Rachel Gidman yw Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Roedd effaith COVID-19 ar y system iechyd a gofal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn aruthrol: cafodd ein gwasanaethau, ein prosesau ac, yn holl bwysig, ein pobl, oll eu newid mewn rhyw ffordd o ganlyniad i’r pandemig.
Er y llwyddodd llawer o’n pobl i addasu, arloesi ac wynebu’r heriau a gyflwynwyd iddynt, ni ellir gorbwysleisio’r straen corfforol ac emosiynol a oedd yn gysylltiedig â gwneud hynny, yn ogystal â pha mor anodd oedd parhau i wneud eu gwaith o dan amodau digynsail o’r fath. Wrth i’r broses o gyflwyno’r brechlyn barhau i roi gobaith i ni ar gyfer y dyfodol, ac wrth i ni edrych ar ein cynlluniau ar gyfer adfer fel sefydliad, gallwn ystyried beth yw ein nodau hirdymor ar gyfer iechyd a lles pobl Caerdydd a’r Fro, a sut rydym yn mynd i’w cyflawni gyda gwasanaethau newydd, cyffrous mewn byd ar ôl y pandemig.
Mae dyfyniad a ddefnyddir yn aml gan yr awdur a’r ymgynghorydd rheoli, Peter Drucker, sy’n dweud “mae diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast.” Yn bersonol, dwi ddim yn siŵr a yw un yn drech na’r llall. Yn hytrach, credaf fod alinio diwylliant sefydliad gyda’i strategaeth yn allweddol. Mae strategaeth lle mae diwylliant iach, bywiog, cynhwysol a thosturiol yn rhan allweddol ohoni yn fwy tebygol o lwyddo na strategaeth lle caiff diwylliant ei anwybyddu yn y gobaith y bydd yn dilyn yr un drefn. Mewn sefydliad sy’n cynnwys dros 14,000 o aelodau o staff, mae hon yn ystyriaeth hynod bwysig. Os mai pen y mynydd yw ein nodau strategol, ein strategaeth yw’r llwybr a ddilynwn, a’n diwylliant yw’r dyhead i gyrraedd y brig, y gred y gallwn ei wneud, ein gallu i gefnogi ein gilydd ar hyd y daith, a dyna fydd yn pennu ein llwyddiant yn y pen draw.
Nawr, wrth i ni i gyd gymryd anadl ddofn gyda’n gilydd yn barod i blymio i ddyfodol ein sefydliad, cawn gyfle unigryw i ailosod ein system, gan feddwl yn wirioneddol am y gwerthoedd craidd a fydd yn sail iddi, a meithrin diwylliant sefydliadol newydd o amgylch hynny. Byddwn yn pwysleisio y dylem adeiladu system iechyd a gofal newydd o amgylch ein hased pwysicaf. Nid ein hystad, na’r offer a ddefnyddiwn, ond ein pobl. Y miloedd o bobl sy’n dod i’r gwaith bob dydd gyda’r dyhead i helpu a gofalu am ein cleifion, sy’n gwneud y gorau ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn, ac sy’n gwella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, ym mha bynnag ffordd a allant.
Roedd lles ein staff yn fater hynod bwysig cyn COVID-19 o ganlyniad i nifer y staff a oedd yn adrodd eu bod yn teimlo’n sâl o ganlyniad i straen yn gysylltiedig â’r gwaith (yn ôl Arolwg Staff Cymru Gyfan GIG Cymru 2018) hyd yn oed cyn i’r pandemig daro yng Nghymru yn ystod gwanwyn 2020. Yn BIP Caerdydd a’r Fro, rydym bob amser wedi ceisio buddsoddi yn iechyd a lles ein staff, a gallwn edrych yn ôl â balchder ar y safonau iechyd corfforaethol Aur a Phlatinwm a gyflawnwyd gennym a’r mentrau a gyfrannodd tuag atynt.
Fodd bynnag, mae’r pandemig COVID-19 wedi ein harwain i ganolbwyntio o’r newydd ar bwysigrwydd hanfodol lles staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno rhai ymyriadau lles ar gyfer staff dros yr 16 mis diwethaf, gan gynnwys hafanau i staff (gyda chymorth ein Helusen Iechyd), buddsoddi yn y tîm iechyd galwedigaethol a’r Gwasanaeth Lles Gweithwyr, a datblygu coleg Adfer Caerdydd a’r Fro.
Fodd bynnag, gallwn ni wneud mwy. Mewn gwirionedd, er mwyn i ni lwyddo i greu diwylliant lle gall ein strategaeth ffynnu, mae’n rhaid i ni wneud mwy. . Un o’r cwynion mwyaf cyffredin ynghylch y Bwrdd Iechyd fel lle i weithio yw ei strwythur hierarchaidd, bod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar liw eich gwisg neu eich band cyflog, a bod newid yn cael ei lywio o’r brig i lawr, a bod y syniadau a gynhyrchir ar y rheng flaen yn cael eu hanwybyddu, eu rhwystro neu nad oes modd eu cyflawni o ganlyniad i rwystrau eraill a seilos sefydliadol. Mae angen i arweinwyr a rheolwyr llinell sylweddoli’r effaith y gallant ei chael ar iechyd meddwl a lles eu staff a’u cydweithwyr, a chymryd cyfrifoldeb personol drosto, gan newid eu dulliau arwain fel y bo’n briodol i gael y mwyaf o’u staff. Gall arweinydd cynhwysol a thosturiol hybu neu hyd yn oed gwella lles ei staff, ond rhaid iddo reoli ei hunanfalchder a mynd i’r afael â’i ragfarn ddiarwybod er mwyn gwneud hynny.
Fel rheolwyr, rhaid i ni fabwysiadu egwyddorion tosturi a chynhwysiant yn ein dulliau arwain; credaf y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar les ein staff ac yn cyfrannu’n fawr at ein nod i drawsnewid ein gwasanaethau. Mae arwain gyda dealltwriaeth a dilysrwydd a chroesawu gwahaniaeth a safbwyntiau amrywiol, yn enwedig ymhlith eich staff, yn hanfodol er mwyn llwyddo yn yr ymdrech hon.
Yn y ffordd hon, gallwn feithrin ymddiriedaeth rhwng ein staff, ystyried pob safbwynt (yn enwedig y rhai sy’n wahanol i’n rhai ni), addasu i sefyllfaoedd anodd, dod â staff gyda ni ar y daith, ac – yn holl bwysig – manteisio ar dalent ein staff a’i hybu i’r eithaf.
Drwy roi llais i bawb a galluogi staff i gyfrannu, a bod yn nhw eu hunain yn y gwaith, gallwn eu grymuso i berfformio ar eu gorau, i ymfalchïo yn y gwaith a wnânt ac i osgoi problemau fel gorbryder, straen a blinder sy’n gysylltiedig â’r gwaith.
Yr hyn sy’n allweddol i fi yw y dylem fod yn creu’r gwagleoedd hynny ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i’r staff allu dod o hyd i’w llais; dylem fod yn gweithio’n galed i hybu ein gilydd, waeth beth fo’n swydd, band, gwisg, neu unrhyw nodwedd arall. Gwn na fyddwn yn gallu cyflawni hyn dros nos, ac y bydd rhai rhagfarnau a fydd yn anodd eu newid o fewn y system. Fodd bynnag, y cam cyntaf yw ein bod ni’n barod i roi cynnig arni. Fodd bynnag, y cam cyntaf yw ein bod ni’n barod i roi cynnig arni.
Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymgymryd â’r her hon yn fy swydd newydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant yn BIP Caerdydd a’r Fro. Mae nifer o fentrau ar y gweill fel cyrsiau arwain newydd, y rhaglen 14,000 o Leisiau, a gwaith Sefydliad Calon y Ddraig yr wyf yn edrych ymlaen yn eiddgar at fod yn rhan ohonynt, sy’n gwneud hwn yn amser cyffrous a phrysur iawn i’r Bwrdd Iechyd.
Rwy’n sylweddoli y gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser i ganolbwyntio ar yr agweddau hyn ar ein rolau pan rydym yn parhau i wynebu pwysau gweithredol o’r fath, ond gwn y bydd yr hadau y byddwn yn eu hau yn awr yn diffinio sut fydd ein system iechyd yn gweithredu yn y dyfodol. Gobeithiaf weithio a chydweithredu gyda chi i gyd ar y materion hyn yn y dyfodol agos, gan ddechrau gyda’r rhaglen 14,000 o Leisiau, y gallwch gofrestru ar ei chyfer yn awr.