{"id":2130,"date":"2022-01-18T16:07:39","date_gmt":"2022-01-18T16:07:39","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/"},"modified":"2022-01-18T16:21:16","modified_gmt":"2022-01-18T16:21:16","slug":"rhoswen-mcknight-time-to-care","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/","title":{"rendered":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu"},"content":{"rendered":"<p>O oedran ifanc, rwyf bob amser wedi gwybod mai nyrs fyddwn i. Mae fy chwaer, Sarah, yn anabl ac fel plentyn cefais fy magu yn dysgu sut i ofalu am bobl. Mae&#8217;r dyhead cynhenid hwnnw i ofalu bob amser wedi bod yn rhan o\u2019m hunaniaeth, ac er bod fy rhieni bob amser wedi ymdrechu&#8217;n galed iawn i ganiat\u00e1u i mi ddilyn fy llwybr fy hun, mae&#8217;r llwybr hwnnw wedi fy arwain at fod yn ddarparwr gofal, i fod yn nyrs.<\/p>\n<p>Mae rhywbeth sy&#8217;n galw nyrsys i&#8217;w proffesiwn. Pan gymhwysais fel nyrs, deuthum o hyd i ymdeimlad o bwrpas a hunaniaeth. Bydd yn rhan o bwy ydw i am weddill fy mywyd gwaith, ac rwy\u2019n teimlo braint a balchder mawr yn ei rannu gyda chymaint o gydweithwyr yn Felindre ac yn y gwasanaeth iechyd ar draws y DU gyfan.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid oes dianc o&#8217;r ffaith bod nyrsio, yn syml iawn, yn waith caled. Os wnaethoch chi, fel fi, fynychu&#8217;r brifysgol yn syth ar \u00f4l gadael yr ysgol, a chymhwyso fel nyrs dair blynedd yn ddiweddarach, mae\u2019n anodd iawn dod i delerau \u00e2 maint y cyfrifoldeb sy&#8217;n cael ei roi ar eich ysgwyddau fel person ifanc yn eich ugeiniau. Mae rhwydweithiau cymorth ar waith o&#8217;ch cwmpas, ond serch hynny rydych chi&#8217;n dod yn ymwybodol iawn o&#8217;r effaith wirioneddol y gallai eich gweithredoedd, a&#8217;ch penderfyniadau, ei chael ar eich cleifion.<\/p>\n<p>Y llynedd, roeddwn yn ffodus iawn i ddechrau swydd newydd fel Prif Nyrs Glinigol ac er fy mod yn ddiolchgar am y cyfle, roedd y trawsnewidiad i r\u00f4l arwain yn 25 oed yn un anodd. Cefais fy hun yn datblygu agwedd fwy cadarn a difrifol yn y gwaith, gan fy mod yn teimlo fel pe bai&#8217;n rhaid i mi ymddwyn mewn ffordd benodol i ennill parch fy nghymheiriaid a phrofi y gallwn berfformio yn y swydd newydd hon.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n sicr bod hyn yn rhywbeth y bydd pobl ifanc eraill yn fy swydd i\u2019n gallu uniaethu ag ef. Ni chynigiwyd hyfforddiant ffurfiol ar sut i fod yn arweinydd (yn hytrach na rheolwr) a chredaf ei fod wedi cymryd blwyddyn neu fwy o fewnsyllu i ddod o hyd i&#8217;r math o arweinydd yr wyf am ei fod mewn gwirionedd; un sy&#8217;n hyrwyddo caredigrwydd, tosturi, datblygiad fy staff a chymheiriaid. Drwy ganolbwyntio ar bwy ydw i a&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig i fi, a bod yn fi fy hun, gallaf arwain gyda\u2019m calon a pheidio \u00e2 chuddio fy ngwendidau am fy mod ofn edrych yn wan. Fe wnes i ymuno \u00e2&#8217;r maes hwn i roi gofal, a dyna beth rydw i&#8217;n benderfynol o&#8217;i wneud \u2014 i&#8217;m cleifion a\u2019m cydweithwyr.<\/p>\n<p>Yn anffodus, mae&#8217;r pwysau yr ydym yn ei brofi o ddydd i ddydd yn golygu bod cyfleoedd datblygu yn brin iawn. Er nad oes gennyf yr atebion o ran sut rydw i&#8217;n mynd i gyflawni hyn eto, rwyf am sicrhau bod ein system yn cael ei sefydlu i gefnogi a datblygu\u2019r arweinwyr naturiol yn y gweithlu iau, gan eu helpu i ddod o hyd i&#8217;w lleisiau, a throi eu syniadau yn realiti a fydd o fudd i&#8217;r rhai yr ydym yn gofalu amdanynt. Mae angen i ni hyrwyddo sgiliau&#8217;r sawl rydyn ni&#8217;n gweithio gyda nhw a chydnabod yr hyn sydd gan unigolion i&#8217;w gynnig.<\/p>\n<p>Rwyf wedi dod i sylweddoli bod angen i ni gael sgwrs ddifrifol am ein hadnodd mwyaf gwerthfawr yn fy marn i: amser. Mae\u2019r GIG yn mynnu bod amser yn adnodd hynod werthfawr i&#8217;n cleifion ac y dylem ymdrechu i beidio \u00e2&#8217;i wastraffu. Mae&#8217;r un mor werthfawr i ni fel staff. Gallaf dystio i hyn, gan fy mod wedi cael yr amser yn ddiweddar i wneud cais am Climb Cymru a&#8217;i fynychu.<\/p>\n<p>Er y gall deimlo&#8217;n anodd gadael y ward a gadael eich cydweithwyr gan wybod pa mor brysur yw pethau, mae cael yr amser penodedig i ddatblygu eich gwybodaeth a&#8217;ch sgiliau yn amhrisiadwy. Mae&#8217;n caniat\u00e1u ichi ganolbwyntio ar eich twf. Credaf yn ddiffuant y bydd defnyddio ein hamser gwerthfawr yn y ffordd amhrisiadwy hon yn allweddol i ddatblygu a chadw ein gweithlu iau yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Fel y dywedaf, nid oes gennyf yr holl atebion, ac megis cychwyn fy nhaith arwain fy hun ydw i, gan ddarganfod y pethau hyn amdanaf fy hun a\u2019m gyrfa mewn amser real. Yr hyn rwyf yn ei wybod yw bod cryfder mewn bod yn iau, ni yw p\u0175er cudd y gweithlu ac adnodd y dylid buddsoddi ynddo. Rwy&#8217;n benderfynol o hyrwyddo amser datblygu i staff lle bynnag y gallaf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae ceisiadau ar gyfer ail garfan Climb yn agor ddydd Gwener 21 Ionawr 2022. <a href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/projects\/climb\/\">Ewch i dudalen we Climb i gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno a gwneud cais.<\/a><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>O oedran ifanc, rwyf bob amser wedi gwybod mai nyrs fyddwn i. Mae fy chwaer, Sarah, yn anabl ac fel plentyn cefais fy magu yn dysgu sut i ofalu am&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":17,"featured_media":3521,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[67],"tags":[],"class_list":["post-2130","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-views-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"O oedran ifanc, rwyf bob amser wedi gwybod mai nyrs fyddwn i. Mae fy chwaer, Sarah, yn anabl ac fel plentyn cefais fy magu yn dysgu sut i ofalu am...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-01-18T16:07:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-01-18T16:21:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Rhoswen McKnight\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Rhoswen McKnight\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Rhoswen McKnight\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/93018e0d735b0b227b4a2353303909a3\"},\"headline\":\"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu\",\"datePublished\":\"2022-01-18T16:07:39+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-18T16:21:16+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/\"},\"wordCount\":821,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Untitled-design-6.png\",\"articleSection\":[\"Barn\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/\",\"name\":\"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Untitled-design-6.png\",\"datePublished\":\"2022-01-18T16:07:39+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-18T16:21:16+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Untitled-design-6.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Untitled-design-6.png\",\"width\":1920,\"height\":1080},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/rhoswen-mcknight-time-to-care\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/93018e0d735b0b227b4a2353303909a3\",\"name\":\"Rhoswen McKnight\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/01\\\/DHI-People-96x96.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/01\\\/DHI-People-96x96.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/01\\\/DHI-People-96x96.png\",\"caption\":\"Rhoswen McKnight\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/rhoswen-mcknight\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute","og_description":"O oedran ifanc, rwyf bob amser wedi gwybod mai nyrs fyddwn i. Mae fy chwaer, Sarah, yn anabl ac fel plentyn cefais fy magu yn dysgu sut i ofalu am...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2022-01-18T16:07:39+00:00","article_modified_time":"2022-01-18T16:21:16+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1080,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png","type":"image\/png"}],"author":"Rhoswen McKnight","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Rhoswen McKnight","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/"},"author":{"name":"Rhoswen McKnight","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/93018e0d735b0b227b4a2353303909a3"},"headline":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu","datePublished":"2022-01-18T16:07:39+00:00","dateModified":"2022-01-18T16:21:16+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/"},"wordCount":821,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png","articleSection":["Barn"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/","name":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png","datePublished":"2022-01-18T16:07:39+00:00","dateModified":"2022-01-18T16:21:16+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Untitled-design-6.png","width":1920,"height":1080},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/rhoswen-mcknight-time-to-care\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rhoswen McKnight: Amser i ofalu"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/93018e0d735b0b227b4a2353303909a3","name":"Rhoswen McKnight","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/DHI-People-96x96.png","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/DHI-People-96x96.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/DHI-People-96x96.png","caption":"Rhoswen McKnight"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/rhoswen-mcknight\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2130","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/17"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2130"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2130\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2131,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2130\/revisions\/2131"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3521"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2130"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2130"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2130"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}