meddu ar feddylfryd positif ac optimistaidd yn gallu atal eu canser rhag gwaethygu, neu y gallai hyd yn oed gael gwared arno. neu y gallai hyd yn oed gael gwared arno. Ond mae ymchwilwyr clinigol wedi profi’r hypothesis hwn ac wedi cadarnhau mewn nifer o astudiaethau (1,2,3) nad yw meddylfryd optimistaidd yn cael effaith ar oroesiad mewn lleoliadau canser. Yn un o’r astudiaethau hyn, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod optimistiaeth yn gysylltiedig â goroesiad ymhlith cleifion â chanser gwyllt yr ysgyfaint. Felly, mae’n debyg bod annog cleifion i fod yn bositif yn gyfystyr â rhoi baich ychwanegol arnynt hyd yn oed.
Yn ail, mae positifrwydd ac optimistiaeth a orfodir bob amser yn anwybyddu realiti gwirionedd bywyd, p’un a oes gennych ganser terfynol ai peidio. Mae ddim yn gynaliadwy. Mae’r disgwyliad y bydd pethau’n mynd yn dda, a bod yn rhaid iddynt bob amser fynd yn dda, yn gallu creu gorbryder, oherwydd, ar ryw lefel, gwyddom na allwn warantu y caiff ein gobeithion eu gwireddu. Mae hyn yn golygu bod llawer o’m cleifion a’u hanwyliaid yn wynebu ansicrwydd ac amwysedd felly.
Gall bod yn besimistaidd ac yn negyddol ar adegau, helpu, ac mae cleifion yn dweud wrthyf ei bod yn dda siarad am y sefyllfaoedd gwaethaf posibl. Tybiaf ein bod, yn reddfol, yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer y sefyllfaoedd gwaethaf posib o ganlyniad i filiynau o flynyddoedd o wynebu heriau esblygol gwrthryfeloedd, bygythiadau a rhyfeloedd, felly mae siarad amdano yn gwneud synnwyr mewn llawer o ffyrdd. Ond, yn aml, ni fydd y diwydiant meddwl yn bositif presennol yn caniatáu’r math hwn o ddiffyg disgyblaeth. Pan fydd fy nghleifion yn treulio mwy o amser yn dod yn gyfarwydd â’r posibilrwydd go iawn efallai y bydd pethau yn mynd o chwith, a bod llawer o bethau da yn methu, gall leihau disgwyliadau annefnyddiol a diamynedd yn sylweddol ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Drwy ystyried y sefyllfa waethaf a’r sefyllfa fwyaf negyddol, nid ydym yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yn digwydd mewn gwirionedd, ond mae’n ein helpu ni, a’r rhai o’n hamgylch, i gynllunio ar gyfer llawer o sefyllfaoedd gwahanol.
I gyflawni unrhyw brif nod mewn bywyd, mae confensiwn yn dweud wrthym y dylem feddwl yn bositif. Dychmygwch eich hun yn cyflawni’r cyfweliad swydd perffaith a bydd yn digwydd felly; rhagwelwch gyflwyniad gwych a bydd yn mynd yn dda; dychmygwch eich hun yn cael proses cemotherapi ddidrafferth heb unrhyw salwch a dim effeithiau negyddol a byddwch yn gallu mynd adref heb unrhyw boenau. Mae’n swnio’n gymhellol iawn, ac mae’n hawdd cael eich temtio, ond mae’r strategaethau hyn fel arfer yn methu, oherwydd bod gan fywyd gynlluniau gwahanol.
Yn y gyfres fer The Power of Negative Thinking, mae’r ysgrifennwr seicoleg Oliver Burkeman yn archwilio rhinweddau agwedd negyddol, gan gynnwys cofleidio ein hagwedd negyddol a gadael iddi lifo’n rhydd. Dengys sut y gall fod yn llwybr pwerus i feddylfryd mwy digyffro a realistig, nad yw heb lawenydd.