Mae bwyd yn gysylltiedig â chroestoriad o lawer o faterion gwahanol, o newid yn yr hinsawdd ac iechyd planedol, i iechyd y cyhoedd a salwch sy’n ymwneud â deiet. Mae potensial enfawr felly i’n dewisiadau bwyd gael effaith bositif ar ein hamgylchedd yn ogystal ag ar ein hiechyd a’n costau gofal iechyd.

Er mwyn ceisio manteisio ar y potensial hwn, gwnaethom ddechrau taith Bwyd y Fro yn 2016. Mae Bwyd y Fro yn ymyrraeth iechyd y cyhoedd ar ffurf partneriaeth rhwng nifer o sefydliadau, dan arweiniad y Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Wedi’i sefydlu fel rhan o genhadaeth y Bwrdd Iechyd i “gadw pobl yn iach”, gwnaeth Bwyd y Fro fynd ati’n gyntaf i geisio deall dewisiadau bwyd ar draws y Fro.

Pam ydych chi’n bwyta’r hyn rydych chi’n ei fwyta? Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw yn seiliedig ar y dewisiadau bwyd a wnewch. Yn syml, mae’r term dewis bwyd yn cyfeirio at sut mae pobl yn penderfynu ar yr hyn maent am ei brynu a’i fwyta. Fodd bynnag, mae system gymhleth o ffactorau rhyngddibynnol sy’n effeithio ar y dewisiadau hyn sy’n amrywio’n sylweddol o berson i berson.

Gallent ddibynnu ar ddiwylliant, treftadaeth a magwraeth; gallent ddibynnu ar ffactorau megis gwybodaeth am alergenau, marchnata, neu o ble y daeth y bwyd. Yn aml, bydd dewisiadau bwyd hefyd yn dibynnu ar gost a nifer o ffactorau personol eraill fel arferion prynu, yr amser mae’n ei gymryd i’w baratoi, neu ein hwyl pan fyddwn yn ei brynu. Yn ogystal â materion mwy logistaidd megis pa fwyd sydd ar gael yn ffisegol yn lleol a’r offer a’r sgiliau a allai fod gennym i’w baratoi.

I ddatblygu set gadarn o ddata i’n helpu i ddeall arferion bwyta pobl ym Mro Morgannwg yn well, gwnaethom ddewis dull ymchwil arloesol yn seiliedig ar naratif gan ddefnyddio meddalwedd SenseMaker® i ymchwilio i natur gymhleth ein perthynas â bwyd, gan archwilio pwy sy’n achosi newid a sut i weithio gyda hwy.

Roedd hon yn ffordd gwbl newydd o weithio i ni, ac roedd defnyddio darn newydd o feddalwedd i gefnogi ein harferion ymchwil yn gyffrous iawn. Gan ddefnyddio’r feddalwedd, gallem gasglu straeon a phrofiadau pobl go iawn, a’u dadansoddi mewn ffordd a oedd yn cynhyrchu data ansoddol a meintiol, yn ogystal â rhoi cipolwg gwerthfawr ar ddewisiadau bwyd ein poblogaeth.

Roeddem yn ddiolchgar i gael cymorth cynnar gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol, a roddodd lawer o gryfder i’n menter, gan olygu bod y negeseuon craidd a oedd yn ymwneud ag iechyd a maeth yn seiliedig ar ddata cadarn, a thystiolaeth wyddonol. Serch hynny, roeddem yn deall hefyd, er mwyn sicrhau llwyddiant y fenter, ei bod yn bwysig gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

Gwnaethom gysylltu â chynrychiolwyr o’r sectorau hyn, gan gynnwys yr awdurdod lleol, darparwyr tai cymdeithasol, cymdeithasau mân-ddeiliaid a busnesau bwyd lleol – i ffurfio grŵp llywio Bwyd y Fro. Roedd hwn yn amser cyffrous i bartneriaeth Bwyd y Fro, gan fod gennym grŵp o unigolion ymroddedig i helpu i gyfeirio a hybu datblygiad menter Bwyd y Fro ym Mro Morgannwg.

Mae croesi’r ffiniau sefydliadol a sectoraidd hyn wedi bod yn werthfawr iawn. Yn aml, rydym ni yn y maes iechyd yn dueddol o weithio’n unigol neu mewn seilos, gan ysgwyddo’r baich o geisio newid y byd ar ein pennau ein hunain, ond gwnaethom gydnabod yn gynnar bod ein dylanwad ar y rhychwant o ddewisiadau bwyd yn llawer llai sylweddol i lawer o bobl na darpar bartneriaid yn yr awdurdod lleol a’r sectorau preifat.

Mae gweithio mewn partneriaeth â’r sector preifat yn aml yn rhywbeth na fydd llawer o staff sy’n gweithio ar brosiectau yn y GIG yn ei ystyried, ac nid oeddem ni’n wahanol yn hynny o beth. Roedd ysgrifennu atynt ar y cychwyn yn brofiad eithaf brawychus, oherwydd na wyddem sut y byddai busnesau’n ymateb i’n cynnig i weithio mewn partneriaeth, neu beth fyddai’n rhaid i ni ei gynnig iddynt o bosibl yn gyfnewid am hynny.

Fodd bynnag, nid oedd angen i ni boeni o gwbl oherwydd bod ein profiad gyda’n partneriaid yn y sector preifat wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae llawer o fusnesau a sefydliadau wedi bod yn awyddus i wneud newid cymdeithasol cadarnhaol, nid er elw, ond o safbwynt y cyswllt sydd ganddynt â’u cymunedau, a’u dyhead i roi rhywbeth yn ôl.

Avatar photo
Written by:
Louise Denham and Rhianon Urquhart