{"id":2244,"date":"2022-02-09T14:01:43","date_gmt":"2022-02-09T14:01:43","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/"},"modified":"2022-02-09T14:01:43","modified_gmt":"2022-02-09T14:01:43","slug":"arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/","title":{"rendered":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl"},"content":{"rendered":"<p>Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu\u2019u llesiant a\u2019u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.<\/p>\n<p>I nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, bydd her \u2018Step Up\u2019 yn gweld arddegwyr yn gwneud 12.5k o gamau, sy\u2019n gyfwerth \u00e2 10km, yn gyfnewid am bwyntiau i\u2019w gwario ar weithgareddau llesiant neu fwyd iach.<\/p>\n<p>Bydd pawb sy\u2019n cwblhau\u2019r her yn ennill 10 pwynt, y gellir eu cyfnewid am eitemau fel dau bryd o fwyd iach yn ffreutur yr ysgol neu bas ar gyfer y gampfa.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/2509156-fifth-of-young-people-in-wales-were-experiencing-poor-mental-health-prior-to-covid-19,-report-shows\">Dengys data<\/a>diweddar gan Brifysgol Caerdydd fod un o bob pump (19%) o bobl ifanc yng Nghymru wedi dioddef problemau iechyd meddwl cyn y pandemig, wrth i astudiaeth arall ddangos mai\u2019r gr\u0175p hwn ddioddefodd y dirywiad mwyaf mewn llesiant meddwl o ganlyniad i COVID-19.<\/p>\n<p>Drwy gynyddu\u2019u camau dyddiol, mae arddegwyr yn debygol o weld gwelliant yn eu hiechyd meddwl, gan gynnwys lleihad mewn tensiwn, pwysau a blinder yn ogystal \u00e2 gwell hwyl, hunan-barch a ffocws.<\/p>\n<p>Mae her Step Up yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Dai Newydd a Hybiau Cydlynu Ymchwil, Gwella ac Arloesi (RIIC) Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n<p>Bydd pob sefydliad yn gweithio gyda chymunedau ledled De Cymru i edrych ar ffyrdd o wella iechyd a llesiant mewn cymunedau.<\/p>\n<p>Mae prosiect HAPI Cymdeithas Dai Newydd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim gan gynnwys Get Fit Cymru sy\u2019n cydweithio gydag ysgolion ar draws De Cymru i wella gwybodaeth teuluoedd am ffitrwydd a bwyta\u2019n iach.<\/p>\n<p>Un person ifanc sydd wedi elwa o gymryd rhan mewn her Get Fit Cymru yw Samy Jo, 19, o Rondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l profi trawma personol a\u2019i chael hi\u2019n anodd dygymod yn ddyddiol, roedd Samy Jo\u2019n treulio llawer o amser yn ei hystafell wely\u2019n gwylio\u2019r teledu. Roedd y bywyd hwn yn effeithio ar ei ffitrwydd personol a\u2019i gwaith ysgol, gan effeithio\u2019n negyddol ar ei bywyd.<\/p>\n<p>Fe wnaeth ysgol Samy Jo, Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd, gofrestru ar gyfer Get Fit Cymru, a derbyniodd hi anogaeth gan athrawon i wirfoddoli gyda\u2019r cynllun.<\/p>\n<p>Drwy gyfrwng mynd i gerdded yn ddyddiol, buan roedd Samy Jo wedi codi\u2019i nifer camau, a chasglodd ddigon o bwyntiau i brynu bagiau o ffrwythau a llysiau drwy wefan Get Fit Cymru. Gyda llawer o fwyd ffres ar gael, roedd Samy Jo\u2019n gallu coginio prydau bwyd iach ar gyfer ei theulu, gan hybu\u2019u llesiant nhw hefyd.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae Samy Jo wedi cerdded dros 931,058 cam ac mae hi bellach yn llawer gwell yn gorfforol a meddyliol. Ar \u00f4l cael ei hysbrydoli gan fanteision bywyd iachach, mae\u2019r arddegwr bellach ynn cynllunio i fynd i brifysgol i astudio Therapi Galwedigaethol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"aligncenter\" src=\"https:\/\/www.ctmregionalpartnershipboard.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Banner-for-webpage-GFW.png\"><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Yn \u00f4l Lisa Voyle, Uwch Swyddog Prosiect gyda Phrosiect HAPI, dan arweiniad Cymdeithas Dai Newydd:<\/strong><\/p>\n<p>\u201cDyw hi ddim yn gyfrinach fod gwneud newidiadau cadarnhaol i\u2019ch ffordd o fyw yn gallu cael effaith gwirioneddol dda ar iechyd meddwl pobl. Gwyddom fod pobl ifanc wedi cael eu heffeithio\u2019n arbennig gan y pandemig, ac roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd o godi\u2019u hysbryd, ac ar yr un pryd eu gweld yn elwa o ran ffitrwydd meddyliol a chorfforol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n wych cael sawl ysgol yn cymryd rhan yn her Step Up, ond hoffem annog unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn ymuno i gymryd rhan drwy gyfrwng gwefan Get Fit Cymru<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n rhad ac am ddim i ymuno, ac ar \u00f4l i bobl gofrestru, gallan nhw ddechrau tracio\u2019u camau ac ennill pwyntiau i\u2019w gwario ar ystod o bethau, o ddosbarthiadau yn y gampfa i brynu bwyd ffres i\u2019w fwynhau gartref, Allwn ni ddim aros i glywed oddi wrth bobl drwy\u2019r wythnos!\u201d<\/p>\n<p><strong>Meddai Lizzie Thomas, Swyddog Ymgysylltu gyda Hwb Ymchwil, Gwella ac Arloesi Cwm Taf Morgannwg: <\/strong><\/p>\n<p><strong>\u201c<\/strong>Gall diffyg iechyd meddwl gael effaith negyddol iawn ar fywyd rhywun, o\u2019u haddysg i\u2019w perthynas ag eraill, felly mae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella llesiant.<\/p>\n<p>\u2018Yn Hwb RIIC CTM rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a thynnu sylw at enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont Ar Ogwr.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi bod yn wych gallu cydweithio gydag ystod o bobl, gan gynnwys Cymdeithas Dai Newydd ac ysgolion lleol, sy\u2019n frwd dros wneud bywyd yn well i bobl ifanc ledled de Cymru.<\/p>\n<p>\u201cEin gobaith yw y bydd cymryd rhan yn her \u2018Step Up\u2019 yn dangos i bobl ifanc nad ydyn nhw ar eu pen eu hun, ac y bydd yn eu hysbrydoli i ddysgu sgiliau newydd, boed hynny drwy gyfrwng dosbarth newydd yn y gampfa neu goginio mwy o brydau bwyd gartref! Gobeithio y bydd pobl yn cael hwyl yn ystod yr wythnos, ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at glywed am brofiadau pobl.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Elaine Lewis, Arweinydd Hwb RIIC a Rheolwr Gwella\u2019r Gwasanaeth yn Hwb Ymchwil, Gwella ac Arloesi Cwm Taf Morgannwg:<\/strong><\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n llawn cyffro yng Nghaerdydd a\u2019r Fro i fod yn rhan o\u2019r prosiect gwych hwn sy\u2019n dwyn ynghyd bob partner i gyflawni nodau cymuned iachach.<\/p>\n<p>\u201cDoes s dim byd gwell na chael dos o\u2019r awyr agored i hybu iechyd meddwl. Gall diffyg iechyd meddwl arwain sawl un i deimlo\u2019n ynysig a di-sbardun \u2013 ac mae\u2019r pandemig presennol wedi gwneud hyn oll yn waeth. Mae wedi bod yn adeg anodd i lawer, ond wrth sylweddoli\u2019r cyswllt rhwng iechyd corfforol a meddyliol, mae Her \u2018Step Up\u2019 yn dangos ein bod ni yn hyn gyda\u2019n gilydd ac y gallwn helpu\u2019n gilydd i dynnu ein gilydd drwyddi.<\/p>\n<p>&#8220;Gyda gwobrwyon mor rhagorol o fwyd iach a gweithgareddau RHAD AC AM DDIM rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weld canlyniadau a llwyddiannau pawb a chynllunio\u2019r her nesaf!\u201d<\/p>\n<h2><strong>Sut i gymryd rhan<\/strong><\/h2>\n<p>Anogir pawb sydd \u00e2 diddordeb mewn cymryd rhan yn Step Up i gofrestru gan ddefnyddio\u2019r <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/forms\/d\/1rSNSQcJrxpNcYDrNu-xlpb_5qO_csdQ3HAmaNGaVx2Q\/edit\"><strong>ffurflen syml hon<\/strong><\/a> ar wefan Get Fit Cymru, ble gallan nhw ddechrau tracio\u2019u camau gan ddefnyddio\u2019u ff\u00f4n symudol. Does dim angen cael traciwr ffitrwydd am fod gan lawer o ffonau declyn cyfri fel rhan o\u2019i strwythur.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cofrestru, bydd pobl yn cael eu gofyn i rannu llun-sgrin o\u2019r camau y maen nhw wedi\u2019u gwneud. Ar \u00f4l iddyn nhw gyrraedd 12.5k o gamau, byddan nhw\u2019n derbyn pwyntiau i\u2019w gwario ar ystod o bethau gan gynnwys sesiynau nofio a\u2019r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd neu hyd yn oed nwyddau bwyd iach o un o\u2019r llu siopau a gofrestrwyd gyda Get Fit Cymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Darllenwch fwy am <a href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/projects\/the-research-innovation-and-improvement-coordination-riic-hub\/\">Hwb Cydlynu Gwella Ymchwil ac Arloesi Caerdydd a&#8217;r Fro ( RIIC).<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu\u2019u llesiant a\u2019u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. I nodi dechrau Wythnos&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":2241,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-2244","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu\u2019u llesiant a\u2019u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. I nodi dechrau Wythnos...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-02-09T14:01:43+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"760\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"400\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Bryn Kentish\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Bryn Kentish\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Bryn Kentish\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f\"},\"headline\":\"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl\",\"datePublished\":\"2022-02-09T14:01:43+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/\"},\"wordCount\":1126,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/\",\"name\":\"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png\",\"datePublished\":\"2022-02-09T14:01:43+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png\",\"width\":760,\"height\":400},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f\",\"name\":\"Bryn Kentish\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"caption\":\"Bryn Kentish\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/bryn\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute","og_description":"Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu\u2019u llesiant a\u2019u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. I nodi dechrau Wythnos...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2022-02-09T14:01:43+00:00","og_image":[{"width":760,"height":400,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png","type":"image\/png"}],"author":"Bryn Kentish","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Bryn Kentish","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/"},"author":{"name":"Bryn Kentish","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f"},"headline":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl","datePublished":"2022-02-09T14:01:43+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/"},"wordCount":1126,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png","inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/","name":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png","datePublished":"2022-02-09T14:01:43+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/GFW-Webpage-photo-2-e1644414624913.png","width":760,"height":400},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/arddegwyr-yn-cymryd-cam-ymlaen-dros-iechyd-meddwl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f","name":"Bryn Kentish","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","caption":"Bryn Kentish"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/bryn\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2244","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2244"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2244\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2241"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2244"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2244"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2244"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}