Mae canlyniad yr her Traceostomi a gynhaliwyd rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022 gan Sefydliad Calon y Ddraig, staff BIP Caerdydd a’r Fro, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chanolfan Ragoriaeth SBRI wedi cael cefnogaeth gan y Prosiect Diogelwch Traceostomi Cenedlaethol.
Yr her, a gyhoeddwyd yn dilyn COVID-19, oedd datblygu ffordd arloesol o ddarparu hyfforddiant traceostomi i staff gofal iechyd nad oedd yn dibynnu ar hyfforddiant wyneb yn wyneb ac a allai ddechrau mynd i’r afael â’r ôl-groniad hyfforddiant a ddeilliodd o weithgarwch y pandemig.
Yn dilyn eu presenoldeb yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa yn 2019, sylweddolodd Paul Twose o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’i dîm faint yr her a wynebwyd ganddynt a waethygwyd gan y pandemig COVID-19.
Gan weithio gyda Sefydliad Calon y Ddraig, buont yn llwyddiannus i sicrhau dros £400,000 mewn cyllid her gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i fynd i’r afael â’r mater hwn, a thros y 18 mis diwethaf, maent wedi gweithio gyda dau bartner yn y diwydiant i ddatblygu system efelychu realiti cymysg ymdrwythol newydd sy’n cyfuno realiti rhithwir (VR), effeithiau sain a thechnoleg gyffyrddiadol i’w defnyddio mewn hyfforddiant.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar efelychiadau erchwyn gwely realistig sy’n ail-greu sefyllfaoedd pwysau uchel lle mae angen cymryd camau pendant yn gyflym ac yn gymwys. Mae defnyddwyr y rhaglen yn cael eu hymdrwytho’n llwyr a gellir olrhain eu dwylo’n uniongyrchol i’w galluogi i drin gwrthrychau rhithwir yn gywrain a all ddarparu adborth cyffyrddol.
Mae’r rhaglen VR yn gwbl gludadwy ac, ni waeth ble mae’r hyfforddiant yn digwydd, mae defnyddwyr yn profi golygfeydd a synau lleoliad ysbyty y gellir eu haddasu yn unol â’u hanghenion (e.e. newid y lleoliad rhwng ward neu uned gofal dwys, a newid ymddangosiad y cleifion). Gall defnyddwyr gymryd rhan yn unigol neu fel grŵp a gallant ryngweithio â rhithffurfiau defnyddwyr eraill yn y gofod rhithwir fel y gellir ymuno â sesiynau a’u haddysgu o bell.
Yn ystod trydydd cam yr her, a ddaeth i ben yn gynharach eleni, profwyd y datrysiadau a ddatblygwyd gyda staff mewn ysbytai ledled Cymru a nododd 97% o ddysgwyr a oedd yn rhan o’r treial eu bod yn teimlo bod gan y dull hyfforddi hwn y potensial i gael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch y cleifion a’r tîm, ac ar ansawdd.
Nawr, yn dilyn y dull profi helaeth hwn, ac yn gam allweddol o safbwynt gweithredu’r cyfleuster hyfforddi hwn yn y dyfodol, mae’r rhaglen wedi ennill cefnogaeth Prosiect Diogelwch Traceostomi Cenedlaethol y DU, grŵp proffesiynol o staff gofal iechyd sy’n ymgyrchu i wella dulliau rheoli traceostomi a laryngectomi, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau critigol.
Dywedodd yr Athro Brendan McGrath, Cadeirydd y Prosiect Diogelwch Traceostomi Cenedlaethol, “Mae hyfforddiant traceostomi yn un o’r enghreifftiau gorau o addysg wirioneddol amlddisgyblaethol, ond mae hynny’n dod â’i heriau ei hun. Mae gan dechnoleg VR y potensial i wneud hyfforddiant yn hygyrch i’r holl staff, a hyd yn oed darparu hyfforddiant i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr mewn ffordd hygyrch, safonol.”
Dywedodd Paul Twose, Therapydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac arweinydd y prosiect, “Mae’r her traceostomi wedi amlygu’r potensial enfawr ar gyfer technolegau ymdrwythol i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu addysg o fewn GIG Cymru. Yr her nawr yw gwneud y dulliau arloesi hyn yn ‘fusnes fel arfer’ tra’n parhau â’n perthynas â diwydiant i ddatblygu mwy o senarios hyfforddi a chynnwys addysgol.”
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Rwy’n hynod falch o weld Paul a’r tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn arwain y gwaith hwn ar lefel genedlaethol. Ansawdd y gofal a ddarparwn yw’r peth pwysicaf y gallwn fesur ein hunain yn ei erbyn ac rwy’n falch o weld ein tîm yn ysgogi gwelliannau yn y maes hwn ar gyfer cleifion â thraceostomïau nid yn unig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ond ledled Cymru ac, efallai, yn fuan, y tu hwnt i Gymru. Llongyfarchiadau mawr i Paul a’r tîm a diolch.”