Pan ddaeth Louise Allen, Pennaeth Fferylliaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’i thîm i’r Academi Lledaeniad a Graddfa ym mis Mawrth 2022, roedd eu rhaglen waith a oedd yn cynnwys cynnig dulliau atal cenhedlu pontio mewn fferylliaeth gymunedol yn cael ei threialu mewn chwe fferyllfa yng Nghaerdydd. Erbyn Ebrill 2023, bwriedir i’r gwasanaeth hwn gael ei gynnig mewn 700 o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

Mae’r gwasanaeth dulliau atal cenhedlu pontio hefyd wedi’i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru, a dylanwadodd ar bolisi a wnaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn dod yn rhan o’r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol (CCPS) o fis Rhagfyr 2022 ymlaen, a’i fandadu ar gyfer holl fferyllfeydd rhestredig CCPS i’w gynnig o fis Ebrill 2023

Mae datblygu’r gwasanaeth hwn o gynllun peilot i bolisi cenedlaethol, a’i weithredu mewn fferylliaeth gymunedol wedi bod yn ffocws i Louise a’i thîm dros y 12 mis diwethaf gyda’r nod o gynnig dulliau atal cenhedlu pontio i o leiaf 1,000 o bobl sy’n wynebu risg o feichiogi erbyn diwedd 2023.

Mae Louise o’r farn bod presenoldeb ei thîm yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa wedi rhoi’r hunangred iddynt eu bod yn gallu cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn a’r offer a’r sgiliau i’w cefnogi i wneud hynny.

Louise Allen, Head of Community Pharmacy in Cardiff and Vale University Health Board

Beth yw dulliau atal cenhedlu pontio?

Ym mis Chwefror 2018, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad o iechyd rhywiol yng Nghymru, a ganfu y dylai “dulliau atal cenhedlu rheolaidd drwy’r geg fod ar gael drwy wasanaeth gwell o fewn pob fferyllfa gymunedol.” Mae’n amlwg bod fferyllfeydd cymunedol â rhan hanfodol i’w chwarae o ran cynnig gwasanaethau iechyd rhywiol.

Pan fydd rhywun yn mynychu fferyllfa i gael y bilsen atal cenhedlu brys (a elwir yn aml yn “bilsen bore wedyn”), bydd y gwasanaeth ychwanegol hwn nawr yn galluogi fferyllwyr i gynnig cyflenwad 3 mis o bilsen atal cenhedlu i bontio’r bwlch a allai fod rhwng y dulliau atal cenhedlu brys a dulliau atal cenhedlu tymor hwy, gan ganiatáu i’r claf ofyn am gyngor ar eu hopsiynau gyda gweithwyr meddygol proffesiynol a phenderfynu ar ddewis ar gyfer dull hirdymor. Mae hyn yn cael ei alw’n ddulliau atal cenhedlu pontio.

Mae’r cyflenwad 3 mis hwn ar gael yn uniongyrchol gan fferyllwyr (yn yr un modd â’r bilsen atal cenhedlu brys). A’r gobaith yw y bydd hyn yn rhyddhau capasiti ac amser meddygon teulu heb fod angen apwyntiad meddyg teulu ar unwaith gan fod modd darparu’r gwasanaeth hwn gan fferyllfeydd cymunedol lleol

Y stori hyd yn hyn…

Roedd dadreoleiddio Desogetral yn 2020 yn golygu bod y cyffur atal cenhedlu hwn ar gael i’w werthu mewn fferyllfeydd ond am gost sylweddol a oedd yn afresymol i lawer. Fodd bynnag, yn unol ag adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2018, awgrymodd Louise wrth Brif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru y gallai gwasanaeth sy’n darparu cyflenwad cychwynnol fod yn rhan o’r hyn a gynigir gan fferyllfeydd cymunedol y GIG a thrwy hynny ei wneud yn rhad ac am ddim i gleifion o’r cychwyn.

Erbyn diwedd 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo’r syniad a gosod nod o weithredu’r gwasanaeth mewn 700 o fferyllfeydd ledled Cymru erbyn Ebrill 2023, gan adael Louise a’i thîm â’r dasg o’i roi ar waith ar raddfa helaeth.

Ym mis Mawrth 2022, dechreuwyd peilot o’r gwasanaeth mewn chwe safle yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn yr un mis gwnaeth Louise, Reem El-Sharkawi, cymrawd arweinyddiaeth glinigol Llywodraeth Cymru a Hayley Jones, Presgripsiynydd Annibynnol Fferyllol ar gyfer dulliau atal cenhedlu o Fferyllfa Cyncoed yn BIPCAF fynychu’r Academi Lledaeniad a Graddfa yng Nghaerdydd.

Roedd y gwersi a ddysgwyd o’r peilot, ynghyd â’r hyn a ddysgwyd o’r academi yn amhrisiadwy i dîm Louise, a gwnaeth y Model for Unleashing (y model ar gyfer newid ar raddfa fawr a gyflwynwyd yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa) roi’r offer iddynt nodi elfennau allweddol y gwasanaeth, nad ydynt yn agored i drafodaeth, a’r fethodoleg i’w lledaenu ar raddfa eang drwy godi ymwybyddiaeth, meithrin ewyllys a throsglwyddo sgiliau, a thrwy hynny sicrhau bod popeth yn ei le er mwyn i’r gwasanaeth cenedlaethol hwn gael ei ddatblygu a’i gytuno gyda thempled cenedlaethol er mwyn ei alluogi i gael ei gynnig ym mhob ardal Bwrdd Iechyd.

Un o’r gwersi allweddol o’r Academi Lledaeniad a Graddfa yw sut i adnabod elfennau mwyaf hanfodol, anghydffurfiol yr ymyrraeth neu’r ateb rydych chi’n ceisio eu lledaenu, a’r elfennau y gellid eu haddasu gan y rhai sy’n edrych i’w gweithredu yn dibynnu ar eu cyd-destun. I ddysgu hyn, mae’r academi’n defnyddio trosiad brechdan twrci; y syniad yw mai’r unig gydrannau sy’n angenrheidiol i wneud un yw twrci a bara, mae unrhyw beth arall y byddech chi’n ei ychwanegu ato yn cynrychioli’r addasiadau sy’n cael eu gwneud i’r atebion er mwyn eu gwneud yn dderbyniol ac yn briodol i eraill.

Yn ystod eu peilot, dysgodd Louise a’i thîm, ar wahân i ddarparu’r feddyginiaeth ei hun, mai’r peth pwysicaf oedd ei angen er mwyn i’w hymyrraeth lwyddo, oedd dim ond sgwrs rhwng y claf a’r fferyllydd, lle mae’r dulliau atal cenhedlu pontio yn cael eu hesbonio a’u cynnig fel opsiwn. Gwnaethant ganfod, hyd yn oed os na fyddai’r claf yn derbyn y dulliau atal cenhedlu pontio ar unwaith, y gallai’r sgwrs ysgogi newid mewn ymddygiad yn ddiweddarach mewn ffordd debyg i fethodoleg Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

I hwyluso hyn, gweithiodd tîm Louise gyda sefydliadau partner cenedlaethol fel Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), y bu eu mewnbwn yn amhrisiadwy o ran sbarduno lledaeniad yr ymyrraeth yn ogystal â’i gwneud yn hyfyw.

Gan weithio gydag AaGIC, fe ddatblygon nhw fodiwl hyfforddi cenedlaethol ar gyfer fferyllwyr cymunedol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth a ddarparwyd ac i sicrhau eu bod yn cael eu grymuso i gynnal y sgyrsiau hyn, ac yn deall pam eu bod mor bwysig. Yn yr un modd, sicrhaodd eu gwaith gyda DHCW fod modiwl newydd ar y system cofnodion cleifion, Dewis Fferyllfa,  yn cael ei ddatblygu ac ar gael i fferyllwyr i gofnodi canlyniad eu sgwrs gyda chleifion.

Gwers allweddol arall o’r Academi Lledaeniad a Graddfa yw gwerth uchel meithrin cysylltiadau a chydberthnasau un-i-un yn hytrach na chydberthnasau trafodaethol wrth ddarparu newid ar raddfa fawr. Fel methodoleg i feithrin ewyllys, gall hyn fod yn llawer mwy effeithiol na gweithredu newid a thargedau o’r brig i lawr. Felly, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun newydd ac adeiladu’r cysylltiadau hyn ar lefel genedlaethol, cynhaliodd Louise a’i thîm gyfres o sesiynau sioe deithiol gyda fferyllwyr cymunedol ledled Cymru ym mis Hydref 2022.

Fodd bynnag, mae Louise yn credu mai rhai o’r gwersi pwysicaf a ddysgodd ei thîm gan yr Academi Lledaeniad a Graddfa oedd y gwersi y gwnaethon nhw ddysgu amdanynt eu hunain. Roedd y cyfle i gydweithio fel tîm am dridiau yn amhrisiadwy ac yn un na fydden nhw wedi ei gael fel arall. Ynghyd â’u cynllun gweithredu 90 diwrnod (rhywbeth y mae pob tîm yn gadael yr academi gydag ef), sicrhaodd y cydlyniant tîm hwn eu bod yn parhau i gyfarfod ac yn parhau i fuddsoddi yn y prosiect ymhell ar ôl i’r Academi ddod i ben.

Gwnaeth yr Academi Lledaenu a Graddfa hefyd helpu Louise a’r tîm i ddeall eu cryfderau a’u gwendidau unigol yn well, a sut y gallant weithio gyda’i gilydd i wella eu perfformiad. Ymhellach, cawsant ddealltwriaeth ddyfnach o sut maen nhw’n ymwneud â’i gilydd a’u gwaith, yn enwedig mewn cyfnodau o straen. Yn yr academi, caiff hyn ei addysgu gan ddefnyddio’r syniad o bersonâu megis dihiryn, dioddefwr neu arwr rydych chi’n eu mabwysiadu mewn ymateb i sefyllfa sy’n achosi straen. Caiff ei addysgu mewn ffordd ddoniol ac ysgafngalon yn ystod y rhaglen, ond er hynny gall y wers wneud gwahaniaeth enfawr i’r ffordd y mae cynrychiolwyr yn mynd at eu gwaith.

Dywed Louise ei bod hi a’i chydweithwyr wedi cael cymaint o hwyl yn adnabod ac yn dehongli eu personâu yn yr academi ac y bydd persona ‘arwr’ ei chydweithiwr, y gwnaethant ei henwi’n “Polly Positif” bob amser yn glynu wrthi a bydd yn gallu helpu i weithio yn erbyn ei phersona dioddefwr/dihiryn ei hun mewn gwirionedd.

I Louise, y gwaith mewnol hwn oedd y peth pwysicaf a enillodd o’r Academi Lledaeniad a Graddfa; dywed “Rhoddodd yr Academi Lledaeniad a Graddfa y gallu i mi a’m tîm feddwl ar raddfa fawr ac, yn hollbwysig, yr uchelgais a’r hunan-gred y gallem gwrdd â’r nodau y gwnaethom ei gosod i ni’n hunain. Pan ddaethom i’r academi, roeddem yn wynebu her enfawr o ledaenu ein hymyrraeth i fferyllfeydd ledled Cymru, ac mae wedi ein galluogi a’n hysbrydoli i wneud hyn ar garlam. Rydym yn hynod ymwybodol o’r effaith y bydd ein gwaith yn ei chael ar fywydau pobl a pham ei bod mor bwysig ein bod yn cyrraedd ein nod. Byddwn yn ei argymell yn ddiffuant i unrhyw un.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish