Un o’r agweddau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i fi yn fy swydd yw’r amser rwy’n ei dreulio gyda’n harweinwyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn am newid systemig ar raddfa fawr a ddaeth â’r cyfle annisgwyl i weithio gydag arweinwyr o’r fath ar draws y nifer o seilos iechyd a gofal, ochr yn ochr â rhai o leoedd a sefydliadau nad ydym bob amser wedi rhwydweithio â nhw fel y Fyddin, yr awdurdod lleol, chwaraeon elitaidd, a llawer mwy.
Wrth gydweithio â nhw, roedd rhai themâu cyffredin a godwyd dro ar ôl tro gan yr holl arweinwyr: pa mor rhwystredig ac unig y gall fod iddynt i lywio cymhlethdodau ein system a pha mor anodd yw hi i unrhyw ran o’r system wneud newid ar ei phen ei hun. Cawsom ein hatgoffa yn y ffordd galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf bod materion cymhleth a rhyng-gysylltiedig yn gofyn am ddulliau arloesol i ysgogi gweithredu pwrpasol ar raddfa eang. Gwelsom yr hyn y mae rhai yn ei ddisgrifio fel Arweinyddiaeth Systemau yn dod i’r amlwg.
Mae Lisa Dreier, Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Arweinyddiaeth Uwch ym Mhrifysgol Harvard, a’i chydweithwyr yn Ysgol Harvard Kennedy, yn ein hatgoffa bod angen ymrwymiad unigolion a sefydliadau sy’n ymuno â’i gilydd i weithredu ar y cyd drwy rwydweithiau mawr a chynghreiriau i greu effaith a newid systemig ar raddfa. Mae’n gofyn am ddulliau newydd ac arloesol sy’n ymgysylltu â rhwydweithiau eang o randdeiliaid amrywiol, gan wneud defnydd o’u galluoedd ategol i symud ymlaen tuag at nod a rennir. Mae’n gofyn am strategaethau sy’n dod i’r amlwg, sy’n addasol ac yn hyblyg, oherwydd mae systemau cymhleth bob amser yn newid.
Roedd yr hyn a brofwyd gennym yn ystod y pandemig yn golygu bod angen gwyro oddi wrth ddulliau hierarchaidd traddodiadol o weithredu newid a’n huchelgais yw distyllu’r pethau cadarnhaol o’r hyn a oedd yn wahanol. Drwy Sefydliad Calon y Ddraig, gallwn sicrhau bod cydweithio o’r fath ledled y system yn digwydd i fynd ar drywydd heriau ‘amhosibl’ eithriadol.
Cam allweddol ymlaen, wrth weithio gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, oedd adeiladu’r rhaglen arweinyddiaeth systemau newydd, Climb. Mae Climb yn adeiladu arweinwyr systemau o’r fath, gan ategu gwaith arwain arall yng Nghymru a’r DU ar yr un pryd. Wrth weithio gyda rhai o’r goreuon yng Nghymru ac o bob cwr o’r byd, nod Climb yw ysbrydoli ei gyfranogwyr, dysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau iddynt, a chreu’r rhwydweithiau iddynt ddod yn arweinwyr traws-system effeithiol. Mae’r Academi Lledaeniad a Graddfa, sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn dod â thimau at ei gilydd sydd â syniadau yn barod i’w lledaenu. Gallwn alinio’r syniadau hynny sy’n barod i’w lledaenu gydag arweinwyr o Climb, wrth iddynt feithrin a defnyddio rhwydweithiau traws-system, i ryddhau’r syniadau hynny yn llwyddiannus ledled Cymru.
Felly ble ydyn ni ar hyn o bryd? Wrth gwrs, rydym yn gweld rhwystredigaeth a darnio. Rydym hefyd yn gweld pobl wych mewn amgylchedd heriol, sydd â pholisi galluogi, ond yn aml yn brin o’r set lawn o sgiliau ac ymddygiadau i wneud newid. Rydym wedi gwneud pethau rhyfeddol o’r blaen ond mae’n tueddu i fod ar achlysuron ynysig ac rydym yn methu â meithrin y tyfiant unigol hwnnw yn gae cyfan o flodau. Weithiau rydym yn gwneud y peth cwbl anghywir ac yn torri coesyn y ‘pabi tal’ hwnnw yn lle hynny. Ein hymateb i’r rhwystredigaeth honno i’r darnio yw adeiladu llu o arweinwyr i wneud yr eithriadol yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Ond does dim llawer o amser! Bydd angen newid anghyffredin i ddod allan i ochr arall adferiad COVID-19, ac wynebu’r rhes o heriau ymddangosiadol ‘amhosibl’ sy’n weladwy o’n blaenau; newid yn yr hinsawdd yn bennaf.
Mae gen i’r darlun hwn yn fy meddwl. Mae fel adeiladu tân. Rwy’n gweld sawl ‘matsien’ ddrud uwch-dechnoleg yn cael eu goleuo ond does dim byd iddyn nhw losgi, felly maen nhw’n diffodd. Rwy’n gweld rhai matsis yn cael eu gosod yn erbyn tanwyr tân, ac mae yna gyffro wrth i’r tân neidio o’r fatsien i’r taniwr, a’r fflamau a’r mwg yn tyfu’n fwy, ond yna does dim byd arall i’w losgi ac mae’r tân yn diffodd yn siomedig. Mae yna adegau anghyffredin prin pan fydd y fatsien symlaf yn gallu cynnal taniwr sy’n mygu ac yna’n llosgi’n llachar, gan dyfu fflam fach y fatsien am eiliad, ond yna ychwanegir y tanwydd, ac mae’r tân yn cydio, ac mae yna gyfle wedyn i ychwanegu’r boncyffion mawr, a chadw digon o aer i gylchredeg.
Tanwydd: dyna beth rydyn ni’n ei greu. Yr arweinwyr fydd y tanwydd ar gyfer y syniadau a’r datblygiadau arloesol sy’n disgleirio’n llachar. Tanwydd ar gyfer y gwreichion llachar, a welwn ym mhobman yn ein system. Rwy’n credu bod newid yn dechrau pan fydd un, dau neu fwy o bobl yn penderfynu datrys problem, a dod o hyd i syniad disglair. Weithiau, rydym yn llwyddo i gyfuno’r gwreichion llachar ar draws ein system; mae angen y tanwyr arnom (y cyllid peilot efallai, y deoryddion syniadau, y cyllid cychwynnol) ond fel arfer mae’r tanwydd yn brin, a byddwn yn newid hynny.
Ni allwn danddatgan maint a chymhlethdod y dasg. Er mwyn mynd i’r afael â her systemig, rhaid i’r arweinwyr traws-seilo ddysgu gweithio gyda llawer mwy o randdeiliaid nag yr ydym fel arfer yn ei wneud. Bydd angen iddynt allu deall a gweithio gyda llunwyr polisi, darparwyr technoleg, cymdeithas sifil a sefydliadau ymchwil i ysgogi effaith ehangach gyda’r nod o gyflawni newid ar draws y system. Mae cydweithio ac adeiladu cynghreiriau o’r fath yn aml yn ddull newydd ac anghyfarwydd i’n harweinwyr gan nad yw hyfforddiant arweinyddiaeth presennol yn bodoli weithiau, a lle caiff ei ddarparu, weithiau caiff ei roi mewn seilo o fewn proffesiynau, sefydliadau a methodolegau.
Wrth i mi ddatblygu trwy fy ngyrfa fy hun, rwyf wedi dod yn argyhoeddedig mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw cydnabod a chefnogi ein harweinwyr. Dyna pam rwyf wedi canolbwyntio ar sefydlu’r rhaglen Climb. Yn ein Hacademi Lledaeniad a Graddfa lwyddiannus, yn ein rhaglen Enghreifftiol Bevan, ac mewn llawer o raglenni eraill mae gennym ein mannau llachar, ein fflam fach ddisglair gychwynnol. . Y 200 a mwy a ymgeisiodd am leoedd cyfyngedig ar Climb, a’r deg ar hugain o arweinwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer carfan 2021/22, yw ein tanwydd.
Credwn fod y gwir arloesedd, a’r newid rhyfeddol sydd ei angen arnom, yn digwydd pan ddaw gwahanol ddiwylliannau, syniadau a disgyblaethau at ei gilydd i danio atebion newydd a digynsail yn yr hyn y mae’r entrepreneur o Sweden, Frans Johansson, yn ei alw’n The Medici Effect, rhywbeth y byddaf yn ysgrifennu amdano ymhellach yn fy mlog nesaf.
Bydd arweinwyr Climb yn cael eu hysbrydoli a’u bywiogi gan yr hyn sy’n bosibl ledled y byd. Byddant yn dysgu am eu hunain, yn tyfu eu hunanymwybyddiaeth ac yn deall eu heffaith ar eraill. Byddant yn adeiladu’r wybodaeth a’r arferion y bydd eu hangen arnynt i lywio ein byd sy’n newid. Byddwn yn rhoi’r sgiliau iddynt i gysylltu ar draws ffiniau sefydliadol a sectorau a’u cefnogi i adeiladu rhwydweithiau amlgenedliadol cynhwysol, gyda chyfleoedd parhaus i gydweithio a datrys heriau cymdeithasol mawr. Yn ysbryd Climb, a’r cysylltiadau agos â Peter Hillary a Sefydliad Hillary, byddwn yn parhau i ddod â’r grŵp yn ôl at y dyfyniad ysbrydoledig hwn gan Syr Edmund Hillary:
“People do not decide to become extraordinary. They decide to accomplish extraordinary things”
Wrth i mi ysgrifennu, rwy’n ymwybodol o un her uniongyrchol sy’n wynebu ein harweinwyr. Ar ddiwedd mis Hydref, ymgymerodd pob un o’r deg ar hugain o arweinwyr â thri diwrnod cychwynnol o hyfforddiant ac ymsefydlu, gan gyfarfod am y tro cyntaf fel cymuned ac roeddent yn agored i beth o’r addysgu gorau ar arweinyddiaeth o bob cwr o’r byd. Roeddem i gyd yn teimlo’n frwdfrydig ac yn llawn egni, ac eto gwn, wrth i bob un o’n harweinwyr ddychwelyd i’w gweithle a dechrau rhannu eu profiad gyda chydweithwyr yng nghanol bywydau proffesiynol prysur, y bydd llawer o’r brwdfrydedd hwn yn diflannu. Bydd yn anodd newid yr arferion sy’n cynnal ‘busnes fel arfer’, hyd yn oed os ydym yn gwybod nad yw ein ffyrdd arferol o weithio bellach yn cynrychioli’r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd at ein gwaith. Felly, rwy’n amau mai’r her gyntaf y bydd ein harweinwyr yn ei hwynebu bydd ennyn eu brwdfrydedd ac addasu eu syniadau newydd i’w gweithle er gwaethaf pwysau trwm gwaith y rheng flaen.
Rydym i gyd wedi profi hyn ac wedi gweld potensial cyrsiau arweinyddiaeth rhagorol heb eu gwireddu dro ar ôl tro. Rydym yn arbrofi gyda nifer o ddulliau o ymdrin â’r her hon. Yn gyntaf, y meddylfryd; rydym wedi creu Climb i fod yn llawer mwy na chwrs; mae’n gymuned ac rydym yn gweld syniadau rhyfeddol, ac ymgysylltiad anhygoel ar draws y grŵp. Byddwn yn eu helpu i ffurfio grŵp unigryw gyda rhyngweithio gwefreiddiol lle maent yn cefnogi ei gilydd. Byddwn yn rhoi mynediad digynsail iddynt at arloeswyr sydd ar flaen y gad, gan eu cysylltu â phobl o’r un anian hyd yn oed y tu hwnt i’w grŵp. Byddwn yn parhau i rannu cyfleoedd i bwyso a mesur ein heriau cymdeithasol mwyaf ac yn parhau i’w herio a’u cefnogi gan arweinwyr o’r radd flaenaf. Anaml y bydd gan uwch arweinwyr ac arbenigwyr yr ystod i fentora’r rhai sy’n dilyn yn eu sgil ond wrth iddynt ymddeol o’r gweithlu, gellir anghofio eu gwerth. Byddwn yn bywiogi dysgu rhwng y cenedlaethau drwy baru cynrychiolwyr Climb gydag unigolion eithriadol sy’n dod ag oes o fomentau goleuedig.
Gan weithio yn Seland Newydd ac yna gweithio yn ystod y pandemig fe’m hatgoffwyd o bwysigrwydd perthyn, o fewnwelediad dwfn ac archwilio eich stori, sy’n eich galluogi i adnabod eich lle o fewn system a’r newid y gallwch ei ysgogi o ganlyniad. Yn ystod anhrefn tonnau cychwynnol y pandemig, gwelsom arweinwyr ar draws ein system yn camu ymlaen ac yn rhedeg tuag at y tân. Cyflawnodd cannoedd o unigolion a thimau bethau anhygoel yn wyneb yr her enfawr hon. Yn Climb, mae gennym le bellach, cymuned i ddod â nhw at ei gilydd, i roi fforwm iddynt wneud newid go iawn wrth i ni ystyried sut y dylai’r GIG edrych a gweithio o hyn ymlaen. Mae cymunedau, fel yr un yr ydym wedi’i ffurfioli fel Climb, yn elfen allweddol o’n system gymhleth ar gyfer y dyfodol.
Yn y bôn, mae Climb yn ymwneud â’r cyfuniad o 30 o arloeswyr a’r llawer mwy y byddwn yn ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd llai ffurfiol ond arwyddocaol, gobeithio, ar hyd y daith. Nid eu cyflawniadau unigol, methiannau, na’u safleoedd yn yr hierarchaeth draddodiadol. Yn lle hynny, mae’n rhwydwaith o arweinwyr, lle mae pŵer yn deillio o’r berthynas rhyngddynt ac ar draws y ffiniau ‘arferol’.
Fy uchelgais yw y bydd mwy a mwy o arweinwyr disglair yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod yn dod yn rhan o’r rhwydwaith anarferol hwn ac y byddwn yn ddewr gyda’n gilydd, yn cynnau fflamau yr hyn y gellir ei wneud.