Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ar gyfer ei 9fed digwyddiad, i greu arloesedd newydd i ddatrys heriau sy’n wynebu cydweithwyr ar draws gofal iechyd, y byd academaidd a diwydiant.
Mae Hac Iechyd Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, proses, arferion, dulliau a thechnolegau gofal iechyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion a diwydiant gydweithredu a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol a gynigir gan glinigwyr go iawn a gweithwyr iechyd yng Nghymru.
Bydd 9fed Hac Iechyd Cymru yn digwydd ar-lein, gyda gosod heriau ar yr 16eg o Chwefror a pitsio atebion ar y 1af o Fawrth.
Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut i symud atebion arfaethedig ymlaen, ynghyd â chael cyfle i sicrhau hyd at £20,000 fesul prosiect arloesi, o bot Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.
Oes gennych chi neu’ch tîm sialens iechyd a gofal sydd angen datrysiad arloesol? Os felly, medrwch ymuno gyda Hac Iechyd Cymru drwy cyflwyno’ch sialens yma:
Unwaith mae’r sialens wedi ei gymeradwyo a’i gyhoeddi (proses a all gymryd fyny at 5 diwrnod, felly diolch ymlaen llaw am fod yn amyneddgar), bydd cydweithwyr o iechyd, diwydiant ac adcademia yn cael y cyfle i’w weld ar y platfform, ac yn medru cychwyn trafodaeth hefo chi. . Mae’r digwyddiad yma wir am cydweithio, ac rydym yn eich annog i wneud y mwyaf o hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r her yw dydd Gwener 11eg Chwefror.