Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ochr yn ochr â’n partneriaid, Archus, Mott MacDonald, Q5, Hoare Lea, BDP, Undeb Rygbi Cymru a llu o rai eraill, wedi derbyn Gwobr Partneriaeth yr Health Service Journal (HSJ), yn y categori ymateb COVID rhanbarthol, ar gyfer adeiladu a gweithredu Ysbyty Calon y Ddraig.

 

Gwnaeth y tîm a oedd yn cynrychioli partneriaeth Ysbyty Calon y Ddraig wynebu cystadleuaeth gadarn iawn yn eu categori gan ystod o bartneriaethau eraill, y maent oll wedi darparu ymyriadau sydd wedi achub a newid bywydau, yn ystod y pandemig COVID-19. Mae bod ar y rhestr fer yn y rownd derfynol ar gyfer y gwobrau hyn, er gwaetha’r gystadleuaeth anodd gan gasgliad o ymgeiswyr gwych, yn gyrhaeddiad anhygoel ar gyfer Archus, Mott Macdonald a phartneriaid sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 

Fodd bynnag, o ganlyniad i raddfa ddigynsail yr her a chryfder y bartneriaeth a wnaeth ymateb i’r her honno, llwyddodd Ysbyty Calon y Ddraig i gipio’r wobr gyntaf mewn seremoni yn Llundain neithiwr (29 Mehefin 2021) lle dilynwyd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

 

Gwnaeth yr holl bartneriaid symud yn gyflym i ddarparu’r ysbyty dros dro newydd sbon â 1500-2000 o welyau a’r isadeiledd cefnogol yn y Stadiwm Principality, o fewn pedair wythnos yn unig – heb amharu ar ansawdd y gofal, diogelwch cleifion nac ansawdd yr amgylchedd. Gwnaeth ffordd newydd o weithio oresgyn yr holl ffiniau sefydliadol, gydag ethos “gyda’n gilydd yn gryfach”, i ddarparu’r ail ysbyty dros dro mwyaf yn y DU. Roedd hyn yn diogelu gallu’r bwrdd iechyd i ofalu am yr holl gleifion yn ystod ton gyntaf argyfwng COVID-19.

 

Dywed Len Richards, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Rwyf yn falch iawn o bawb oedd yn rhan o’r broses o adeiladu, darparu a gweithredu Ysbyty Calon y Ddraig. Mae’r hyn y gwnaethom ei gyflawni yn Stadiwm Principality y llynedd yn mynd i adael gwaddol parhaus a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn ni yn BIP Caerdydd a’r Fro yn darparu gofal am gyfnod hir i ddod. Roedd hyn ond yn bosibl o ganlyniad i gryfder y partneriaethau dan sylw, a hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid a Llywodraeth Cymru, am eu cefnogaeth gyda’r rhaglen waith hon. Yn y diwedd, roeddem yn ffodus iawn mai dim ond nifer fach iawn o gleifion a gafodd eu trin yn Ysbyty Calon y Ddraig, gan fod pobl Caerdydd a’r Fro wedi chwarae eu rhan ac wedi dilyn y cyfyngiadau COVID yn ddiwyd. Fodd bynnag, ar yr adeg y gwnaethom ddechrau’r gwaith adeiladu, roedd y sefyllfa yn ddifrifol iawn, a gallem fod wedi bod angen y 1500 o welyau ychwanegol hynny yn hawdd. Mae’n gas gennyf feddwl beth fyddai wedi digwydd pe na baem wedi cyflawni’r hyn a wnaethom yn Ysbyty Calon y Ddraig.”

 

Dywed Jonathan Gray, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella yn BIP Caerdydd a’r Fro a’r Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer Ysbyty Calon y Ddraig, “Rwy’n hynod falch o’r hyn y gwnaeth y tîm anhygoel hwn o bobl o gefndiroedd a sectorau gwahanol ei gyflawni gyda’i gilydd o dan y terfynau amser mwyaf llym, a bygythiad COVID-19 a oedd yn dod i’r amlwg yn ystod gwanwyn y llynedd. Bydd y gwersi a ddysgwyd gennym yn Ysbyty Calon y Ddraig yn aros gyda fi, a dwi’n credu gyda’r system iechyd gyfan yng Nghaerdydd a’r Fro, am byth. Rydym eisoes wedi dechrau adeiladu arnynt drwy Sefydliad Calon y Ddraig, fel bod pawb – staff, dinasyddion a chleifion fel ei gilydd – yn gallu elwa ar safon uchel y gwaith partneriaeth a welsom. Mae’n rhywbeth i anelu ato yn ein hymarfer bob dydd wrth symud ymlaen.”

Avatar photo
Written by:
Bryn Kentish