Yn fy mlog diwethaf, amlinellais rai o’r ffyrdd y mae Dr Fiona Brennan a’i chydweithwyr wedi bod yn ymgorffori gofal iechyd cynaliadwy o fewn arferion a gweithdrefnau’r tîm anesthetig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Fodd bynnag, mae newid systemig yn dibynnu ar addysg, ac mae’n gofyn am ymrwymo amser ac ymdrech. Gan ystyried hyn, gwnaeth Dr Brennan a’r Meddyg Offthalmoleg Ymgynghorol, Dan Morris, weithio gyda’r uwch dîm rheoli i gytuno ar bartneriaeth tair blynedd gyda’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy: byddai BIPCAF yn cynnal tair cymrodoriaeth glinigol olynol gyda chymorth rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol AaGIC. Ein cymrawd cyntaf yn y rôl hon yw Dr Amarantha Fennell-Wells, llawfeddyg deintyddol, a oedd, wyth mis yn ôl, yn gweithio fel hyfforddai craidd deintyddol mewn llawdriniaeth ar y geg, yr ên a’r wyneb, gyda galwadau rheolaidd yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
O fewn ychydig funudau i siarad ag Amarantha, roeddem wedi trafod nwy chwerthin, a’r posibilrwydd y byddai Penylan, Penarth a rhannau eraill o Gaerdydd o dan ddŵr ymhen 80 mlynedd. Os yw hyn yn swnio ychydig yn annhebygol, mae’n werth nodi bod y pum mlynedd fwyaf poeth erioed wedi digwydd yn olynol ers Cytundeb Newid Hinsawdd Paris yn 2015. Mae’r bygythiadau i iechyd a achosir gan ffenomena naturiol fel llifogydd, tywydd eithafol a gwres mawr, yn ogystal ag ansawdd aer a dŵr gwael a achosir gan y boblogaeth, clefyd milheintiol a cholli bioamrywiaeth, oll yn enghreifftiau o’r hyn sydd wedi cael ei alw’n “iechyd planedol”. Mae iechyd planedol yn faes amlddisgyblaethol sy’n dod i’r golwg; ei ragdybiaeth sylfaenol yw na all iechyd gwareiddiad dynol gael ei wahanu oddi wrth iechyd y systemau naturiol rydym yn dibynnu arnynt.
Yn fuan cyn ein sgwrs, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030 mewn ymateb i ymrwymiad 2017 i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru erbyn 2030. Un o fentrau allweddol y Cynllun Cyflenwi Strategol yw monitro’r defnydd o ocsid nitraidd a’i wastraff, o ganlyniad uniongyrchol i waith Amarantha: dylunio a rheoli prosiectau, casglu a dadansoddi data, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac addysg feddygol. Mae ei chyfraniad hithau’n cydfynd â phrosiectau tebyg mewn 50 safle acíwt ar draws yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac yn ffurfio ein prif gyfraniad at y dasg hon. Mae ocsid nitraidd, y’i gelwir hefyd yn ‘nwy chwerthin’, yn nwy meddygol, neu ‘anesthetig’, a ddefnyddir ar gyfer ei nodweddion lleddfu poen ac fel anesthetig ar draws nifer o wasanaethau clinigol gwahanol. Mae hefyd yn llygrydd hinsawdd pwerus, yn berygl iechyd galwedigaethol ac yn gyffur hamdden. Mae wedi cael ei chefnogi yn y dasg hon gan Dr Fiona Brennan, fferyllydd NHS Lothian Alifia Chakera, a hefyd gan y Gymdeithas Gofal Iechyd Cynaliadwy.
Mae Amarantha yn dweud wrthyf, gan ddefnyddio’r unig feincnod sydd ar gael a ddarparwyd gan NHS Lothian, sy’n debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel, y gallai seilwaith BIPCAF fod wedi gwastraffu bron 4 miliwn litr o ocsid nitraidd, a thros 14 miliwn litr o Entonox® dros y tair blynedd ariannol diwethaf. “Mae cyfanswm y gwastraff hwn yn cyfateb i effaith amgylcheddol sy’n cyrraedd bron 10,000 tunnell o CO2e, gwastraff ariannol o £55,000 o bosibl, a chost ‘gymdeithasol’ ddamcaniaethol sydd oddeutu £700,000.” Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Alifia Chakera, sy’n mentora Amarantha drwy reoli o fewn BIPCAF, yn dangos bod o leiaf 80% o ocsid nitraidd a 30% o Entonox yn cael ei wastraffu cyn iddo hyd yn oed gyrraedd cleifion. Mae hefyd yn dweud wrthyf, o gymharu ag olion traed carbon cymedrig fesul cyfnod mamolaeth ar gyfer NHS Scotland ac NHS England, mae genedigaethau BIPCAF 40% a 47% yn fwy dwys o ran carbon, yn y drefn honno, wrth ystyried faint o Entonox sy’n cael ei ddefnyddio drwy seilwaith pibell yn unig.
Drwy siarad ag Amarantha, mae’n glir ei bod nid yn unig yn dod â brwdfrydedd, ond hefyd ffocws i’r rôl hon. Mae’n priodoli’r cyntaf i ymdeimlad cynyddol o gyfiawnder cymdeithasol, cyfrifoldeb personol a phroffesiynol, a dyhead i ddefnyddio ei safle o fraint gymharol i helpu eraill. Mae ystod o sgiliau a gafodd eu meithrin drwy sawl blynedd o hyfforddiant deintyddol ac ôl-raddedig, yn cael eu harddangos drwy’r amrywiaeth o brosiectau mae wedi mynd i’r afael â hwy eleni. . Yn ystod yr wyth mis ers iddi ymuno â BIPCAF, mae eisoes wedi datblygu a chyflwyno deunydd addysgu i israddedigion meddygol, wedi cyflwyno ei hadroddiad trylwyr ar wastraff systemig ocsid nitraidd, ac wedi sefydlu cynhadledd genedlaethol i helpu personél gofal iechyd yng Nghymru i gynnal prosiectau gofal iechyd cynaliadwy.
Wrth daflu goleuni ar bwnc sydd fel arall yn anhygyrch, mae Amarantha wedi ein helpu ni i gyd i ddeall yr arbedion posibl y gellir eu cyflawni drwy graffu’n ofalus ar ein dull o reoli meddyginiaethau a’n harferion caffael. Nid yw hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithredu ar draws ffiniau adrannol: mae timau clinigol, gwasanaethau gweinyddol a chymorth oll wedi cyfrannu at ddealltwriaeth systemig o un feddyginiaeth yn unig. Yn bwysicach, mae Amarantha wedi dangos y niwed a achosir gan wastraff a dulliau gwaredu nwyon tŷ gwydr fel ocsid nitraidd, a’n rhwymedigaeth fel personél gofal iechyd i wneud yr hyn a allwn i leihau’r niwed hwnnw. Yn hyn o beth, mae’n amlygu egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy, sy’n werth eu hailadrodd yma: (1) Atal (2) Grymuso cleifion a hunanofal (3) Systemau darbodus a (4) Dulliau carbon isel amgen.
I gael rhagor o wybodaeth, mae Amarantha wedi argymell y ddwy ddolen ganlynol:
- Cyflwyniad i Ofal Iechyd Cynaliadwy, gyda safbwynt o Gymru
- Sesiwn fanylach ar y berthynas rhwng yr argyfwng hinsawdd/gofal iechyd gyda Phoenix MedEd