Cafodd Joanne Hill, Rheolwr Gwella Gwasanaethau yn nhîm Gwella a Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ei hadleoli i Fwrdd Clinigol Llawfeddygaeth y Bwrdd Iechyd fel rhan o’i ymateb COVID-19. Drwy gydweithio i ddatrys rhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r Bwrdd Clinigol, gwnaethant lwyddo i gyflawni canlyniadau anhygoel ar gyfer cleifion, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol ar gyfer y system iechyd.
Fel un o’r sefydliadau gofal iechyd mwyaf yn y DU, mae’r gofal a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael ei reoli’n fewnol gan saith Bwrdd Clinigol: Meddygaeth, Gofal Sylfaenol, Diagnosteg Glinigol a Therapïau, Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Arbenigol, Plant a Menywod, a Llawfeddygaeth.
Mae gan bob un o’r Byrddau Clinigol gyfrifoldeb uniongyrchol dros y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, ac maent yn amrywio o ran maint; mae rhai hyd yn oed yn fwy na’r sefydliadau GIG eraill ledled y DU, ac yn cynnwys miloedd o aelodau o staff. Felly, gall sicrhau newid ystyrlon mewn system mor gymhleth ag iechyd fod yn heriol iawn, hyd yn oed ar y lefel hon.
Gyda dyfodiad y pandemig COVID-19, bu’n rhaid i’r sefydliad allu gwneud penderfyniadau a newid radical yn gyflym iawn ar bob lefel. I hwyluso hyn o fewn y Bwrdd Clinigol Llawfeddygaeth, cafodd Joanne Hill o’r tîm Gwella a Gweithredu canolog ei hadleoli i’r tîm llawfeddygaeth ym mis Mawrth 2020, ac mae wedi ei sefydlu’n llawn ers hynny.
Dywedodd Joanne, “Roedd gallu datblygu fy ngwybodaeth ynghylch sut mae’r Bwrdd Clinigol Llawfeddygaeth yn gweithio yn ddefnyddiol iawn i’m hymarfer. Roeddwn wir yn teimlo’n rhan o’r tîm a gallwn feithrin ymddiriedaeth o fewn y tîm fod tîm Gwella a Gweithredu’r Bwrdd Iechyd yno i helpu i wella pethau, nid gorfodi newid o’r brig i’r bôn.”
Drwy fod wedi’i lleoli yn yr hwb llawfeddygaeth ar gyfer y rhan fwyaf o’r amser, llwyddodd Joanne i feithrin cydberthnasau gwych gyda’r staff yn y tîm rheoli ac ar y rheng flaen, y gwnaeth pob un ohonynt gytuno bod ei chyfraniad a’i harbenigedd gwella penodol yn werthfawr tu hwnt. Gallai Joanne hwyluso’r sesiynau cynllunio, nodi pwy yr oedd angen iddynt fod yn rhan o’r drafodaeth a sicrhau eu bod yn bresennol; helpu i nodi rhwystrau a threfnu sut y gellid eu goresgyn; diffinio prif feysydd y prosiect a mapio’r prosesau yr oedd eu hangen i gyflawni eu nodau.