Ym mis Medi 2022, gwnaeth Sefydliad Calon y Ddraig, ochr yn ochr â Becky Margiotta o’r Billions Institute yn UDA, gyflwyno tair Academi Lledaeniad a Graddfa ledled y DU o fewn tair wythnos yn olynol.
Mae’r Academi Lledaeniad a Graddfa yn ddigwyddiad hyfforddiant ymdrwythol sydd wedi’i gynllunio i roi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gyflawni gwelliannau ac arloesedd ar raddfa helaeth ar draws eu sefydliadau, eu systemau a thu hwnt.
Mae wedi cael ei gyflwyno sawl gwaith yng Nghaerdydd mewn partneriaeth rhwng tîm Sefydliad Calon y Ddraig, BIP Caerdydd a’r Fro a’r Billions Institute ers 2019, ond yr hydref hwn, am y tro cyntaf, aethpwyd â’r Academi ar daith.
Mae timau’n aml yn cyrraedd yr academi gyda phroblem y maent yn ei chael yn anodd ei chyfleu’n effeithiol ac felly mynd i’r afael â hi. Dros gyfnod o dridiau, mae’r timau’n dysgu am y ‘Model for Unleashing’ sef dull arloesol o ledaenu a datblygu arfer gorau ar raddfa helaeth sy’n mynd i’r afael nid yn unig â’r gwaith ei hun ond hefyd y system y mae’r rhai sy’n ceisio cyflawni lledaeniad yn gweithio o’i mewn, a’r gwaith mewnol sy’n ofynnol ganddynt er mwyn peidio â rhwystro cynnydd yn ddiarwybod. Maent yn gadael gyda mwy o hunanhyder, cred o’r newydd yn eu gwaith, nod clir a chynllun cadarn 90 diwrnod ar gyfer lledaeniad cychwynnol eu rhaglen waith.
Yn dilyn yr Academi, cânt eu gwahodd i ymuno â’r Gymuned Ymarfer Lledaeniad a Graddfa ryngwladol, sy’n cael ei rhedeg gan dîm Sefydliad Calon y Ddraig. Yma, gall graddedigion yr academi ddod at ei gilydd i drafod eu cynnydd, yr heriau y maent wedi’u hwynebu a rhannu syniadau am sut y gellir eu goresgyn ar y cyd.
Gan ddechrau yn Swydd Efrog, gwnaeth y tîm gyflwyno Academi ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Canol Swydd Efrog a Rhwydwaith Gwyddor Iechyd Academaidd Swydd Efrog a Humber. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol ar draws 17 o dimau a oedd yn gweithio ar bopeth o sicrhau bod nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol yn cael y cyfle i aros a ffynnu yn eu gyrfaoedd yn Swydd Efrog i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i gael mynediad at ofal iechyd trwy’r cynllun Bag Coch VIP cenedlaethol.
Yn dilyn yr Academi, dywedodd Len Richards, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Canol Swydd Efrog, “Diolch yn fawr iawn i Sefydliad Calon y Ddraig a’r Billions Institute am ddod â’r Academi Lledaeniad a Graddfa i Swydd Efrog. Gwnaeth Becky a’r tîm helpu pobl i feddwl am eu prosiectau mewn ffyrdd newydd. Roedd digwyddiad Lledaeniad a Graddfa cyntaf Swydd Efrog yn llawn, ac yn cynnwys timau o Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Canol Swydd Efrog a thu hwnt. Edrychwn ymlaen at groesawu’r tîm yn ôl yn y dyfodol.”
Yn eu hail wythnos, roedd tîm Sefydliad y Galon y Ddraig gartref, yn cyflwyno’r Academi Lledaeniad a Graddfa i dimau o bob rhan o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Hon oedd yr Academi Lledaeniad a Graddfa fwyaf i’r Sefydliad ei chynnal erioed gyda dros 110 o bobl yn bresennol ar draws 19 tîm.
Roedd timau o GIG Cymru yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau megis prif ffrydio profion genomig, hyfforddiant ffurfiol ar gyfer rhoi pils i blant a phobl ifanc, a lleihau effaith amgylcheddol llawdriniaethau’r Glust, Trwyn a Gwddf ar raddfa genedlaethol. Ymunwyd â nhw gan ddetholiad o Swyddogion Gweithredol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a oedd yn bresennol fel tîm, cynrychiolwyr o Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru a thimau o sectorau eraill, gan gynnwys Academi Cymru a Dark Swan (cangen hyfforddiant ymdrwythol yr elusen chwilio ac achub ryngwladol, Serve On) yn ogystal â chydweithwyr o Ysbyty Tan Tock Seng yn Singapore, a oedd wedi teithio i Gymru i brofi hyfforddiant yn y Model for Unleashing.
Yn dilyn Academi Caerdydd, dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Roedd yn bleser mawr gennyf fynychu’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyda’m cydweithwyr o Dîm Gweithredol y Bwrdd Iechyd. Rhoddodd y rhaglen gyfle unigryw i ni fel tîm i ymchwilio i’r rhwystrau i newid cadarnhaol sy’n bodoli o fewn ein system a dechrau cynhyrchu syniadau ar sut y gallwn hwyluso’r gwaith rhagorol, arloesol a welwn yn digwydd o’n cwmpas. Fe wnaeth yr Academi hefyd ein hysgogi i fyfyrio’n ddwfn ar ein harddulliau arwain ein hunain ac rwyf eisoes wedi dechrau rhoi’r hyn a ddysgais gan Becky a’r tîm ar waith.
“Gwnaeth y gwaith yr oedd timau eraill yn yr ystafell wedi’i gyflwyno i’r Academi argraff fawr arnaf hefyd ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae eu prosiectau lledaeniad a graddfa hwy yn datblygu fel bod cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru yn gallu elwa ar eu syniadau rhagorol.”
Yn olaf, aeth y tîm i Lundain, i gyflwyno Academi i System Gofal Integredig De-ddwyrain Llundain a oedd newydd ei ffurfio. Mynychwyd yr academi hon gan tua 70 o bobl ar draws 9 tîm ac roedd yn gyfle gwych i’r rhai a oedd yn bresennol sydd wedi dod yn gydweithwyr yn ddiweddar i gwrdd â’i gilydd, dechrau chwalu seilos eu system gymhleth a thrafod uchelgais gyffredin eu system.
Yn dilyn Academi Llundain, dywedodd Jonty Heaversedge, Cyfarwyddwr Meddygol ICS De-ddwyrain Llundain, “Fel System Gofal Integredig rydym yn dechrau ar oes a nodweddir gan gydweithio. Ar ei ben ei hun ni fydd hyn yn ddigon i’n helpu i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu. Mae angen i unigolion a thimau feddu ar y gallu, y dewrder a’r hyder angenrheidiol i sicrhau newid ystyrlon. Mae’r Academi Lledaeniad a Graddfa wedi ein helpu i ryddhau’r potensial hwn mewn timau rheng flaen ar draws de-ddwyrain Llundain, mae wedi meithrin cydberthnasau a bydd, dros amser, yn ein galluogi i greu’r amodau angenrheidiol ar gyfer arloesi a gwella i danategu popeth a wnawn gyda phobl leol ac ar eu cyfer. Cefais fy syfrdanu gan lefel yr uchelgais, angerdd a phenderfyniad a ddangoswyd gan gynrychiolwyr y rhaglen ar ddiwedd yr Academi i wella’r gofal i’n poblogaeth yma yn Ne-ddwyrain Llundain a thu hwnt.”
Dywedodd Maria Higson, Cyfarwyddwr Trawsnewid a Chyflawni yn ICS De-ddwyrain Llundain, “Cafodd yr Academi Lledaeniad a Graddfa groeso gwych yn Ne-ddwyrain Llundain; rydym wedi cael adborth arbennig gan y timau, a rhai sgyrsiau dilynol cyffrous iawn gyda phobl sydd eisiau rhannu a datblygu eu dysgu. Hon oedd ein Hacademi gyntaf, ac wythnos yn ddiweddarach rydym eisoes wedi dechrau cynllunio ein hacademi nesaf.”
Os hoffech wybod mwy am yr Academi Lledaeniad a Graddfa, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â spreadandscale@wales.nhs.uk