Yn dilyn academi lwyddiannus dros dri diwrnod ym mis Mawrth, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd yr Academi Lledaeniad a Graddfa yn dychwelyd ym mis Hydref 2021.
[lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”false”]Dyma fydd y drydedd Academi Lledaeniad a Graddfa i gael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Sefydliad Calon y Ddraig mewn partneriaeth â’r Billions Institute, sefydliad sydd wedi’i leoli yn Los Angeles, sy’n arbenigo mewn cefnogi arloeswyr i ddatgelu eu potensial a gwneud newid ystyrlon ar raddfa fawr.Am y tro cyntaf, bydd Academi Hydref 2021 yn agored i geisiadau gan dimau mewn diwydiant preifat Anogir mentrau bach a chanolig sy’n canolbwyntio’n benodol ar iechyd, arloesedd iechyd, a chyfiawnder cymdeithasol i wneud cais. Rydym hefyd yn gwahodd ceisiadau gan dimau sy’n cynnwys cymysgedd o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat, yn enwedig o sectorau traws-sector sydd wedi cydweithio ar wasanaeth arloesol neu ddarn o dechnoleg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae lleoedd ar yr Academi 3 diwrnod yn costio £1,500 + TAW fesul person ond bydd ffioedd cwrs y rhai hynny sy’n gweithio i GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[/lgc_column] [lgc_column grid=”50″ tablet_grid=”50″ mobile_grid=”100″ last=”true”]

Cynhaliwyd yr Academi Lledaeniad a Graddfa gyntaf yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd yng Nghaerdydd yn 2019 ac fe’i disgrifiwyd gan gynrychiolwyr fel “y peth gorau dwi wedi’i fynychu yn ystod fy ngyrfa o bell” ac “un o’r cyrsiau mwyaf gwerthfawr dwi wedi’i fynychu erioed.”
Yn dilyn eu presenoldeb yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa yn 2019, cyflymodd y tîm traceostomi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ledaeniad eu prosiect ar draws Cymru gan arwain at lansio Cronfa Her gwerth oddeutu £400,000 gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chanolfan Ragoriaeth SBRI ar gyfer rhaglen hyfforddiant traceostomi newydd i staff.
Mae Paul Twose, Therapydd Ymgynghorol a’r arweinydd clinigol ar gyfer y Gronfa Her, yn priodoli momentwm diweddar ei dîm i’r hyn y gwnaethant ei ddysgu wrth gymryd rhan yn yr academia dywed, “Cyn yr Academi Lledaeniad a Graddfa, nid oeddem wedi sefydlu ein dynameg fewnol; rhoddodd ddealltwriaeth well i ni o beth yn union roeddem yn ceisio ei gyflawni gyda’n prosiect. Daethom allan o’r academi gyda chynllun 90 diwrnod clir a syniad o’r hyn ddylai pob aelod o’n tîm fod yn ei wneud i’w gyflawni. O ran ble rydym wedi cyrraedd nawr, mae’n glir bod effaith yr Academi Lledaeniad a Graddfa wedi bod yn enfawr. Heb yr academi, byddai wedi cymryd gyrfa gyfan i gyrraedd y man hwn, ond yn hytrach, mae wedi cymryd dwy flynedd.”
Ym mis Mawrth 2021, bu’n rhaid newid i blatfform digidol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Fodd bynnag, cafodd yr academi rithwir yr un croeso cynnes gan gynrychiolwyr. Yn ôl adborth o’r sesiwn rithwir, “Roedd y lefel o gynllunio a threfnu a oedd yn rhan o’r cwrs yn gwbl amlwg. Roedd yn teimlo fel profiad hynod werthfawr ac ni wastraffwyd eiliad; roedd yr adnoddau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo gwybodaeth megis y bwrdd gwyn rhyngweithiol a wordlesmor effeithiol a diddorol. Roeddwn i’n teimlo’n hynod ffodus o fod wedi cael y cyfle i fynychu’r cwrs hwn.”
Dywedodd Ruth Jordan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwella, Gweithredu a Lledaeniad yn BIP Caerdydd a’r Fro, “Rwyf wrth fy modd ein bod yn cynnal Academi Lledaeniad a Graddfa arall yn ystod yr hydref hwn. Mae’r ddwy academi rydym wedi’u cynnal yn flaenorol wedi cael cynrychiolaeth wych ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru, ac mae’r timau a fynychodd wedi mynd ati i gyflawni pethau rhagorol.
“Gan fod yr Academi Lledaeniad a Graddfa bellach yn rhan o Sefydliad newydd Calon y Ddraig, gobeithiaf y bydd yn mynd o nerth i nerth, ac yn ein galluogi i fanteisio ar y gwersi a ddysgwyd a’r partneriaethau a ffurfiwyd drwy gydol yr ymateb i COVID-19, er mwyn sicrhau bod gan arloeswyr yn y system y platfform gorau posibl i ledaenu eu prosiectau.”
Dywedodd Becky Margiotta, Cyd-sylfaenydd Billions Institute a hyfforddwr sylfaenol ar gyfer yr Academi Lledaeniad a Graddfa, Rydym wedi ein synnu gan lwyddiannau’r garfan gyntaf a ddaeth i’r Academi Lledaeniad a Graddfa ym mis Medi 2019 ac ni allwn aros i gefnogi carfanau pellach i ddysgu a rhoi ein Model for Unleashing ar waith gyda’u datblygiadau newydd eu hunain sy’n barod i’w hehangu. Rydym yn ei ystyried yn fater o gyfiawnder ein bod ni’n helpu i gymryd yr hyn sy’n gweithio a sicrhau ei fod yn cyrraedd pawb a allai gael budd ohono. Mae’n anrhydedd creu partneriaeth â BIP Caerdydd a’r Fro i ddarparu’r profiad dysgu trawsnewidiol hwn.”
Rydym yn rhagweld y bydd hi’n bosibl cynnal yr Academi Lledaeniad a Graddfa wyneb yn wyneb unwaith yn rhagor yng Nghaerdydd ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm Billions Institute yn ôl i Gymru. Os bydd sefyllfa COVID-19 yn gwaethygu, byddwn yn cynnal yr Academi ar-lein ac yn hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus ymlaen llaw.
Os ydych chi’n barod i ddatgelu eich syniadau neu brosiect, cyflwynwch gais i’r Academi Lledaeniad a Graddfa yr hydref hwn yma.
Fel arall, os oes gennych gwestiynau pellach am yr Academi Lledaeniad a Graddfa, a’r broses ymgeisio, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio: Spreadandscale@wales.nhs.uk