Yn hanesyddol, bu cryn annhegwch o ran mynediad at ofal lliniarol yng Nghymru gyda’r rhan fwyaf o ofal lliniarol arbenigol yn cael ei flaenoriaethu i’r rhai hynny â malaenedd.

Ochr yn ochr â chanser, mae achosion blaenllaw o farwolaeth yn y DU yn cynnwys cyflyrau fel clefyd y galon a chylchrediad y gwaed, a chlefyd yr ysgyfaint, ac mae nifer yr achosion o glefyd yr afu hefyd yn codi’n gyflym.

Yn ystod un neu ddwy flynedd olaf bywyd, mae gan gyflyrau fel methiant y galon, methiant anadlol, methiant yr arennau a methiant yr afu faich symptomau tebyg i ganser metastatig, gyda lefelau cyfartal o ofid a allai elwa ar ofal lliniarol.

Fodd bynnag, ledled y DU mae cleifion sy’n marw o achosion heblaw canser dan anfantais gyda dim ond 20% yn cael Gofal Lliniarol Arbenigol.

O ganlyniad, bydd llawer o gleifion sy’n dioddef o’r cyflyrau hyn yn marw yn yr ysbyty pan fyddai’n well ganddynt ganolbwyntio ar ansawdd bywyd a chysur yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen a chael ymyrraeth feddygol. Byddai 80% o bobl yn dewis bod gartref ar ddiwedd eu hoes, a gellir cyflawni hyn yn aml os oes modd iddynt osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty yn ystod y misoedd yn arwain at y farwolaeth, ond eto mae’r cleifion hyn yn aml yn treulio wythnosau yn yr ysbyty yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd.

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae tîm clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dan arweiniad Dr Clea Atkinson, meddyg ymgynghorol gofal lliniarol, wedi datblygu gwasanaeth Gofal Cefnogol newydd i ddarparu mewnbwn gofal lliniarol yn well i gleifion sy’n marw o fethiant datblygedig y galon.

Drwy roi blaenoriaeth i ofal sy’n canolbwyntio ar gleifion a chydweithio mewn ffordd hynod integredig gyda’r tîm sy’n atgyfeirio, gan egluro’r hyn sydd bwysicaf i gleifion a rheoli gofal y cleifion gyda’i gilydd, mae’r dull hwn wedi goresgyn llawer o’r rhwystrau atgyfeirio blaenorol, wedi gwella ansawdd bywyd, wedi lleihau faint o amser sy’n cael ei dreulio yn yr ysbyty oddi wrth anwyliaid, wedi gostwng nifer y marwolaethau mewn ysbytai ac wedi helpu llawer mwy o gleifion i farw gartref.

Cafodd Model Gofal Cefnogol Methiant y Galon ei sefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2016. Cafodd y model gofal hwn ei gynllunio i fynd i’r afael ag anghenion cleifion mewn ffordd well, gydag 85% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn dweud y byddent yn argymell y gwasanaeth i rywun arall yn yr un sefyllfa â hwy eu hunain.

Roedd cleifion hefyd yn teimlo bod gofal yn cael ei ddarparu gyda thosturi a’i fod yn cynnig dull gwell o gydlynu gofal, gan ddweud, “Mae meddygon a nyrsys y gwasanaeth yn llawer pwysicach i mi fel claf nag y gellid byth ei fynegi. Mae gwybod eu bod nhw yno fel cael ffrind dibynadwy, gwybodus a chariadus. Mae’r help hwn yn gwneud dyddiau olaf fy mywyd yn haws ac yn llai brawychus nag y byddai wedi bod fel arall” ac “Mae’r tîm wedi bod yn gefnogol iawn ac mae’r gwelliant yn ansawdd fy mywyd wedi bod yn aruthrol.  Er nad oes gwellhad, mae’r gwelliant yn y ffordd rwy’n teimlo yn wych.”

Ar ôl sefydlu’r model yng Nghaerdydd, fe wnaeth Clea a’i thîm fynychu’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyntaf erioed yn 2019. Cydnabu’r tîm fod gan y dull hwn o ddarparu gofal lliniarol botensial mawr ar gyfer ei ledaenu, gan fod gwaith trawsffiniol cyd-arbenigedd hynod integredig yn fater o ad-drefnu dull gwasanaeth, yn hytrach na bod angen ymgorffori sylfaen sgiliau hollol newydd.

Un o’r gwersi allweddol o’r Academi Lledaeniad a Graddfa yw sut i adnabod elfennau mwyaf hanfodol, anghydffurfiol yr ymyrraeth neu’r ateb rydych chi’n ceisio eu lledaenu, a’r elfennau y gellid eu haddasu gan y rhai sy’n edrych i’w gweithredu yn dibynnu ar eu cyd-destun. I ddysgu hyn, mae’r academi’n defnyddio trosiad brechdan twrci; y syniad yw mai’r unig gydrannau sy’n angenrheidiol i wneud un yw twrci a bara, mae unrhyw beth arall y byddech chi’n ei ychwanegu ato yn cynrychioli’r addasiadau sy’n cael eu gwneud i’r atebion er mwyn eu gwneud yn dderbyniol ac yn briodol i eraill.

Ers eu presenoldeb yn yr Academi, nododd y tîm rai elfennau gwasanaeth hanfodol megis atgyfeirio cynharach, gwaith cyd-arbenigedd, ail-rymuso cleifion i weithio mewn partneriaeth, sgiliau Gofal Lliniarol Arbenigol a dull sy’n seiliedig ar dosturi.

Mae’r gwasanaeth wedi ennill gwobrau proffil uchel, gan gynnwys Gwobr GIG Cymru a Gwobr MediWales yn 2022. Mae’r tîm hefyd wedi cyflwyno mewn cynadleddau Gofal Lliniarol a Methiant y Galon cenedlaethol allweddol a chynadleddau Gofal Integredig rhyngwladol, ac wedi cyhoeddi gwaith yn nghyfnodolyn BMJ Supportive and Palliative Care Gorffennaf 2022 sy’n dangos eu bod yn arwain y ffordd yn y dull newydd hwn o ddarparu gofal lliniarol ar gyfer clefydau anfalaen.

Ym mis Gorffennaf 2022, llwyddodd tîm Clea i sicrhau £400,000 i ehangu’r Gwasanaeth Gofal Cefnogol ymhellach ar gyfer cleifion sydd â methiant datblygedig y galon, a hefyd i fabwysiadu dull cyd-arbenigedd integredig tebyg ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau datblygedig ar yr afu, yr arennau a chyflyrau anadol datblygedig. Mae’r erthyglau a gyhoeddwyd ganddynt yn BMJ Supportive and Palliative Care yn dod i’r casgliad bod dull trawsffiniol cyd-arbenigedd o ddarparu gofal yn rhoi manteision gofal lliniarol i gleifion sydd â methiant y galon mewn modd sy’n seiliedig ar werthoedd, gan fodloni blaenoriaethau gofal sydd bwysicaf i gleifion.

Mae’r model ar gyfer cleifion sydd â methiant ar y galon wedi cael ei dreialu mewn pedwar Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru, gan gynnwys BIP Cwm Taf Morgannwg, BIP Betsi Cadwaladr a BIP Hywel Dda, gyda chanlyniadau hynod lwyddiannus. Mae’r grwpiau sy’n rhan o’r cynlluniau peilot hyn hefyd yn ffurfio rhwydwaith newydd sy’n cefnogi mabwysiadwyr. Yn fewnol, yn BIP Caerdydd a’r Fro, mae Clea a’i thîm yn lledaenu’r model cefnogol o ofal ar gyfer methiant y galon i nifer o arbenigeddau eraill a bydd y model gofal cefnogol yn cael ei dreialu’n fuan i gleifion o dan eu gofal.

Roedd Clea hefyd yn aelod o garfan gyntaf Climb, y rhaglen arweinyddiaeth arall a gynigir gan Sefydliad Calon y Ddraig ochr yn ochr â’r Academi Lledaeniad a Graddfa.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad dros y blynyddoedd diwethaf a sut mae’r rhaglenni a gynigir gan Sefydliad Calon y Ddraig wedi cael effaith ar ei gwaith, meddai, “Mae fy nghyfranogiad yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa ac wedyn Climb wedi gwneud i mi sylweddoli ambell beth. Yn gyntaf, nid wyf ar fy mhen fy hun, ac nid fi yw’r unig un sy’n ddigon dewr i fod eisiau hyrwyddo newid. Fodd bynnag, dylwn gredu ynof fy hun fel arweinydd, ac nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn wedi’i wneud cyn y rhaglenni hyn. Yn wir, yn ystod fy ngyrfa hyd at y pwynt hwn, roeddwn i’n aml wedi teimlo fy mod yn cael fy meirniadu a’m gwrthwynebu am geisio hyrwyddo newid.

“Fe wnaeth yr Academi Lledaeniad a Graddfa fy helpu i agor fy llygaid yn eang a chofleidio’r syniadau a’r weledigaeth fwyaf y gallwn ei dychmygu oherwydd gallwn i wneud iddo ddigwydd. Yn dilyn hyn, dangosodd Climb i mi unwaith ac am byth nad oeddwn i ar fy mhen fy hun; bod yna grŵp o bobl debyg i fi oedd â syniadau a gweledigaeth ar gyfer ffordd well ymlaen, a gyda’n gilydd, gallen ni gefnogi ein gilydd a rhannu gobaith ar gyfer dyfodol ein GIG.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish