Mae Archus, Mott MacDonald, Q5, Hoare Lea, BDP, Undeb Rygbi Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (ynghyd ag ystod eang o bartneriaid eraill) yn falch iawn o gyhoeddi bod cyflawni ysbyty ymchwydd y GIG, Ysbyty Calon y Ddraig, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr ‘Partneriaeth Ymateb Rhanbarthol i COVID-19’ yng Ngwobrau Partneriaethau HSJ 2021. Mae’r gwobrau yn cydnabod eu hymroddiad rhagorol i wella gofal iechyd a chydweithio effeithiol gyda’r GIG yn y frwydr gynnar yn erbyn COVID-19.

Yn dilyn y cyfnod mwyaf heriol ar gyfer y sector gofal iechyd mewn hanes diweddar, mae gwobrau eleni yn pwysleisio rôl hanfodol sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector o ran cryfhau’r system gofal iechyd. Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Partneriaeth yn ddathliad gwych o’r ymdrechion ar y cyd a arweiniodd at gyflawni Ysbyty Calon y Ddraig a sicrhau bod yr enghreifftiau gorau o weithio mewn partneriaeth yn cael eu cydnabod yn genedlaethol, y dysgir ohonynt ac y cânt eu huwchraddio lle bo’n bosibl.

Roedd y panel beirniadu yn cynnwys ystod amrywiol o ffigurau uchel eu parch ar draws y GIG a’r sector gofal iechyd ehangach. . Mae bod ar y rhestr fer yn y rownd derfynol ar gyfer y gwobrau hyn, er gwaetha’r gystadleuaeth anodd o gasgliad o ymgeiswyr gwych, yn gyrhaeddiad anhygoel ar gyfer Archus, Mott Macdonald a phartneriaid sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae tîm Ysbyty Calon y Ddraig hefyd ar y rhestr fer yn seiliedig ar eu diwydrwydd, uchelgais, a’u heffaith gadarnhaol ar ymarferwyr a chleifion o fewn y diwydiant gofal iechyd.

Gwnaeth yr holl bartneriaid symud yn gyflym i gyflawni’r ysbyty dros dro newydd sbon â 1000-2000 o welyau a’r isadeiledd cefnogol o fewn y stadiwm mewn pedair wythnos yn unig – heb amharu ar ansawdd y gofal, diogelwch cleifion nac ansawdd yr amgylchedd. Gwnaeth ffordd newydd o weithio oresgyn yr holl ffiniau sefydliadol, gydag ethos “gyda’n gilydd yn gryfach”, i ddarparu’r ail ysbyty dros dro mwyaf yn y DU. Roedd hyn yn diogelu gallu’r bwrdd iechyd i ofalu am yr holl gleifion yn ystod ton gyntaf argyfwng COVID-19.

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish