Mae’n bleser gan Sefydliad Calon y Ddraig gyhoeddi fod un o’i brif raglenni arwain, Climb, bellach yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr o sefydliadau’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r byd diwydiant.
Lansiwyd Climb yn 2021 fel rhan o Academïau Dysgu Dwys Cymru Gyfan i greu cenhedlaeth hunangynhaliol o arweinwyr y dyfodol, gan gyfuno addysgu o’r radd flaenaf â’r cyfle i adeiladu eu hymarfer arwain eu hunain. Ymhlith yr athrawon ar y rhaglen mae Hahrie Han, Cyfarwyddwr Sefydliad SNF Agora ac Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Johns Hopkins, yr Athro Syr Muir Gray, Ymchwilydd Clinigol Anrhydeddus yng Nghanolfan Meddygaeth ar sail Tystiolaeth Prifysgol Rhydychen, a Mark Prain, Cyfarwyddwr Sefydlu, Sefydliad Hillary ar gyfer Arweinyddiaeth Ryngwladol.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, gwnaeth y rhaglen Climb lwyddo i recriwtio 30 o “arloeswyr” ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, y maent wedi canmol y rhaglen yn uchel gan gyfeirio ati fel “un o’r digwyddiadau proffesiynol gorau yn eu bywyd” a’r “darn oedd ar goll yn eu bywyd proffesiynol, yr oeddent yn chwilio amdano.”