Mae BIP Caerdydd a’r Fro yn falch o lansio rhaglen 14,000 Llais. Wedi’i chynnal o fewn Sefydliad newydd Calon y Ddraig, mae’n gyfle i staff gysylltu â’r tîm gweithredol, rhannu eu syniadau, ac ysgogi newid ystyrlon mewn fforwm hamddenol, anffurfiol.

Rydym yn gwybod bod llawer o’r syniadau gorau ynghylch sut i wella ymarfer a phrosesau ar draws y system iechyd a gofal yn cael eu cynhyrchu gan y rhai hynny sy’n gweithio ar y rheng flaen, ond eu bod yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag eu datblygu.

Yn ystod pandemig COVID-19, bu staff ar draws y system iechyd a gofal yn gweithio mewn ffyrdd newydd, arloesol i ddatrys yr heriau a ddaeth yn sgil y clefyd. Nawr, nod 14,000 Llais yw dal y momentwm hwnnw a sicrhau bod y staff yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wireddu eu syniadau ynghylch gwella gofal.

Mae’r tîm gweithredol yn BIP Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i hyrwyddo’r syniadau a’r awgrymiadau gorau o’r sesiynau ac adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r rhai hynny a wnaeth eu hargymell i sôn am eu datblygiad.

Dywedodd Jonathon Gray, Cyfarwyddwr Gwella ac Arloesi BIP Caerdydd a’r Fro, “Rydym yn sefydliad dysgu; mae’n rhan o’n DNA. Ar gyfer y rhaglen hon, rydym wedi edrych dramor at gydweithwyr yn system iechyd Singapore a ddefnyddiodd ddull tebyg i hwn i ddal a datblygu’r syniadau a’r atebion gorau i’r heriau anoddaf a wynebwyd gan y system. Fodd bynnag, yn fwy na hyn, rydym eisiau dysgu gennych chi, staff BIP Caerdydd a’r Fro, am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu yn eich ymarfer a sut y byddech chi’n eu goresgyn gyda chymorth y tîm gweithredol. Galla i ddim aros i weld beth fydd canlyniadau’r sesiynau hyn.”

Dywedodd Rachel Gidman, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant, “Rydym yn credu bod gan bob aelod o staff syniad neu awgrym sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar y gofal rydym yn ei roi i’n cleifion. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gweithlu wedi’i rymuso i wneud newid, gan oresgyn y rhwystrau y gallai eu hwynebu i wneud hynny. Mae’r rhaglen 14,000 Llais yn gam ar y daith hon ac rydym yn parhau i weithio tuag at y nodau yn ein strategaeth,Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, a darparu’r gofal gorau posibl i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu nawr ac y byddwn yn parhau i’w gwasanaethu yn y dyfodol.”

Cynhelir y sesiynau 14,000 Llais cyntaf yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ym mis Gorffennaf gyda sesiynau pellach wedi’u trefnu ar gyfer safleoedd eraill y Bwrdd Iechyd yn y dyfodol agos. Er mwyn cadw pellter cymdeithasol yn ystod y sesiynau, a fydd yn digwydd wyneb yn wyneb, mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ym mhob un ac rydym yn eich annog i gadw eich lle cyn gynted â phosibl drwy’r dudalen Eventbrite hon i osgoi colli’r cyfle. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi i gyd fel y gallwn ni glywed eich llais.

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish