Gwnaeth y myfyrwyr, a elwir yn Aroleswyr Climb, ddechrau’r rhaglen ym mis Medi 2021 ac maent wedi derbyn ystod amrywiol o addysgu gan arbenigwyr byd-enwog a phrofiad arwain ymdrwythol a hwyluswyd gan Dark Swan, yn seiliedig ar yr hyfforddiant y maent yn ei ddarparu fel mater o drefn ar gyfer timau milwrol a chwaraeon elitaidd.
Yn nigwyddiad Uwchgynhadledd y rhaglen, a gynhaliwyd yn Stadiwm y Principality ar 24aina 25ainMai, gwnaeth yr arloeswyr gyflwyniad 15 munud yr un neu Ed-Talk (a enwyd ar ôl Syr Edmund Hillary, y person cyntaf i ddringo Mynydd Everest yn llwyddiannus gyda’i bartner dringo Tenzing Norgay) yr oeddent wedi gweithio i’w ddatblygu yn ystod y rhaglen.
Roedd y sgyrsiau yn gasgliad o straeon personol a phroffesiynol, pob un â chysyniad craidd yn ymwneud â gofyniad neu uchelgais yr oedd yr Arloeswr yn angerddol yn ei gylch. Roedd y rhain yn amrywio o wella cynaliadwyedd amgylcheddol y system iechyd a gofal, fel y dangoswyd gyda thoesenni gwyrdd, y gwersi arweinyddiaeth y gallwch eu dysgu gan dimau chwaraeon proffesiynol a sut mae pob math o ryngweithio a wnewch yn y gwaith yn bwysig, cynyddu cynrychiolaeth ar draws pob agwedd ar iechyd a gofal, a pham mae hyn yn hanfodol, a sut y gall llywodraethu da achub y byd!
Roedd yr Uwchgynhadledd hefyd yn cynnwys nifer o siaradwyr gwadd mawreddog, megis Peter Hillary, mynyddwr, dyngarwr ac awdur o Seland Newydd, a mab Syr Edmund Hillary, Jane Booth-Tobin, Cyfarwyddwr Labordy P3 o Brifysgol John Hopkins yn Baltimore, ac Eugene Fidelis-Soh, Prif Weithredwr Ysbyty Tan Tock Seng yn Singapore.
Ar noson 24ain Mai, gwnaeth yr Arloeswyr fynychu eu seremoni raddio yng Nghastell Caerdydd, lle cyflwynodd Peter Hillary a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, Wobr Ryngwladol Hillary am Arweinyddiaeth Iechyd a Gofal i bob un ohonynt.
Mae’r gwobrau eu hunain yn gynnyrch crefftwaith Cymreig lleol gan ddefnyddio pren wedi’i ddifrodi gan stormydd a gymerwyd o odre’r Wyddfa. Maent yn atgynhyrchiadau o’r bwyeill iâ a ddefnyddiwyd yn yr alldaith yn 1953, ac fe’u gwelir bellach yn addurno waliau Gwesty Pen y Gwryd, y lleoliad sylfaen ar gyfer hyfforddiant Everest Syr John Hunt a’i dîm.
Roedd tair gwobr i gydnabod y gwahanol lefelau o gyflawniad trwy gydol gyrfa arweinydd: ‘gwersyll sylfaen’, ‘esgyniad’ a’r ‘copa’, gyda phob un o’r Arloeswyr Climb yn derbyn gwobr gwersyll sylfaen.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad o bopeth yr oedd yr Arloeswyr wedi’i gyflawni gyda’i gilydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gydnabod y daith yr oeddent wedi bod arni wrth ganfod eu hunain a’i gilydd fel arweinwyr mewn byd cynyddol gymhleth.
Dywedodd Dr Jonathon Gray, arweinydd y rhaglen Climb, “O’r cychwyn cyntaf, ystyriwyd Climb yn gymuned yn hytrach na chwrs ac, ar gyfer y garfan wirioneddol amlddisgyblaethol sydd newydd raddio ohoni, y synnwyr hwnnw o gymuned heb os oedd un o gryfderau mwyaf y rhaglen.
“Roedd lefelau hunangred y sawl a oedd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd a’u hyder fel arweinwyr yn aruthrol, ac yn wahaniaeth amlwg o ddechrau’r rhaglen. Roedd fel pe baent yn bobl wahanol ac rwyf mor falch o’r hyn y mae pob un o’r arloeswyr wedi’i gyflawni yn ystod Climb. Fodd bynnag, wrth gwrs, megis cychwyn y maen nhw, ac ni allaf aros i glywed am eu llwyddiannau nesaf a phob llwyddiant ar ôl hynny.”
Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Glangwili yn BIP Hywel Dda, “Mae Climb wedi fy nghyflwyno i’r grŵp hwn o unigolion talentog; mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser treulio amser gyda phob un ohonynt. Rwyf wedi dysgu cymaint ganddyn nhw a hefyd llawer mwy amdanaf i fy hun: fy ngwerthoedd craidd a’m harddull arwain. Rwy’n hyderus pe bai galw arnom i gynllunio, cyflwyno a gweithredu ymateb i broblem neu gwestiwn lleol neu genedlaethol, yna mae gennym yr ystod o sgiliau, galluoedd ac angerdd i ymateb. Mae Climb yn gysyniad unigryw a chlyfar wrth adeiladu rhwydwaith a chymuned o feddylwyr o’r un anian, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r garfan nesaf a thyfu ein cymuned.”
Dywedodd Anna Spencer, Rheolwr Comisiynu Gofal Cleifion Unigol yn BIP Bae Abertawe, “Yr uwchgynhadledd oedd y lle roeddwn i’n ymdrechu i’w gyrraedd, ond cymerais gamau petrus i gyrraedd yno. Ni ddylwn fod wedi poeni cymaint. Roedd cwrdd â’n ffrindiau rhyngwladol a chyflwyno fy Sgwrs Ed-Ex yn Stadiwm y Principality yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio ac y byddaf bob amser yn falch ohono. Gwnaeth y pryd nos yng Nghastell Caerdydd goroni’r cyfan i ni i gyd. Nid dyma ddiwedd ein taith ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r garfan nesaf.
Dywedodd Dr Kerry-Ann Holder, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yn BIP Caerdydd a’r Fro, “Ar ddechrau Climb, nid oedd yr Uwchgynhadledd yn teimlo o fewn ein cyrraedd. Roedd gan bob un ohonom gymaint o bryderon ac roedd achosion difrifol o syndrom twyllwr yn gyffredin ar draws y grŵp. Mae’r rhaglen wedi bod yn gymysgedd o emosiynau a phrofiadau; yn rhai sydd wedi’n bywiocáu a’n blino ar yr un pryd. Rwy’n llawn cyffro am yr hyn y mae Climb wedi’i roi i’r grŵp hwn o 30 o frodyr a chwiorydd. Roeddem yno gyda’n gilydd, gwnaethom hynny gyda’n gilydd. Roedd yr uwchgynhadledd yn ddiweddglo anhygoel i’r rhaglen. Gwnaeth i mi deimlo fy mod wedi cyflawni mwy nag unrhyw arholiad neu draethawd; roedd yn rhywbeth diriaethol a real, ac mae wedi fy ngwneud i’n falch iawn o allu dweud ‘Roeddwn i’n rhan o hynny. ‘”













