Cynhaliodd Prifysgol Abertawe ddigwyddiad nodedig ar 11 Mehefin, 2024, wrth i Uwchgynhadledd Climb ddod â chynrychiolwyr graddedig Climb, arweinwyr gofal iechyd, a ffigurau ysbrydoledig ynghyd ar gyfer diwrnod o ddathlu a myfyrio.

Mae’r rhaglen Climb, a ddarperir gan Sefydliad Calon y Ddraig fel rhan o Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn grymuso arweinwyr sy’n dod i’r amlwg ar draws sectorau amrywiol yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas heddiw yn ogystal â’r rhai sydd ar y gorwel.

Dros y deng mis diwethaf, mae’r garfan Climb wedi cael eu haddysgu gan arbenigwyr rhyngwladol fel yr Athro Hahrie Han ym Mhrifysgol Johns Hopkins, Baltimore, maent wedi cyd-dynnu fel grŵp trwy brofiadau unigryw fel cynllunio a chynnal perfformiad syrcas, ac wedi cael eu gwthio i ymgymryd â heriau cwbl newydd drwy brofiadau ymdrwytho a drefnwyd gan y Fyddin Gymreig.

Roedd Uwchgynhadledd Climb eleni yn arddangos effaith y rhaglen trwy gyfres o “Ed-Talks” diddorol a gyflwynwyd gan y cynrychiolwyr graddedig eu hunain, gan ddefnyddio arddull cynhadledd “disgo tawel” newydd.

Darparodd y sgyrsiau hyn lwyfan i’r graddedigion rannu eu profiadau, amlygu’r sgiliau arwain y maent wedi’u meithrin drwy’r rhaglen Climb, ac amlinellu’r newidiadau cadarnhaol y maent yn bwriadu eu rhoi ar waith o fewn eu systemau.

Cafwyd prif areithiau gan restr o siaradwyr dylanwadol iawn a wnaeth ychwanegu ymhellach at y diwrnod. Gwnaeth Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a phwysleisio’r rôl hollbwysig y bydd graddedigion Climb yn ei chwarae wrth lunio dyfodol Cymru.

Ond ni ddaeth yr ysbrydoliaeth i ben yno. Gwnaeth yr anturiaethwyr Tori James, mynyddwr sydd wedi torri recordiau, a Peter Hillary, mab yr enwog Syr Edmund Hillary, rannu eu profiadau o wthio ffiniau a goresgyn heriau – thema addas i grŵp sy’n cychwyn ar eu hantur arweinyddiaeth eu hunain.

Dywedodd Dr Fergus Wood, sydd wedi graddio o Climb o garfan tri, “Mae Climb wedi rhoi cymaint i mi dros y flwyddyn ddiwethaf ond y peth mwyaf oedd y cyfle i gwrdd â grŵp mor anhygoel o bobl, nid dim ond y tiwtoriaid ond aelodau gwych y garfan a thîm Sefydliad Calon y Ddraig. Gwnaeth popeth dros y flwyddyn arwain mewn gwirionedd at yr uwchgynhadledd a chreu amgylchedd lle gallai 30 o ddieithriaid sefyll ar lwyfan enfawr fel arweinwyr i herio ac ysbrydoli. Rwyf mor freintiedig i fod wedi cyfarfod â’r bobl hyn a’u galw’n rhwydwaith i mi ac edrychaf ymlaen at gydweithio yn y dyfodol. Mae Climb wedi fy helpu i ddatblygu i fod yn berson sy’n teimlo’n angerddol am rywbeth ac sy’n gyfforddus i gyflwyno ei stori – allwn i ddim fod wedi gwneud hynny flwyddyn yn ôl.”

Dywedodd Alex Hicks, Rheolwr Rhwydwaith – Iechyd Menywod ac Iechyd Plant yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, “Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Climb wedi bod yn brofiad anhygoel a dwys. I mi, mae wedi bod yn gyfle gwych i gyfarfod a datblygu perthynas barhaus ag arweinwyr ysbrydoledig o bob rhan o iechyd a gofal yng Nghymru, tra hefyd yn elwa ar arbenigwyr o safon o Gymru ac yn rhyngwladol sy’n arbenigo ar ystod o bynciau craff dros gyfnod y rhaglen. Rwy’n teimlo fy mod wedi cyrraedd y sylfaen ac rwy’n edrych ymlaen at weddill y daith gyda fy ffrindiau Climb yn y blynyddoedd i ddod, wrth i mi ddechrau fy ngyrfa newydd yn GIG Cymru.”

Dywedodd Ruth Jordan, arweinydd Sefydliad Calon y Ddraig, “Nid digwyddiad undydd yn unig oedd Uwchgynhadledd Climb 2024; roedd yn symbol pwerus o lwyddiant y rhaglen. Mae’r cynrychiolwyr sy’n graddio yn gadael Climb wedi’u harfogi â’r sgiliau a’r weledigaeth i fynd i’r afael â heriau cymhleth ein cymdeithas, gan feithrin cydweithredu, arloesi, ac yn y pen draw, dyfodol iachach i Gymru gyfan. Wrth i’r rhaglen Climb barhau i ddatblygu arweinwyr y dyfodol, gall Cymru edrych ymlaen at rwydweithiau o bobl wedi’u grymuso, sy’n barod i ymgymryd â’r her nesaf.”

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar, “Fe wnes i wir fwynhau cael y cyfle i fynychu Uwchgynhadledd Climb a gweld drosof fy hun y brwdfrydedd a ddangoswyd gan y cyfranogwyr sy’n fodelau rôl gwych i’w cydweithwyr a’r themâu o dosturi a chydweithio a drafodwyd yn y digwyddiad.  Mae mor bwysig i GIG Cymru fod y rhwydweithiau arweinyddiaeth hyn yn cael eu ffurfio i harneisio potensial ein staff hynod dalentog er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymateb i ofynion ein system yn y dyfodol a darparu gofal iechyd diogel o ansawdd uchel i bobl Cymru.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish