Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cyflawni Ysbyty Calon y Ddraig, ysbyty ymchwydd y GIG, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Partneriaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau HSJ eleni.

Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn ddathliad gwych o’r ymdrechion ar y cyd a arweiniodd at gyflawni Ysbyty Calon y Ddraig a sicrhau bod yr enghreifftiau gorau o weithio mewn partneriaeth yn cael eu cydnabod yn genedlaethol, y dysgir ohonynt ac y cânt eu huwchraddio lle bo’n bosibl.

Enillodd Ysbyty Calon y Ddraig Wobr Partneriaeth HSJ ar gyfer Ymateb Rhanbarthol i COVID-19 ym mis Mehefin 2021 ac roedd yn un o dros filoedd o gynigion ar gyfer y Gwobrau HSJ cyffredinol, sy’n cael eu cynnal ym mis Tachwedd.

Dywed Jonathan Gray, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella yn BIP Caerdydd a’r Fro a’r Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer Ysbyty Calon y Ddraig, “Rwy’n hynod falch o’r hyn y gwnaeth y tîm anhygoel hwn o bobl o gefndiroedd a sectorau gwahanol ei gyflawni gyda’i gilydd o dan y terfynau amser mwyaf llym, a bygythiad COVID-19 a oedd yn dod i’r amlwg yn ystod gwanwyn y llynedd.

“Cafodd yr hyn a ddysgwyd o’r partneriaethau a ffurfiodd tîm Ysbyty Calon y Ddraig ei olynu gan Sefydliad Calon y Ddraig, sydd wedi gweithio’n ddiflino ers ei sefydlu i feithrin cydberthnasau o’r fath ar draws sectorau a ffiniau sefydliadol. Mae’n rhywbeth i anelu ato yn ein hymarfer bob dydd wrth symud ymlaen.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish