Derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ganmoliaeth uchel yn ddiweddar yng Ngwobrau Arloesi Conffederasiwn y GIG a Rhwydwaith AHSN yn y categori System Iechyd Arloesol y Flwyddyn am ei raglen waith Sefydliad Calon y Ddraig.
Mae’r Gwobrau Arloesi yn gydweithrediad rhwng Rhwydwaith AHSN, sy’n gweithredu fel cangen arloesi’r GIG yn Lloegr ac yn gweithredu fel llais ar y cyd i’r 15 rhwydwaith gwyddor iechyd academaidd (AHSNs); a Chonffederasiwn y GIG, y corff aelodaeth, sy’n cynrychioli gofal iechyd yn y DU.
Mae’r Gwobrau Arloesi newydd yn dathlu rhagoriaeth mewn arloesi ym maes iechyd a gofal, gan arddangos y timau, y sefydliadau a’r systemau iechyd a gofal hynny sy’n arwain y ffordd o ran newid cadarnhaol. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yn Llundain ar 29ed Medi, 2022.
Cafodd y gwobrau eu beirniadu gan grŵp amrywiol o arbenigwyr sy’n gweithio ar draws y sector iechyd a gofal. Gwnaeth safon y ceisiadau ar gyfer y gwobrau argraff fawr ar y beirniaid gyda thua 200 o gynigion yn cystadlu ar draws deg categori.
Mae’r categori System Iechyd Arloesol y Flwyddyn, lle cyrhaeddodd Sefydliad Calon y Ddraig y rhestr fer, yn cydnabod systemau iechyd a gofal lle mae diwylliant o arloesi yn sylfaen i’r ffordd y caiff pethau eu cyflwyno, gan ddathlu sefydliadau sydd â’r diwylliant, y gallu a’r hanes o fabwysiadu a lledaenu arloesedd ar raddfa.
Cafodd BIP Caerdydd a’r Fro ganmoliaeth uchel yn y categori hwn am y gwaith sy’n gysylltiedig â Sefydliad Calon y Ddraig, a ddatblygwyd yn dilyn blwyddyn gyntaf y pandemig COVID-19 i arwain arloesedd, datblygu arweinwyr y dyfodol, ac i weithredu fel catalydd ar gyfer newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Caerdydd a Bro Morgannwg, Cymru a thu hwnt.
Ers ei sefydlu mae Sefydliad Calon y Ddraig wedi dylunio a chyflawni ei raglen arweinyddiaeth flaengar 10-mis, Climb, ac wedi gweithio gyda Billions Institute, sydd wedi’i leoli yn yr UDA, i gyflwyno’r Academi Lledaeniad a Graddfa nifer o weithiau ledled y DU. Mae’r DHI hefyd wedi gweithio i sicrhau dros £1 miliwn o gyllid her ar gyfer prosiectau arloesol o fewn BIP Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Jonathon Gray, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella BIP Caerdydd a’r Fro ac arweinydd Sefydliad Calon y Ddraig, “Rwy’n falch iawn bod BIP Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau cenedlaethol mawreddog hyn am ei waith arloesol drwy Sefydliad Calon y Ddraig. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni yn yr amser byr ers sefydlu’r Sefydliad ac mae’r wobr hon yn adlewyrchu gwaith caled tîm bach o bobl sy’n chwilio’n ddiflino am ffyrdd newydd o wneud pethau ac sy’n arfogi ein harweinwyr y dyfodol gwych gyda’r adnoddau a’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn cael eu galw ynghyd unwaith eto i wynebu’r her nesaf debyg i COVID.”