Pe baech wedi gofyn i fi’r adeg hon y llynedd ble y credwn y byddwn i, dwi ddim yn siŵr y byddwn i wedi rhagweld bod yn yr adran Gwella ac Arloesi. Wedi dweud hynny, gallaf ddychmygu nad oedd y mwyafrif ohonom wedi rhagweld yr hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rwyf wedi bod yn ffodus i gael gyrfa arbennig yn y maes Meddygaeth Frys, gan ymgymryd â nifer o rolau gwahanol ar hyd y daith o Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) i Nyrs Arwain. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai o’r bobl fwyaf tosturiol, medrus a hyfryd. Dwi’n aml yn meddwl sut y gall ffawd, lwc neu gyfuniad o ddigwyddiadau ddylanwadu ar lwybrau ein bywyd; drwy ein gyrfaoedd, rydym oll yn dyheu, neu’n canfod modelau rôl sy’n ein llunio fel unigolion, a’r llwybr y byddwn yn ei ddilyn.

Nid oeddwn i byth yn rhywun a fyddai’n chwilio am ddyrchafiad. Dilynodd fy ngyrfa lwybr datblygiad naturiol a’m galluogodd i ddatblygu a dysgu sgiliau ac arddulliau newydd ym mhob un o’m rolau. Gan edrych yn ôl, rhaid i mi ddweud mai bod yn HCSW yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd oedd fy rôl fwyaf pleserus, oherwydd fe’m galluogodd i gael cyswllt gwerthfawr iawn â’r cleifion. Fy rôl ddiwethaf fel Nyrs Arwain oedd yr un fwyaf heriol yn sicr, ond yn ddigon rhyfedd, roedd yn bleserus iawn hefyd. Fodd bynnag, yn y rôl hon, dyma’r tro cyntaf y gwyddwn fod angen i fi osod amserlen i’m hun er mwyn cyflawni fy nodau, ac er mwyn gwneud newidiadau parhaus ar gyfer y cleifion, staff a’r uned, cyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Fy rhesymau dros osod cynllun gyrfa 3 blynedd a mynd yn erbyn fy ethos blaenorol, oedd fy mhrofiad o wylio cydweithwyr a ffrindiau yn aros mewn rolau am gyfnod rhy hir. Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn gwneud hyn yn fwriadol, yn hytrach, maent yn aros oherwydd nifer o resymau y byddem oll yn gyfarwydd â hwy: ymrwymiad, cyfleoedd, i enwi ond ychydig.

Fodd bynnag, gwyddwn fod rôl Nyrs Arwain yn un oedd â rhychwant oes, o ganlyniad i’r pwysau dan sylw. Roedd y rôl yn gofyn llawer: bod ar alwad 24/7 a’r ymdeimlad dwfn o fod yn gyfrifol am y cleifion, y tîm a’r uned. Mae’n rhyfedd pa mor gyflym y dewch yn gyfarwydd â’r norm newydd hwn ac rydych yn dueddol o normaleiddio’r pwysau sydd arnoch.

Wedi dweud hynny, teimlaf fod pawb ar bob lefel yn teimlo’r pwysau o ganlyniad i union natur y gwaith. Felly, wrth edrych yn ôl, byddwn fwy na thebyg yn cynghori’r holl staff i fod â chynllun ar gyfer hunanddatblygiad neu newid; gallech ddweud ei fod yn ffurf ar hunangadwraeth, a sicrhau bod eich lles yn cael y sylw pennaf.

Ym mis Chwefror eleni, cefais gyfle drwy adborth positif i ymuno â’r tîm Gwella ac Arloesi. Mae’n sicr nad oeddwn yn barod ar gyfer y newid, a dyma’r peth a berodd y syndod mwyaf i fi. Mae’n sicr nad oeddwn yn barod ar gyfer y newid, a dyma’r peth a berodd y syndod mwyaf i fi.

Mae swyddi gweithredol yn gyflym iawn, yn gofyn llawer ac yn peri llawer o straen. Ond pan fyddwch yn gwneud y gwaith, dwi ddim yn meddwl eich bod yn gwerthfawrogi cymaint o alw sydd arnoch, am mai dyma’n syml yw’r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae fel petai eich bod wedi’ch sefydliadu i’r galw, y strwythur a’r terfynau amser. Gallaf ond ei gymharu â bod mewn cyflwr dwys y rhan fwyaf o’r amser, yn wynebu’r digwyddiadau mwyaf difrifol. Mae fel petai’n rhoi’r egni i chi wneud yr un peth dydd ar ôl dydd.

Er ei fod yn rhyddhad i gael y cyfle i ailgyfeirio a rhoi cynnig ar swydd wahanol ar gyflymder gwahanol, roedd y newid yn anoddach na’r hyn a ddychmygais. Mae pawb wedi dweud wrthyf y byddaf yn addasu, ond misoedd diwethaf dwi’n dal i’w chael yn heriol derbyn y norm newydd. Mae’n fraint cael yr amser i feddwl, myfyrio a dylanwadu, ac mae’n gyfle rwy’n bwriadu manteisio arno er mwyn gwneud gwahaniaeth ble y gallaf.

Wedi dweud hynny, teimlaf fod yn rhaid i fi fod yn ofalus wrth esbonio rhai o’r anawsterau wrth newid o rôl mor weithredol i swydd fwy corfforaethol, rhag ofn y bydd unrhyw un sy’n darllen hwn yn mynd yn flin ac yn dweud wrthyf am roi’r gorau i gwyno. Mae’n rhaid i fi egluro mai’r heriau hyn yw fy heriau personol i, ac efallai na fyddai pobl eraill sy’n mentro ar yr un newid yn teimlo’r un peth.

Fy mhroblem fwyaf yw’r hyn y byddwn yn ei alw’n deimlad o euogrwydd. Wrth i mi addasu i’r hyn sydd, wrth edrych yn ôl, yn rôl fwy ‘normal’, rwy’n ymwybodol iawn o’r straen a’r pwysau sy’n wynebu fy nghydweithwyr sy’n parhau i fod yn yr uned. Rwy’n ffodus iawn i gael pobl o’m cwmpas sy’n gallu fy hyfforddi ar sut i addasu. Maent yn parhau i’m sicrhau ei fod yn gwbl normal teimlo ychydig yn ansicr, yn niffyg gwell ymadrodd. Maent yn parhau i’m sicrhau ei fod yn gwbl normal teimlo ychydig yn ansicr, yn niffyg gwell ymadrodd. Ond ni allaf reoli’r amheuon mewnol hyn sy’n parhau i’m corddi, ac efallai mai’r ateb yw ceisio rhyddhau’r cyswllt agos sydd gennyf â’r hyn sydd wedi bod mor gyfarwydd i mi am gyhyd.

Rwy’n dysgu gweithio yn fwy annibynnol ond mae’n cymryd amser i ddod yn gyfarwydd â hyn. Ar yr Uned Achosion Brys, er nad oeddwn bob amser yn gwybod pa heriau fyddai’n ein hwynebu, roedd trefn strwythuredig iawn ar gyfer delio â hwy bob dydd, os nad bob awr; mae’n debyg i geisio dileu’r hyn rydym wedi dod yn gyfarwydd ag ef ers dros 30 mlynedd, ac mae’n fwy heriol nag y byddech yn ei ddychmygu.

Rwy’n hapusach nawr nag yr wyf erioed wedi bod, ac mae’r newid yn rhywbeth y gwyddwn fod ei angen arnaf, yn bersonol ac yn broffesiynol. Er fy mod wedi amlygu rhai o’r problemau personol a oedd yn heriol iawn i mi, mae’r manteision yn drech o lawer na’r anfanteision. Mae’r tîm, fel pob tîm yr wyf wedi gweithio ag ef, yn anhygoel ac mor gefnogol. Mae gwaith tîm yn bwysig tu hwnt; ni allwn wneud newidiadau mewn seilos, ac mae’n rhaid i ni fod yn ddewr a herio nid yn unig ein hunain, ond y rhai o’m cwmpas hefyd. Mae bod yn rhan o’r Tîm Gwella ac Arloesi wedi rhoi’r cyfle i fi archwilio llwybrau gwaith gwahanol, ac ehangu fy ngwybodaeth broffesiynol a’m sgiliau.

Yn y ffordd newydd hon o weithio, rwyf wedi cael ychydig o fisoedd prysur tu hwnt ers i fi ddechrau. Hyd yma, rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn rhan o’r gwaith o sefydlu Canolfan Brechu Torfol y Bae, ac rwy’n dal i gyfrannu’n helaeth at gefnogi’r tîm ym mha bynnag ffordd a allaf er mwyn gwella profiad cleifion a staff. Mae hyn wedi bod yn arbennig o werth chweil, ac rwyf wedi manteisio ar y cyfle i chwarae rhan ragweithiol iawn yn y frwydr yn erbyn COVID.

Rwyf hefyd yn arwain ar y rhaglen 14,000 o Leisiau ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant, Rachel Gidman. Mae hwn yn gyfle mor gyffrous, ac ar ôl darllen am yr ysbrydoliaeth dros yr ymgyrch hon yn Ysbyty Tan Tock Seng yn Singapore, a’r effaith a gafodd, ni allaf aros i ymgymryd â’r dasg, cyfarfod â’m cydweithwyr ar draws y system a chlywed eu syniadau anhygoel ynghylch sut i wneud pethau’n well i gleifion.

Bydd llawer o’r gwaith ar y rhaglen hon yn bwysig i’r Arddangosfa (Showcase), sef darn arall o waith rwy’n ei gefnogi. Bwriedir cynnal yr Arddangosfa ym mis Medi eleni, ac mae’n gyfle arall sy’n gyffrous iawn. Mae’n rhywbeth y mae’r BIP wedi’i ddatblygu o’r hyn a ddysgwyd oddi wrth Fwrdd Iechyd Canterbury yn Seland Newydd. Credaf y bydd yn cyfrannu’n sylweddol at wneud newidiadau positif enfawr i ddiwylliant ein sefydliad a sut rydym yn mynd i’r afael â phethau wrth i ni edrych at adfer yn dilyn y pandemig COVID-19, a sicrhau bod ein gwasanaethau y gorau y gallant fod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth i fi fagu hyder, byddaf yn parhau i archwilio pa gyfleoedd gwahanol sydd ar gael fel y gallaf gynnig fy sgiliau a’m harbenigedd i wella’r gwasanaethau a ddarperir gan y BIP. Mae cymaint o botensial i ddatblygu ffyrdd arloesol o weithio a hybu newid go iawn ym mhob adran a chyfarwyddiaeth ar draws y sefydliad hwn; gwn y bydd gan bob un o’m cydweithwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen syniadau ynghylch sut y gallant wella pethau, ac rwyf am iddynt wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain wrth geisio gwneud y newidiadau a fydd o fudd i’w cleifion, er, yn ystod eu dyddiau tywyllaf, gall deimlo felly weithiau.

Mae gennyf gyswllt dwfn â’r Uned Achosion Brys o hyd a drws blaen Ysbyty Athrofaol Cymru, a’m hen dîm y tu mewn. Yn fy swydd newydd, credaf fy mod mewn sefyllfa unigryw, gan wybod sut deimlad yw gweithio o dan gymaint o bwysau bob dydd, i fod yn gyswllt rhwng y timau gwella, corfforaethol a gweithredol.

Rwyf bob amser wedi bod yn llawn egni yn dod i’r gwaith, ond bydd y rôl yn fy ngalluogi i gyfeirio’r egni hwnnw yn wahanol, a gobeithio, edrych ar sut y gallaf ymgysylltu â staff a’u grymuso yn yr un ffordd.

Avatar photo
Written by:
Wayne Parsons