Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 Chwefror 2022

A oes gennych syniad a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lwybrau gofal wedi’i gynllunio, neu a allai helpu lleihau neu leddfu’r galw am wasanaethau gofal wedi’i gynllunio yn sgil pandemig Covid-19?

Mae’r Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio yn cyflwyno cyfle cyffrous i ysgogi newid ar draws sbectrwm y gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yng Nghymru, gan ddarparu cyllid a chefnogaeth i drawsnewid syniadau newydd yn fodelau darbodus, cynaliadwy o ofal wedi’i gynllunio.

Gwahoddir ceisiadau ar draws themâu eang atgyfeirio, arweiniad, triniaeth, gwaith dilynol ac wrth fesur y galw a’r canlyniadau. Mae’n agored i’r rheini sy’n gweithio ym maes darparu a rheoli gwasanaethau gofal wedi’u cynllunio yng Nghymru – gan gynnwys o ofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, a chan sefydliadau cymunedol, gofal cymdeithasol a thrydydd sector.

Mae’r Rhaglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio yn cymhwyso model arloesol Prosiectau Enghreifftiol Bevan i’r angen hanfodol i drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yng Nghymru. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a’i harwain gan Gomisiwn Bevan.

Am arweiniad a manylion Sesiynau Gwybodaeth sydd ar y gweill, ewch i www.bevancommission.org/plannedcare-cym

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish