Mae’r brif system maniffold ocsid nitrus yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cael ei datgomisiynu’n llwyddiannus, gan nodi cam enfawr o ran ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i leihau allyriadau carbon deuocsid (CO2).
Defnyddir ocsid nitrus yn gyffredin mewn gofal iechyd ar gyfer anaestheteg ond er ei fod yn rhan hanfodol o ddarparu gofal iechyd, fe’i hystyrir yn nwy tŷ gwydr niweidiol. Mae astudiaethau’n dangos bod gan ocsid nitrus fwy na 265 gwaith y potensial cynhesu byd-eang na charbon deuocsid (CO2).
Ar hyn o bryd mae pedwar maniffold ocsid nitrus ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, sef y dull storio nodweddiadol. Mae canfyddiadau gan dîm prosiect amlddisgyblaethol BIP Caerdydd a’r Fro wedi nodi y gall gwastraff o’r math hwn o system fod yn uchel oherwydd gollyngiadau a cholli nwy o’r cyflenwad.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi treialu silindrau ocsid nitrus cludadwy yn Ysbyty Plant Cymru fel rhan o gynllun peilot unigol sydd wedi cynyddu effeithlonrwydd yn sylweddol, o 2.5% i 74%. Mae hyn yn dangos bod enillion sylweddol i’w gwneud o symud o gyflenwad pibell i gyflenwad silindr cludadwy.
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, gwnaeth y tîm gyflwyno’r astudiaeth beilot ar draws y sefydliad drwy’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyda’r uchelgais i rannu mewnwelediadau ac annog newid ledled Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd y system maniffold ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau ei datgomisiynu’n llawn. Erbyn hyn, dim ond dau o’r pedwar maniffold sy’n dal i gael eu defnyddio, y maniffold deintyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a maniffold yn Ysbyty Dewi Sant. Mae prosiect ar y gweill i edrych ar ddatgomisiynu’r maniffoldau hyn sy’n weddill.
Dangosodd yr Adroddiad Healthcare Without Harm fod 5.6% o allyriadau yn y DU yn dod o leoliadau gofal iechyd ac mae cynllun Datgarboneiddio GIG Cymru yn rhoi sylw i leihau nwyon anesthetig. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld arbedion o 1.15 miliwn litr o ocsid nitrus neu 679 tunnell o CO2e bob blwyddyn a fydd yn chwarae rhan enfawr mewn gwneud gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a thu hwnt.
Mae’r grŵp prosiect yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd eraill i ddarparu cymorth a chyngor i glinigwyr sy’n awyddus i weithredu’r newid hwn – gan helpu i leihau’r defnydd o ocsid nitrus ledled Cymru.
Bydd rhan nesaf y prosiect hwn yn adolygu’r defnydd o Entonox ac yn ymgysylltu â’r Uned Achosion Brys i edrych ar ddefnyddio silindrau llai. O fewn gwasanaethau mamolaeth, mae’r tîm yn adolygu effeithiolrwydd Unedau Lleihau Carbon Entonox a gafodd eu gweithredu yn gynharach eleni, ac yn rhannu’r canlyniadau ledled Cymru.
Mae’r tîm prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid SBRI Llywodraeth Cymru (y Fenter Ymchwil Busnesau Bach) a byddant yn gweithio ledled Cymru gyda Byrddau Iechyd eraill a diwydiant i ddatblygu technoleg i chwalu’r nwy gan sicrhau nad yw’n cael ei ryddhau i’r atmosffer. Mae posibilrwydd y gallai Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ar draws GIG Cymru fabwysiadu’r datrysiad hwn.
Dywedodd Dr Charlotte Oliver, Anesthetydd Ymgynghorol ac aelod o dîm yr Academi Lledaenu a Graddfa ar gyfer y prosiect hwn, “Fel tîm, a hefyd yn bersonol, gwelsom Spread and Scale yn hynod werthfawr. Galluogodd i’n tîm dreulio 3 diwrnod gyda’n gilydd, amser na fyddem fel arall wedi canfod ei fod yn ymroddedig i’n prosiect. Roedd safon y cwrs yn ardderchog ac roedd Becky yn ysbrydoliaeth. Erbyn diwedd y tridiau mae gan ein tîm weledigaeth gyffredin o ble roedd ein prosiect yn mynd a chynllun gwaith clir i’w ddilyn. Roeddem yn teimlo ein bod yn egnïol ac y byddem yn gallu cyflawni ein hamcanion.
“We have achieved our original aims at Cardiff and Vale and we have been able to reach all the health boards across Wales to spread our success. All the health boards are now working on this project, although are at different stages with it. So, I would say that the scale up from one anaesthetic room in the Childrens Hospital to National implementation is well underway!”
Elaine Lewis, General Manager for Pharmacy & Medicines Management and EPMA Programme Lead, said, “I found Spread and Scale Academy excellent and provided an opportunity to upscale projects with a different approach and thinking. This is one of the best projects I have been part of and I think the attendance at spread & scale academy facilitated this.”