Rwyf wedi bod yn lwcus iawn i gael gyrfa anhygoel hyd yma, yn cwmpasu meysydd clinigol, sefydliadau a gwledydd. Cymhwysais fel Nyrs Gofrestredig yn 1995 yn Portsmouth a gweithiais am nifer o flynyddoedd yn y maes meddygaeth i’r henoed cyn penderfynu teithio’r byd. Pan oeddwn yn teithio, gweithiais fel nyrs yn Awstralia. Tra bod fy ffrindiau yn ennill tipiau bach mewn bariau, roeddwn i’n datblygu fy sgiliau ac yn ennill cyflog cymharol dda (am deithiwr!)

Ar ôl dychwelyd o’r daith honno, gweithiais yn y maes Gofal Coronaidd cyn symud i St Louis, UDA a gweithio yn yr adran Gofal Dwys Cardio-thorasig. Dyma lle y datblygais fwyaf, yn glinigol ac o safbwynt personol. Dechreuais sylweddoli pa mor gryf yw fy ngwerthoedd o ran bod gofal iechyd ar gael i bawb, peidio â gwneud unrhyw niwed ac, yn y pen draw, pa mor bwysig yw’r GIG i fi.

Dychwelais i’r DU i gael fy nheulu, a chymerais ychydig o flynyddoedd i ffwrdd i ofalu amdanynt. Unwaith yr oeddent i gyd yn y feithrinfa cefais drafferth am ychydig yn canfod beth roeddwn i wir am ei wneud, ac ar ôl ychydig o swyddi yn yr adran Gofal Dwys Cardiaidd a Hemodialysis, fe ddes i ar draws Nyrsio Ymchwil.

Roedd hwn yn fyd cwbl newydd y gallwn uniaethu ag ef. Cyfuniad o ofal cleifion ac eiriolaeth, gwyddoniaeth, ac yn y pen draw, gwella gwasanaethau. Mwynheais yr her o geisio newid y diwylliant a oedd yn amgylchynu Ymchwil Glinigol a phenderfynais y byddwn yn gwneud popeth a allwn i’w wneud yn ofal safonol yn ein meysydd clinigol, yn hytrach na chael ei ystyried fel ‘rhywbeth arall’ i feddygon academaidd ei wneud. Roedd hyn fwyaf amlwg yn ystod y pandemig pan oeddem yn dibynnu cymaint ar y treialon yr oeddem yn eu cynnig i lywio ein ffordd drwy COVID-19. Credaf mai’r diwrnod y byddaf yn ei gofio bob amser fel diwrnod gorau fy ngyrfa oedd y diwrnod y gwnaethom ganfod fod y cyffur fforddiadwy, hygyrch, dexamethasone yn gwella canlyniadau marwolaeth i gleifion â COVID-19 acíwt. Roeddem wedi gweithio mor galed ar y Treial RECOVERY ac roedd wedi talu ar ei ganfed: roedd wedi achub bywydau. (Fe wnes i grio!)

Ar ôl 7 mlynedd o weithio fel Uwch-nyrs Ymchwil, yn cyflawni Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP CAF), roedd yn bryd symud ymlaen. Ym mis Rhagfyr 2021, dechreuais fy rôl bresennol fel Rheolwr y Rhaglen Arloesi ar gyfer BIP CAF. Nid oedd nyrsio yn un o ofynion hanfodol y rôl hon ond credaf ei fod yn ychwanegu cymaint. Fel nyrsys, rydym yn ei brofi i gyd: y da a’r drwg. Rydym yn myfyrio’n barhaus ac yn deall cymhlethdodau gofal a llwybrau cleifion yn well nag unrhyw un arall.

Fel Rheolwr y Rhaglen Arloesi, fy ngwaith i yw bod yn bont rhwng ein holl staff o’r adran Ystadau i ITU, i wrando ar eu syniadau ynghylch beth a allai wella ein gwasanaethau, ac i gysylltu â’r arbenigedd, gwyddoniaeth a thechnoleg gywir er mwyn cyflawni hyn. Mae fy rôl i’n cysylltu â’r byd arloesi ehangach yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Prifysgolion, Cynghorwyr IP, Llywodraethu, Caffael ac amrywiaeth o arbenigedd yn y byd gwyddoniaeth a diwydiant. Mae’n fraint gallu hwyluso’r cydweithrediadau hyn, cyfeirio at grantiau perthnasol, a chefnogi prosiectau hyd at eu gweithrediad.

Yr her dros y chwe mis nesaf yw dod yn dîm mwy gweladwy. Ar hyn o bryd mae ein tîm yn cynnwys fi a Mark Briggs, y Cyfarwyddwr Arloesi Cynorthwyol, ochr yn ochr â thri Chymrawd Arloesi anhygoel sy’n gweithio ar rai prosiectau gwych ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio’n galed i ddiffinio ein prosesau a sicrhau ein bod yn gallu cynnig cymorth cadarn i’n gweithlu, er mwyn sicrhau bod BIP Caerdydd a’r Fro yn gallu datblygu ac ymateb i’r heriau o’n blaenau.

Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni os oes gennych unrhyw syniadau neu brosiectau yr hoffech gael ein cymorth neu gyngor yn eu cylch: Zoe.hilton@wales.nhs.uk

Avatar photo
Written by:
Zoe Hilton