Ar y diwrnod y siaradais â Dr Fiona Brennan, anesthetydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, roedd llywodraeth y DU newydd gyhoeddi eu bod wedi gosod targed newydd i leihau allyriadau 79% erbyn 2035 a bod hyn wedi dod yn rhan o’r gyfraith. Yr hyn a oedd yn wahanol am y chweched gyllideb garbon hon oedd cynnwys allyriadau o awyrennau a llongau, sydd, gyda’i gilydd, yn golygu bod y DU, mewn egwyddor, fwy na thri chwarter y ffordd tuag at gyflawni sero net erbyn 2050. Mae’n ddiddorol ystyried y ffaith bod sôn bod allyriadau’r GIG yn aml yn cyfateb i’r rhai a gynhyrchir gan y diwydiant hedfan. Mae hwn yn bwynt a grybwyllodd Fiona wrth i ni ddechrau trafod ei gwaith ei hun i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’i rhan benodol hi o’r GIG: theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Pan ddechreuodd Fiona hyfforddi fel anesthetydd yn 2005, ni chafwyd cydnabyddiaeth eang o effaith nwyon anesthetig ar yr amgylchedd, ac ni chafodd ei grybwyll chwaith mewn unrhyw faes llafur hyfforddi. Un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, ac mae disgwyl i ni, fel clinigwyr, leihau ein hôl-troed carbon fel rhan o ymgais ar draws y system i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. . Amcangyfrifir bod nwyon anesthetig o’n theatrau llawdriniaethau a’n wardiau mamolaeth yn cyfrif am 5% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y GIG. Mae hyn yr un peth ar gyfer teithio gan gleifion, dŵr a gwastraff ond mae ond yn gyfran fach o’r allyriadau a achosir gan gaffael, sy’n cyfateb i 60-70% o’r cyfanswm.
Felly, pam dechrau gyda nwyon anesthetig? Erbyn i Fiona gymhwyso fel meddyg ymgynghorol yn 2013, roedd wedi gweithio mewn sawl ysbyty, weithiau cymaint â phum ysbyty gwahanol o fewn blwyddyn. Mae’r dilyniant cyflym hwn o ran swyddi yn ei gwneud yn anodd iawn cyflwyno unrhyw fath o newid parhaus. Ond gyda sefydlogrwydd ei rôl newydd yn BIP Caerdydd a’r Fro, dechreuodd Fiona sylweddoli, fel anesthetyddion, fod ganddynt reolaeth gymharol dros y ffordd y câi nwyon anesthetig eu caffael; sut y caent eu defnyddio; a phryd y byddai’n fuddiol peidio â’i defnyddio. Dysgodd hefyd mai’r nwyon mwyaf niweidiol, sef Desflurane, oedd y rhai mwyaf costus yn aml, a bod eu crynodiadau atmosfferig yn cynyddu.
Ar y cyd â chydweithwyr eraill yng Nghaerdydd a’r Fro, roedd Fiona yn allweddol yn y gwaith o lansio Prosiect Drawdown yn 2018, gyda’r nod o addysgu cydweithwyr ynghylch nodweddion ocsid nitraidd sy’n teneuo’r osôn a photensial cynhesu byd-eang gwahanol nwyon, y mae gan rai effaith lawer yn fwy nag eraill. O fewn chwe mis, roeddent wedi sicrhau lleihad o 50% yn eu hallyriadau. Ac yn 2019, cydsefydlodd Fiona Rwydwaith Anesthetig Amgylcheddol Cymru (WEAN), gan osod targed i sicrhau lleihad o 80% yn eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2021. Gyda dros hanner y flwyddyn yn weddill, maent eisoes wedi sicrhau lleihad o 70% yn eu hallyriadau. I arddangos sut y gall ymyriadau addysgol syml arwain at arbedion sylweddol a chyflym, mae Fiona yn un o grŵp o glinigwyr sy’n arwain y ffordd o safbwynt gofal iechyd cynaliadwy.