Defnyddiodd cydweithiwr da drosiad diddorol ychydig flynyddoedd yn ôl wrth ddisgrifio’r broses o geisio newid ac arloesi yn y gwasanaeth iechyd. Roedd yn ymwneud â hylifau an-Newtonaidd, a’r enghraifft benodol oedd ‘Slime’, a oedd yn eithaf poblogaidd gyda phlant ychydig flynyddoedd yn ôl. Bydd chwiliad cyflym trwy Google yn mynd â chi i fideos sy’n dangos sut i wneud eich hylif an-Newtonaidd eich hun gan ddefnyddio dŵr a blawd corn (ei enw yw Oobleck, yn ôl pob tebyg). Pan gânt eu trin yn ofalus, nid ydynt yn ludiog iawn – maent yn ymddwyn ac yn teimlo fel hylifau arferol: gallwch redeg eich bysedd drwyddynt, a byddant yn llifo, os nad fel dŵr yna’n sicr fel mêl. Y rhan ddiddorol yw os ydych chi’n gwthio’n rhy galed. Os ydych chi’n neidio ar yr wyneb neu’n ei daro â morthwyl, mae’r hylif yn ymddwyn fel rhywbeth solet. Mae’n gwrthsefyll ‘dadffurfio cyflym’. ei ddyrnu fel dyrnu concrit. Does dim angen i mi esbonio’r trosiad.

Roedd ymgynghoriadau fideo (YF) yn fenter gynnar a phwysig pan ddechreuodd pandemig COVID-19. Doedd y cysyniad ddim yn newydd – mae llawer ohonom wedi bod yn defnyddio technoleg fideo ers blynyddoedd drwy gyfrwng Skype, FaceTime a rhaglenni eraill. Yn wir, cafodd trwyddedau Skype eu prynu mewn niferoedd sylweddol i’w defnyddio gan GIG Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl – er nad oedd unrhyw gynllun clir nac amlinelliad o sut y byddai’r dechnoleg yn cael ei defnyddio – neu ‘estyn’ ei defnydd. Roedd y manteision o ran lleihau amser teithio ac anghyfleustra i gleifion yn amlwg, ond roedd yr anfanteision o fethu â gwneud archwiliad corfforol a cholli’r arwyddion cynnil a geir wyneb yn wyneb yn aneglur. Roedd rhai gwasanaethau’n ‘archwilio’r’ defnydd o Skype, ond yn gyffredinol roedd y rhain ar raddfa fach ac ar hap. Yn ddiddorol, y farn ymhlith llawer o gydweithwyr clinigol (nad oeddent yn defnyddio YF yn y gwaith) oedd na allent ddeall pam nad oedd yn cael ei defnyddio’n ehangach. ‘Mae angen i ni ddechrau ei defnyddio, mae angen i ni estyn ei defnydd…’. Rwyf wedi dysgu bod yr ymadrodd ‘mae angen ei wneud e, dyna’i gyd’ yn arwydd o rwystredigaeth, ond hefyd diffyg dealltwriaeth o gymhlethdod cyflwyno technoleg sy’n ymddangos yn syml ond sy’n newid y ffordd rydym yn gweithio yn fawr.

Yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, daeth y gallu i ‘weld’ cleifion o bell yn rhywbeth hanfodol oedd yn cael ei orfodi gan y cyfnod clo. Mewn llawer o achosion, gallai ffôn fod yn ddigonol, ond roedd llawer o glinigwyr yn gofyn am y gallu i gynnal YF – gyda llawer yn penderfynu gwneud hyn gan ddefnyddio technoleg ar eu dyfeisiau eu hunain yn absenoldeb unrhyw ddewis arall. Daeth sgyrsiau am gyflwyno platfform YF yn gyflym ar sail ‘Unwaith i Gymru’ i’r amlwg, a dechreuodd Llywodraeth Cymru archwilio hyn, gan gaffael ‘Attend Anywhere’ i ddarparu’r gallu hwn yn gyflym. Mae’r gwaith wedi’i wneud. Jest estynnwch y dechnoleg. Mae’r dyfodol yma. Gallwn gau adrannau cleifion allanol. Roedd canrannau targed yn cael eu trafod. Rhaid i bawb ddefnyddio Attend Anywhere. Dyma pryd yr oedd yn bwysig cofio hylifau an-Niwtonaidd.

Mae’r rheini ohonom ym myd Gwybodeg Glinigol wedi bod yn dysgu dros y blynyddoedd diwethaf am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio wrth gyflwyno technoleg ddigidol i ofal iechyd. Yr adroddiad amlycaf am hyn yw ‘Adroddiad Wachter’ fel y’i gelwir, i’r methiant i ddigideiddio GIG Lloegr er gwaetha’r biliynau a fuddsoddwyd. Un canfyddiad allweddol oedd yr angen i gael ymgysylltiad clinigol ystyrlon i arwain y ‘newid addasol’ sy’n deillio o dechnoleg ddigidol newydd – y newid busnes, y ‘ffyrdd newydd o weithio’. Mae hon yn broses archwiliadol, nid rhywbeth y gellir ei ddisgrifio na’i ragnodi’n fanwl o’r brig i lawr. Mae cysylltiad agos rhwng hyn a’r egwyddorion ‘gweithio ystwyth’ a ddatblygwyd gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth – gan osgoi’r demtasiwn i wneud popeth yn berffaith cyn iddo ‘fynd yn fyw’, ond yn hytrach derbyn ei fod yn ‘ddigon da’, ond wedyn gwrando ar adborth defnyddwyr, gwerthuso canlyniadau a datblygu’r datrysiad yn ailadroddol.

Rwy’n edrych yn ôl yn awr ar y dyddiau cynnar hynny o YF ac yn teimlo’n falch ein bod wedi mabwysiadu’r egwyddorion hynny wrth fwrw ymlaen â nhw. Roeddem yn deall ein bod yn ymgymryd â phroses ‘weithredu’, yn hytrach na ‘chyflwyno’ cynnyrch yn ehangach. Gwrandawodd Llywodraeth Cymru a derbyniodd, er y gallai eu platfform YF a gaffaelwyd fod yn ddigon ar gyfer anghenion y rhan fwyaf o wasanaethau (‘achosion defnyddio’ yn iaith gwybodeg), y byddai platfformau eraill eisoes yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd penodol ac ar gyfer achosion defnydd penodol iawn na fyddai Attend Anywhere yn addas iddynt, neu byddai gorfodi newid yn rhy feichus. Doedden ni ddim yn gwybod beth oedden nhw – ond roedden ni’n gwybod y byddai rhai. Felly daeth ‘Unwaith i Gymru’ (ymadrodd sy’n dwyllodrus o syml ond sy’n aml yn broblemus iawn) ynglŷn â’r dull yn hytrach nag am y cynnyrch yn unig.

Avatar photo
Written by:
Allan Wardhaugh