Cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ei Chronfa Her Arloesi gyntaf, sy’n agored i unrhyw fusnes sy’n gallu dangos datrysiadau technoleg efelychu cyflym ar gyfer hyfforddiant gofal iechyd.
Mae cyllid y contract gwerth £400,000 ar gael i gynigion cystadleuol oddi wrth unrhyw fenter sy’n gallu cyflenwi hyfforddiant tracestomi arloesol, hynod effeithiol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: trawsnewid yr hyfforddiant cyfredol i fod yn brofiad dysgu hynod atyniadol sy’n goresgyn y cyfyngiadau a achosir gan gadw pellter cymdeithasol, prinder cyfleusterau hyfforddi a’r angen am hunanynysu.
Cefnogir yr Her Arloesi gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth Y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – gan ddarparu proses gynnig dryloyw a theg sy’n agored i fusnesau o bob maint i greu prototeip, i brofi ac i fasnacheiddio datrysiadau chwyldroadol o fewn GIG Cymru.
Dywedodd Gareth Browning, Rheolwr Cyllid Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,
“Rwyf yn croesawu’r ymagwedd arloesol hon tuag at ddiwallu angen gofal hanfodol. Mae’r heriau a roddir gan y pandemig wedi datgloi cyfleoedd enfawr ar gyfer ailddehongli’r sefyllfa sydd ohoni drwy harneisio’r doreth o feddwl arloesol a chreadigrwydd rydym wedi’i weld ledled y rhanbarth. Rwyf yn llawn cyffro o allu cynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drwy’n Her Arloesi gyntaf. Mae’n agor y drws i gyfleoedd sylweddol i’r sector creadigol sy’n arwain diwydiant sydd gennym yn Ne-ddwyrain Cymru – gyda phrosiect byw fydd yn cyflenwi arloesedd cyflym ar gyfer ein GIG, a hynny yn y rhanbarth ac ymhellach draw.
“Dyma’r cyfle i fynd o ‘da’ i ‘gwych’, gan gyflwyno efelychu cywair-bur a hyfforddiant digidol rhyngweithiol sy’n adlewyrchu’r amgylchedd clinigol ac y gellir eu cofleidio ledled GIG Cymru a’r Deyrnas Unedig gyda chyfleoedd yn y dyfodol i ddatblygu rhagor ar yr offer a ddewiswyd i’w ddefnyddio’n ehangach mewn cyfarpar cynnal bywyd sylfaenol, canolraddol a datblygedig.”
Byddai deilliant llwyddiannus i’r her efelychu hon yn:
- Cyflenwi hyfforddiant traceostomi mewn ffordd briodol a diogel.
- Gwneud y profiad hyfforddi mor debyg â phosibl i’r profiad wrth ochr gwely, gan ddarparu ymdeimlad gwirioneddol o’r union amgylchedd.
- Lleihau’r angen am hyfforddiant wyneb yn wyneb.
- Cyflenwi hyfforddiant mewn dull mwy cyfleus, heb gyfyngiadau ar amser na lleoliad, gan gynyddu’r niferoedd a hyfforddir a lleihau unrhyw ôl-groniadau.
- Galluogi cysondeb yn yr hyfforddiant a ddarperir ledled yr holl Fyrddau Iechyd, yn cynnwys cofnodi, adolygu a dadansoddi gweithdrefnau hyfforddi.
- Galluogi’r clinigydd i gynnal cymwyseddau clinigol ac unrhyw ofynion ail-ddilysu.
- Bod â chymhwysedd ehangach i fynd i’r afael â materion cyffelyb mewn arbenigeddau eraill.
- Sicrhau y cynhelir diogelwch cleifion drwy ddarparu hyfforddiant perthnasol i glinigwyr.
- Creu cyfleoedd i fusnesau lleol (e.e. yn y sector diwydiant creadigol).
- Cefnogi datblygu economaidd a seilir ar leoedd a magu cyfoeth lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Arwain at gynnyrch a gwasanaethau newydd, arloesol a chanddynt lwybr i gynyddu’n gyflym yn fasnachol ymhellach na marchnadoedd lleol.
Dywedodd Paul Twose, Therapydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr her,
“Mae lansio’r Gronfa Her hon yn ganlyniad gweithio cadarn mewn partneriaeth ledled Cymru a phen llanw blynyddoedd lawer o waith yn y maes hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Er 2019, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ansawdd a diogelwch y gofal a roddir i gleifion â thraceostomïau drwy wella sgiliau a hyder staff i wneud penderfyniadau cyflym, yn aml o dan bwysau mawr, wedyn lledaenu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ledled yr holl gyfundrefn iechyd yng Nghymru.
“Rhoddodd pandemig COVID-19 heriau anferth i bawb yn y GIG ond rhoddodd gyfle i ni gymell newid ystyrlon, ac fe gredaf fod gan ddeilliant y Gronfa Her hon y potensial i wella hyfforddiant i’r holl staff ledled Cymru. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn wedi’i wefreiddio ac yn teimlo’n freintiedig bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrth graidd y Gronfa Her gyntaf gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac yn llawn cyffro i weld ei deilliant.”