Ar 30 Mehefin 2026, cynhaliwyd copa olaf Carfan Pump Climb yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe. Roedd y digwyddiad yn nodi uchafbwynt taith arweinyddiaeth deng mis o hyd a gyflwynwyd gan Dragon’s Heart Institute (DHI), gan ddod ag arweinwyr o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector ynghyd o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddathlu grŵp rhyfeddol o wneuthurwyr newid.
Y copa yw’r man lle daw’r daith yn fyw. Cyflwynodd pob cynrychiolydd Ed-Talk personol: stori fer a phwerus am dwf, her, arweinyddiaeth a gobaith. Roedd y sgyrsiau’n onest ac yn agored, gan ddod â dagrau i lygaid sawl un, a chan ysgogi pawb i fyfyrio.
Nodwyd copa eleni gan dri phrif siaradwr. Bu i’r Fonesig Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, sôn am yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y system heddiw. Daeth Kate Young, Cadeirydd Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, â llais teuluoedd a phrofiad byw i’r ystafell. A thynnodd yr anturiaethwr Ash Dykes gymhariaeth rhwng dygnwch y byd gwyllt a’r dygnwch y mae arweinyddiaeth yn gofyn amdano ym maes iechyd a gofal.
Nid rhaglen arweinyddiaeth gyffredin mo Climb. Wedi’i gwreiddio mewn dilysrwydd, bregusrwydd a newid systemau, fe’i cynlluniwyd i feithrin y math o arweinyddiaeth y mae ei angen ar frys ar y GIG, a’r gwasanaeth cyhoeddus yn ehangach. Dros gyfnod y flwyddyn, mae cynrychiolwyr yn archwilio eu gwerthoedd, yn datblygu sgiliau perthynol, yn ymarfer sgyrsiau dewr ac yn myfyrio’n ddwfn ar eu pwrpas fel arweinwyr. Nid yw’n ychwanegu sŵn. Mae’n dychwelyd at graidd pethau, at yr hyn sy’n wirioneddol bwysig. Wedi’i chyflwyno gan dîm DHI ochr yn ochr â phartneriaid blaenllaw yn y DU a rhyngwladol, mae’r rhaglen yn parhau i ddenu sylw ymhell y tu hwnt i Gymru, gyda cheisiadau unwaith eto’n llawer mwy na’r nifer o lefydd sydd ar gael.
Blwyddyn heb yr union air
Mae Climb yn enwog o anodd ei ddisgrifio. Arweinyddiaeth, myfyrdod, dewrder, cysylltiad: mae pob gair yn wir, ac nid oes yr un ohonynt yn ddigon. Eleni, cymerodd y garfan y rhwystredigaeth honno yn thema iddynt. Efallai nad bai’r rhai sy’n disgrifio mohono, ond bai’r iaith ei hun. Nid oes gan y Saesneg un gair sengl am yr hyn sy’n digwydd dros ddeng mis o Climb, felly aeth y garfan i chwilio mewn ieithoedd eraill, a chanfod pump sy’n dod yn nes.
Whakawhanaungatanga, o’r iaith Māori (te reo Māori), sy’n disgrifio adeiladu perthynas a charennydd nes nad yw perthyn yn gwestiwn mwyach. Mae pob carfan yn dechrau fel ystafell o bobl sydd bron yn ddieithriaid, ond nid felly y mae’n aros. Erbyn y copa, maent yn nes at fod yn deulu.
Meraki, o’r Roeg, yw gwneud rhywbeth ag enaid a gadael darn ohonoch ynddo. Dyna yw’r Ed-Talk. Ni all neb gyflwyno un heb adael rhywbeth o’i hun ar y llwyfan.
Sprezzatura, gair Eidalaidd a fathwyd gan Castiglione bum canrif yn ôl, yw’r osgeiddrwydd bwriadus sy’n cuddio ei ymdrech ei hun. Mae’r sgyrsiau’n ymddangos yn ddiymdrech. Y tu ôl i bob un mae misoedd o hyfforddi, drafftio, amau ac ymarfer, ac felly hefyd yr arweinyddiaeth y mae Climb yn ceisio ei meithrin.
Cynefin nid oes angen ei gyfieithu i ni yng Nghymru, ac mae’n gwrthod cyfieithiad beth bynnag: y lle, y bobl a’r hanes rydych yn perthyn iddynt, yn fwy na’r gair ‘cartref’. Mae Climb yn adeiladu cynefin, rhywle lle mae arweinwyr yn cael eu hadnabod ac yn gallu dychwelyd.
Ubuntu, o ieithoedd Bantw Nguni yn ne Affrica, a gyfieithir fel arfer yn ‘Rwyf am ein bod ni.’ Mae’n gorwedd o dan y rhaglen gyfan. Nid ar yr arweinydd unigol, arwrol y mae Climb wedi’i seilio, ond ar y ddealltwriaeth ein bod yn cael ein llunio gan y bobl o’n cwmpas.

Y cysylltiadau sy’n para
Wrth galon Climb mae’r cysylltiadau a ffurfir rhwng y cyfranogwyr. Mae’r cynrychiolwyr yn dysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd, gan feithrin ymddiriedaeth a phwrpas cyffredin ar draws ffiniau proffesiynol, sefydliadol a daearyddol. Mae llawer yn cyrraedd fel dieithriaid ac yn gadael gan ddisgrifio’r garfan fel rhywbeth sy’n nes at deulu: rhwydwaith o gynghreiriaid a chyfeillion y maent yn disgwyl eu cadw gyda hwy ymhell ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.
I Johan Skre, Rheolwr Gwasanaeth Celfyddydau mewn Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, dyna oedd y rhodd barhaol:
“Mae Climb wedi fy helpu nid yn unig i egluro fy ngwerthoedd a’m cryfderau fel arweinydd, gan fy ngalluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol fy ngyrru ymlaen, ond mae hefyd wedi rhoi i mi gymuned o gydweithwyr anhygoel y gwn y byddant yn fy nghefnogi, yn fy herio ac yn fy arwain wrth i mi barhau i gamu y tu hwnt i’r llwybr cyfarwydd.”
I Mwape Burke, Goruchwyliwr Swyddog Cymorth Imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, roedd yn ffordd yn ôl at ei stori ei hun:
“Mae CLIMB wedi bod yn fwy na rhaglen i mi, mae wedi bod yn daith o ddarganfod fy ‘pam’. Mae wedi fy helpu i ddeall nad yw arweinyddiaeth wych yn ymwneud â theitlau na chael yr holl atebion. Mae’n ymwneud â gwybod pwy ydych, deall eich stori a bod â’r dewrder i’w defnyddio i wneud gwahaniaeth. Mae wedi newid sut rwy’n gweld fy hun, wedi fy helpu i weld gwerth stori pob unigolyn, ac wedi fy atgoffa bod pobl yn ffynnu pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi. Byddaf yn gadael CLIMB gyda mwy o hyder, mwy o bwrpas, ac ymrwymiad i arwain gyda dilysrwydd, empathi a chwilfrydedd.”

I eraill, dangosodd y rhaglen ei gwerth yn y munudau pwysicaf. Myfyriodd Hannah Fleck, Rheolwr Gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
“Mae’r deng mis diwethaf o’r rhaglen wedi bod yn gyfle anghyffredin a gwych i ddeall fy hun yn well fel arweinydd, i gydnabod y sgiliau a ddes i â mi, ond hefyd i nodi rhannau o’m dull yr wyf am eu datblygu. Roedd y cyfle unigryw i ddysgu ochr yn ochr ag ystod eang ac amrywiol o unigolion o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau yn sicrhau bod y sgyrsiau bob amser yn fywiog, gyda safbwyntiau a’m heriodd, a’m swynodd ac a’m hymestynnodd! Rwyf wedi dysgu bod angen i mi fod yn fwy hyderus yn y sgiliau sydd gennyf, ac wedi buddsoddi mewn pâr o ffyn cerdded: mae gan bawb adegau pan fydd angen ychydig o gymorth arnom gan eraill! Y penwythnos diwethaf hwn buom yn ymdrin â thanau gwyllt, effaith gymunedol sy’n gwbl newydd i mi, ond un yr oeddwn yn teimlo’n well i ymdopi â hi ac yn well i gefnogi’r gymuned, gan dynnu ar sgiliau rwyf wedi’u datblygu dros y misoedd diwethaf hyn.”

Wrth i’r gymeradwyaeth atseinio ac i Garfan Pump gamu i’w phennod nesaf, roedd yn amlwg nad diwedd oedd hwn ond dechrau. Efallai na fydd Climb byth yn ffitio un gair Saesneg. Mae pump o ieithoedd yn dod yn nes nag y gwnaeth un erioed, ac eto dim ond troi o gwmpas y peth y maent hwythau’n ei wneud.
Mewn byd sy’n newid ar garlam, gyda heriau ar y gorwel i bob cyfeiriad, yr arweinyddiaeth annisgrifiadwy hon yw’n union yr hyn sydd ei angen arnom mor daer. Ar sail tystiolaeth Carfan Pump, mae’n cael ei meithrin.