Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd yn ystod haf a hydref 2020, yn dangos sut y daeth gweithlu’r Bwrdd Iechyd ynghyd mewn ffordd na welwyd o’r blaen a sut y daeth ffordd o feddwl radical, arloesol i’r amlwg wrth i’r system ymateb i un o’r heriau mwyaf y mae wedi’i hwynebu erioed.
Mae’r adroddiad yn cynnwys llinell amser o weithgarwch rhwng Rhagfyr 2019 ac Awst 2020, dadansoddiad manwl o sut y gwnaeth rhannau amrywiol o’r system (clinigol ac anghlinigol) ymateb a beth a ddysgwyd, anawsterau’r Bwrdd Iechyd a meysydd y gellir eu gwella, a golwg manwl y tu ôl i’r llenni ar y gwaith o adeiladu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality.

Yn olaf, ceir casgliad o ddeuddeg astudiaeth achos o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd sy’n arddangos rhai enghreifftiau o arfer gorau o ran addasu, arloesedd a gwydnwch a ddangoswyd gan ein staff, beth a ddysgwyd yn ystod y broses, a’r camau nesaf wrth iddynt weithio yn y ffordd newydd hon.
Mae’r adroddiad ar gael yn Gymraegac yn Saesneg

 

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish