Bydd hyn yn gwella dulliau ataliol presennol, gan gynnwys y gwaith arloesol a wneir gan Synnwyr Bwyd Cymru, partneriaeth â chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd sy’n dda i bobl ac sy’n dda i’r blaned. Mae hefyd yn cwmpasu’r bartneriaeth systemau bwyd arloesol a ddatblygwyd yng Nghaerdydd (Bwyd Caerdydd) a’r Fro (Bwyd y Fro), ac mae’n cyfrannu at uchelgeisiau i hyrwyddo tir, aer a dŵr iach i gefnogi dal a storio cymunedol, natur a charbon; gwneud y gorau o system fwyd Cymru ar gyfer lles, cymuned a natur; a sicrhau bod lleisiau cudd natur a chenedlaethau’r dyfodol yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau.
Mae’r nod i ailgysylltu bwyd, iechyd a natur yn ganolog i gyflawni ein nodau strategol – yn bennaf i osgoi niwed, gwastraff, ac amrywiaeth a chefnogi pobl i ddewis ymddygiad iach, sy’n greiddiol i’n hymateb i newid yn yr hinsawdd, ac sydd wrth wraidd ein hymdrechion i sefydlu dulliau mwy cynaliadwy o ymdrin â gofal iechyd. Dyma’r rheswm pam fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCAF) a North Star Transition (NST) wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth i fynd i’r afael â rhai o heriau iechyd mwyaf dyrys y genedl Rydym yn datblygu ffordd newydd o ddysgu a gweithio gyda’n gilydd er mwyn creu cyfleoedd i ailadeiladu’r gymuned, ailgysylltu â systemau ecolegol, ac i sefydlu dulliau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd newydd i ymdrin ag iechyd a gofal.
Mae’r NST yn cynnig llwyfan i randdeiliaid amrywiol o bob rhan o Gymru i sbarduno canlyniadau cadarnhaol ar les, bwyd a’r amgylchedd. Crëwyd Wales Transition Lab (“WTL”) gan yr NST i ddatblygu dull newydd o fynd i’r afael â heriau systemig drwy ail-fframio safbwyntiau rhanddeiliaid sydd wedi’u datgysylltu, a chydweithio radical. Mae’r NST yn gweithio mewn partneriaeth ag Uned Gweithredu Hinsawdd Coleg Prifysgol Llundain sy’n dod ag arbenigedd maes dwfn ar faterion yn ymwneud â’r hinsawdd, ac wrth ddefnyddio dulliau niwrowyddoniaeth newydd o hwyluso ymgysylltu rhwng rhannau o’r system sydd wedi’u datgysylltu.