Dechreuodd ail garfan rhaglen arweinyddiaeth Sefydliad Calon y Ddraig, Climb, yr mis hon gyda chwrs preswyl tridiau yng nghyfleuster hyfforddi’r Dark Swan yn Wiltshire.
Daeth carfan newydd o tua deg ar hugain o arweinwyr at ei gilydd, a ddewiswyd o blith ugeiniau o geisiadau o bob math o feysydd iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, i ddechrau ar eu taith Climb o dan arweiniad Dan Cooke ac Al Hulmes o Dark Swan a’u tîm o arbenigwyr chwilio ac achub rhyngwladol ochr yn ochr â Jonathon Gray a thîm o Climb.
Mae Climb yn rhaglen 10 mis sy’n cyfuno addysgu o’r radd flaenaf â’r cyfle i greu dull arwain. Gan ganolbwyntio ar arloesi mewn iechyd a gofal, bydd y garfan yn dysgu sgiliau newydd, yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau a fydd yn eu cefnogi wrth i’w gyrfaoedd ddatblygu.
Mae Dark Swan yn sefydliad hyfforddi sy’n gysylltiedig â’r elusen achub ryngwladol, Serve On. Maent yn cynnal gweithdai, heriau byw a digwyddiadau trochi radical i ddysgu pobl sut i addasu, bod yn wydn a pherfformio’n well fel tîm.
Treuliodd y garfan y cyfnod preswyl yn dod i adnabod ei gilydd, ond hefyd yn dod i wybod mwy amdanyn nhw eu hunain a sut maen nhw’n debygol o ymateb mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Gosododd y gwaith hwn sylfaen gref ar gyfer y misoedd i ddod cyn i’r garfan ddychwelyd i Dark Swan i ymgymryd ag ymarfer trochi radical a fydd yn profi eu sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth i’r eithaf.
Cyn hyn, bydd y garfan yn cael blwyddyn o hyfforddiant ac addysg gan rai o’r arweinwyr mwyaf adnabyddus o Gymru ac yn rhyngwladol. Un o’r athrawon hyn yw Mark Prain, cyfarwyddwr sefydlu Sefydliad Arweinyddiaeth Ryngwladol Hillary yn Seland Newydd. Roedd Mark hefyd yn bresennol yn y digwyddiad Climb hwn ac arweiniodd y tîm drwy sesiwn ar nodi eu whakapapa (hunaniaeth/llinach), eu pwrpas, ac i egluro eu hymdeimlad o berthyn gyda’i gilydd fel carfan.
Dywedodd Jonathon Gray, arweinydd Sefydliad Calon y Ddraig a’r rhaglen arweinyddiaeth Climb, “Mae’n hynod gyffrous gweld yr unigolion anhygoel hyn o bob rhan o’r system iechyd a gofal yng Nghymru yn gweithio gydag arbenigwyr gwych o ddiwydiannau eraill. Dyma’r cam cyntaf wrth adeiladu tîm gwych o arweinwyr i alw arnynt i ddatrys problemau mawr y dyfodol.”
Dywedodd Dan Cooke, Rheolwr Gweithrediadau a chyd-sylfaenydd Dark Swan, “Rydym yn ceisio adeiladu tîm anhygoel, a chymuned anhygoel. Mae Climb yn ymwneud â rhoi profiadau gwahanol i bobl a fydd yn eu galluogi i ddod i adnabod eu hunain, ei gilydd a chymryd y camau cyntaf ar y daith hon.”