Roedd ymateb COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn llawn ysbryd cydweithredu ac arwain ar y cyd, parodrwydd i addasu ac arloesi gyda datrysiadau radical, ac ymrwymiad staff i fynd gam ymhellach.
Roedd yn bresennol ym mhobman yn y system, ar bob lefel, ac mae’n amlwg o’r ymateb COVID-19, fod llawer o’r syniadau gorau ynghylch sut olwg ddylai fod ar ofal iechyd yn y dyfodol, sut y gellir gwella gwasanaethau ymhellach a pharhau i’w darparu’n gynaliadwy er budd cenedlaethau’r dyfodol, yn dod o’r sawl ar y rheng flaen.
Gan fyfyrio ar yr hyn a ddysgodd fel system yn ystod y pandemig COVID-19, a amlinellwyd yn Adroddiad Darganfod COVID-19, nododd y Bwrdd Iechyd angen critigol i gynnal y momentwm hwn a’r parodrwydd i arloesi a daniwyd gan y pandemig.
Un o brif gyflawniadau dyddiau cynnar y pandemig oedd cynllunio ac adeiladu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. Y cyfleuster dros dro hwn oedd yr ysbyty ymchwydd mwyaf yng Nghymru a’r ail mwyaf yn y DU. Dim ond pum diwrnod a gymerwyd i ddylunio’r ysbyty, ac roedd y 300 gwely cyntaf yn barod i dderbyn cleifion o fewn y 12 diwrnod cyntaf, gydag 1,200 o welyau pellach yn barod o fewn 39 diwrnod.
Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol ar ôl COVID-19, ysbryd Calon y Ddraig – sef ysbryd sy’n cyfleu syniadau radical, cydweithredu ac arwain ar y cyd – a fydd yn galluogi’r system gofal iechyd i fynd i’r afael â’r holl broblemau parhaus a wyneba gyda’r un cadernid. Er mwyn cynnal a throsi’r ysbryd hwn yn rhywbeth diriaethol, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ffurfio Sefydliad Calon y Ddraig.
Bydd Sefydliad Calon y Ddraig yn ysgogi trawsnewid o fewn y Bwrdd Iechyd, bydd yn arwain arloesi ac yn gatalydd ar gyfer newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn gwella canlyniadau i ddinasyddion yng Nghaerdydd a’r Fro, Cymru a thu hwnt.
Bydd Sefydliad Calon y Ddraig yn darparu cymorth a seilwaith i’r aelodau hyn o staff, gan fuddsoddi ynddynt a’i gwneud yn haws iddynt ysgogi newid, a’u galluogi i ddatblygu eu sgiliau arwain, cydweithredu’n effeithiol â’i gilydd ar draws ffiniau sefydliadol traddodiadol, a chysylltu â phartneriaid mewn sefydliadau iechyd eraill, diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru a ledled y byd.
Yn barod, mae Sefydliad Calon y Ddraig wedi sefydlu partneriaeth ddysgu gyda’r King’s Fund, er mwyn hyrwyddo’r gwersi mwyaf gwerthfawr a ddysgwyd o’r pandemig COVID-19, a bydd yn cyfrannu at ddarparu Academïau Lledaeniad a Graddfa’r dyfodol BIP Caerdydd a’r Fro, a’r Academi Dysgu Dwys, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.