Mae’r prosiect hyfforddiant technoleg efelychu ar gyfer gofal traceostomi yn gwneud cynnydd rhagorol, a dyfarnwyd contractau yng Ngham 1 o’r her i bedwar cwmni.
Lansiwyd yr her yn gynharach elenigan Sefydliad Calon y Ddraig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Cymru (SBRI) a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
[lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”false”]Yn y cyntaf o’r tri cham, roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ymarferoldeb syniadau a gyflwynwyd gan sefydliadau mewn ymateb i’r her a gyflwynwyd, sef gwella’r ffordd y caiff hyfforddiant clinigol ei ddarparu yn rhithwyr yng ngoleuni’r pandemig COVID-19.
Y pedwar cwmni y dyfarnwyd contractau iddynt yn ystod cam 1 yw Rescape Innovation Limited, Nudge Reality Limited, Tru Corp Limited, ac Aspire2Be. Yn ddiweddar, gwnaeth y pedwar cwmni gyflwyno mewn cyfarfod bwrdd prosiect ar eu cynnydd cyn diwedd cam un ar 6ed Awst.
[/lgc_column]
Bydd y pedwar cwmni hwn yn gymwys i wneud cais am gyllid pellach ar gyfer Cam 2 sy’n dechrau ar 11 Awst, er mwyn datblygu eu datrysiadau cyn eu profi fel rhan o gam 3 mewn amgylchiadau gweithredu go iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Paul Twose, Therapydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr her, “Rwyf wrth fy modd â’r cynnydd a wnaed gan y cwmnïau sy’n cymryd rhan yng ngham un o’r her hyd yma. Roedd yn ddiddorol gweld y datrysiadau a gynigiwyd ganddynt yn ddiweddar, ac ni allaf aros i weld sut mae’r her yn datblygu ac i weithio gyda nhw ar eu datrysiadau mewn sefyllfaoedd go iawn yn y dyfodol agos. Gallwn weld eisoes y manteision sylweddol sy’n deillio o’r dull hwn o weithio rhwng y GIG a diwydiant, a hoffwn ddiolch i’r timau yng Nghanolfan Ragoriaeth SBRI, Sefydliad Calon y Ddraig, a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd am gefnogi’r her hyd yma.”
Dywedodd Gareth Browning, Rheolwr Cyllid Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, “Mae arloesi wedi’i arwain gan her yn ehangu’r ffiniau confensiynol o ran y ffordd y mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau. Drwy’r cam datblygu carlam a’r egni cadarnhaol ac ymrwymiad gan yr holl randdeiliaid dan sylw, mae pob un o’r cynigion a ddewiswyd i fynd i’r cam nesaf yn dangos addewid rhagorol. Gobeithio y bydd llwyddiant y fenter hon yn arwain at ei mabwysiadu’n gynnar, nid dim ond yn BIP Caerdydd a’r Fro ond ar draws y GIG yn ehangach hefyd. Mae hefyd yn galonogol iawn gweld ein busnesau lleol yn cystadlu ar lwyfan cenedlaethol i ennill contractau cystadleuol. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y Gronfa Her yn y dyfodol.”
Dywedodd Lynda Jones, Rheolwr Canolfan ar gyfer Canolfan Ragoriaeth SBRI, “Mae wedi bod yn bleser rheoli’r prosiect Hyfforddiant Technoleg Efelychu a darparu cymorth i Sefydliad Calon y Ddraig; mae’r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cymryd rhan lawn yn y broses SBRI. Edrychwn ymlaen at ein perthynas barhaus ac rydym yn llawn cyffro i weld sut fydd y datrysiadau’n datblygu.”