Mae’n bleser gennym gyhoeddi, yn dilyn nifer o benderfyniadau anodd, bod tîm Climb Cymru wedi dewis 30 o bobl i fod yn arloeswyr rhaglen Climb Cymru yn ei blwyddyn gychwynnol.
Gwnaeth dros 400 o bobl lawrlwytho’r pecynnau cais, a chyflwynodd 150 ohonynt gais. Cafodd y bobl hyn eu rhoi ar y rhestr fer gan y tîm a chafodd 80 o bobl eu gwahodd i fynychu diwrnod asesu.
Gwnaeth Climb Cymru ddenu ymgeiswyr o bob cwr o Gymru i’r cyfle cyffrous hwn, a chynhaliwyd pum diwrnod asesu dros y wlad yn Llandudno, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Fel rhan o’r broses ddethol arloesol a newydd, gwnaeth yr ymgeiswyr gyflwyno fideos am eu hunain, yn hytrach na’r ffurflen gais gonfensiynol, cyn cymryd rhan mewn diwrnod asesu a oedd yn cynnwys ystafell ddianc a gweithgareddau asesu eraill mewn timau a ffurfiwyd o’r newydd.
Nid oedd gan dîm Cymru lawer o ddiddordeb yng nghefndir proffesiynol yr ymgeiswyr na’u blynyddoedd o brofiad, ond yn hytrach, roeddent am ganolbwyntio ar sut roeddent yn rhyngweithio â’i gilydd, eu hymagwedd at arloesi, syniadau newydd a heriau, a sut y gallent gyfrannu at greu carfan fywiog, amrywiol a chwilfrydig ar gyfer y rhaglen.
Nododd y sawl a fynychodd y diwrnodau asesu eu bod wedi cael profiad gwerthfawr a phleserus iawn, gan ddweud[It was a] “Roedd yn ddiwrnod a drefnwyd yn arbennig o dda, a chafwyd cyflwyniadau diddorol gan yr arholwyr a phawb dan sylw,” a “Roedd hwn yn syniad gwych yn fy marn i. Rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun yn barod. Hyd yn oed os nad wyf yn llwyddiannus, mae’r diwrnod asesu wedi bod yn ymarfer dysgu hynod werthfawr.”
Roedd y mynychwyr hefyd yn gadarnhaol iawn ynghylch natur gynhwysol Climb Wales, gan ddweud, “Rwy’n hoffi’r ffaith bod staff ar bob lefel wedi cael cyfle i gymryd rhan.”
Dywedodd Jonathan Gray, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac arweinydd Sefydliad Calon y Ddraig, “Rwy’n teimlo mor ffodus ein bod wedi gallu cyflwyno’r rhaglen hon drwy Sefydliad Calon y Ddraig fel rhan o Academïau Dysgu Dwys Cymru Gyfan. Bydd Climb Cymru yn ein galluogi i ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol o arweinwyr gwych a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ledaenu dulliau arloesi ac arfer gorau, y gallwn alw arnynt pan fydd argyfwng arall fel COVID-19 yn codi.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o drefnu a hyrwyddo’r rhaglen hyd yma, Ultimate Escape yn Llandudno, The Escape Game yng Nghaerfyrddin ac Exitus yng Nghaerdydd am ein cynnal ni, ac wrth gwrs i bawb a gyflwynodd gais. Rydym yn ymrwymedig i gynnig cyfleoedd gwahanol i bawb sydd wedi mynegi diddordeb yn Climb Cymru, felly disgwyliwch glywed gennym yn y dyfodol agos.”
Mae Climb Cymru yn dechrau gyda digwyddiad preswyl aml-ddydd ar ddiwedd mis Hydref 2021.