Mae gweithio yn y BIP wedi cynnig llawer o gyfleoedd i fi dros y blynyddoedd, yr wyf wedi bod yn hapus iawn i fanteisio arnynt. Dair blynedd yn ôl, gofynnwyd i fi a fyddwn yn hoffi ymgymryd â rhywfaint o waith ar ymgorffori dull hawliau plant yn y BIP yn dilyn addewid a wnaed i Gomisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd gyda nifer fawr o grwpiau ffocws ac ymweliadau â chanolfannau ieuenctid, gan arwain at sefydlu Bwrdd Ieuenctid Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, bwrdd anhygoel a deinamig sydd wedi ysbrydoli pobl yn llwyr ac wedi trawsnewid sut mae pob un ohonom yn ystyried cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gwasanaethau gofal iechyd. Mae cynnwys lleisiau pobl ifanc yn y broses gwneud penderfyniadau, datblygu gwasanaethau, cyfweliadau staff ac addysg staff wedi dechrau rhoi cyfle cyfartal i blant a phobl ifanc gyfranogi’n wirioneddol.

Weithiau caiff cyfle cyfartal mewn gofal iechyd ei gymryd yn ganiataol a’i ragdybio. Yn aml, dim ond y rhai sy’n profi’r anghydraddoldeb, yr allgau, y diffyg pŵer a’r microymosodiadau sydd wir yn gwybod beth sy’n digwydd a sut mae’n teimlo. Dim ond pan wnaethom wrando ar blant a phobl ifanc y gallem ddechrau eu grymuso a pharchu eu hawl i gael cyfle cyfartal. Mae gwelededd hefyd yn cyfrannu at wneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u croesawu. Mae gweld pobl fel ni ein hunain ar ffurf cydweithwyr, rheolwyr neu roddwyr gofal yn holl bwysig.

Rwyf wedi bod yn fwy gweladwy yn ddiweddar fel aelod o’r gymuned LGBTQ+ er mwyn cysuro eraill nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Roedd yn fraint cael fy nghynnwys ochr yn ochr â rhai cydweithwyr arbennig a ffrindiau o’r tu allan i’r BIP ar y Rhestr Binc am yr ail flwyddyn. Caiff y Rhestr Binc ei llunio i gydnabod rhai o’r bobl LGBTQ+ mwyaf dylanwadol yng Nghymru.

Hoffwn rannu rhai o’r pethau gwych sy’n digwydd yn ein BIP i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ymhellach. Mae rhwydwaith LGBTQ+ y BIP wedi’i ailddechrau a chaiff ei gadeirio gan Rhiannon Owen. Croesawn aelodau newydd i’n rhwydwaith cynyddol ac i’n cymuned. Cadwch lygad allan amdanon (a’n pennau ysgrifennu hyfryd am ddim) wrth i ni ail-lansio a hyrwyddo’r Rhwydwaith yn swyddogol. Ceir hyfforddiant nawr ar ymwybyddiaeth LGBTQ+ a sesiwn ar wahân ar faterion Traws ac Anneuaidd mewn Gofal Iechyd yr ydym yn ei gynnig i’n staff i gyd. Mae croeso i bawb fynychu! Mae’r hyfforddiant yn para 3 awr, wyneb yn wyneb (lle bydd y cyfyngiadau yn caniatáu), yn anffurfiol, ymlaciol a rhyngweithiol yn ôl dymuniad y sawl sy’n mynychu. Gellir trefnu lle drwy’r porth ESR.

Gellir argraffu bathodynnau I.D bellach, a chynnwys y rhagenwau os dymunir. Rydym nid yn y Rhwydwaith LGBTQ+ yn falch iawn o’r datblygiad hwn a’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan y Tîm Gweithredol i wneud iddo ddigwydd. Mae’r staff yn yr adran ddiogelwch wedi ein helpu ni’n sylweddol, gan ddangos hyblygrwydd rydym yn ddiolchgar iawn amdano. Mae fy mathodyn i bellach yn cynnwys fy enw, teitl swydd a’m rhagenwau sy’n dangos i lawer o bobl Draws ac Anneuaidd fy mod yn gyfaill ac y byddaf yn parchu eu rhagenwau os dewisant eu rhannu. Fel nyrs, mae hyn yn bwysig iawn. Rwyf am i bawb deimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain yn enwedig yn ystod adegau o ofid, galar neu boen.
Rwy’n ysgrifennu hwn yn ystod wythnos Pride Cymru. Mae Pride yn adeg o ddathlu, ond mae’n brotest o hyd. Mae achosion o droseddau casineb wedi cynyddu, sydd wedi bod yn amlwg yn adroddiadau’r cyfyngau ynghylch ymosodiadau homoffobaidd. Yr haf hwn yn unig, adroddwyd am nifer o ymosodiadau corfforol ar bobl LGBTQ+ ar draws y DU, gan gynnwys ymosodiad ofnadwy yng Nghaerdydd. Yn anffodus, roedd yr adroddiad diweddaraf ynghylch llofruddiaeth a ysgogwyd gan homoffobia.

Nid yw Trawsffobia, Deuffobia a Homoffobia wedi diflannu ac mae aelodau o’r gymuned Draws yn aml yn dioddef troseddau casineb ac allgáu. Fel cynhaliwr Gwasanaeth Rhywedd Cymru, fel cyflogwr cynhwysol a darparwr gofal iechyd, mae ein BIP yn anelu at wneud mwy er mwyn datblygu cydraddoldeb. Mae ein haelodau gweithredol wedi croesawu cael eu mentora gan rai ohonom yn y rhwydwaith staff LGBTQ+ ac maent wedi dangos awydd cryf i ddysgu.

Gofynnir i fi’n aml am fy nghymhelliant i wella cydraddoldeb a chynhwysiant, ac rwy’n aml wedi ateb y byddwn yn meddu ar yr un cymhelliant pe bawn i’n syth. Mae trin pawb yn deg, gyda pharch a thosturi, yn sylfaenol i fod yn nyrs, felly mae fy nghymhelliant yn perthyn yn rhannol i’n hunaniaeth broffesiynol, ond mae hefyd yn rhan annatod ohonof fel person, ac rwyf bob amser wedi bod felly ers yn blentyn. Yn fwy diweddar, mae fy addysg ynghylch y problemau y mae pobl Draws ac Anneuaidd yn eu hwynebu wedi dod o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Rwyf wedi clywed am y problemau maent wedi’u hwynebu ac rwyf wedi gwrando ar sut maent yn teimlo. Fel sy’n digwydd yn aml pan fydd oedolion wir yn gwrando ar bobl ifanc, cefais fy ysbrydoli, ac roeddwn yn benderfynol o helpu.

Ers hynny, rwyf wedi addysgu fy hun, ac fel mae llawer o aelodau o’r gymuned Draws wedi dweud (yn gwbl ddealladwy), nid eu gwaith nhw yw addysgu pawb. Gallaf afael mewn llyfr, gwylio flog a dilyn awduron Traws ar Twitter fy hun. Mae gen i lawer i’w ddysgu o hyd, ac rwy’n croesawu cyfleoedd i wneud hynny. Rwyf wedi gwneud camgymeriadau, rwyf wedi defnyddio’r rhagenwau anghywir ar gyfer cleifion Traws, wedi gwneud tybiaethau pan fydd cyplau yn ymweld â wardiau, ac wedi galw’r enw anghywir ar rywun. Rwy’n araf ddarllen llyfrau ar hil, braint gwyn, hanes LGBTQ+ a rhywedd. Mae dysgu yn barhaus, ond y peth pwysicaf yw bod yn agored iddo a bod yn gyfforddus pan fydd rhywun yn dweud wrthych eich bod yn anghywir (er, os bydd fy ngwraig yn darllen hwn, dwi BYTH yn anghywir).

Avatar photo
Written by:
Lisa Cordery